Newyddion y Coleg

Galwad genedlaethol i chwaraewyr

 

Mae dau fyfyriwr yng Ngholeg Sir Gâr wedi cael eu dewis ar gyfer tîm pêl-droed Cymru dan 19 oed Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Bydd Liam Testino sy'n fyfyriwr gwaith barbwr a'r myfyriwr Safon Uwch Ben Honeybun, y ddau ohonynt yn 18 oed, yn herio Ysgolion Annibynnol Lloegr ym Mharc Sant Siôr a thîm dan 23 oed y Llu Awyr Brenhinol yng nghanolfan RAF Cosford, Wolverhampton.

Meddai Jonathan Garcia, pennaeth academi bêl-droed Coleg Sir Gâr: “Cafwyd perfformiadau ardderchog gan Liam a Ben sydd wedi arwain at eu dewis ar gyfer y garfan genedlaethol, rydym yn falch dros ben.”

Hefyd mae Liam yn chwarae yn safle'r canolwr dros Glwb Pêl-droed Caerfyrddin a Ben fel chwaraewr canol cae dros Glwb Pêl-droed Seaside.

 

Chwaraeon

Chwaraeon

Addysg Oedolion

Addysg Oedolion

Dysgwyr 14-19

Dysgwyr 14-19

Addysg Uwch

Addysg Uwch

Campysau

Campysau

Llyfrgell

Llyfrgell