Newyddion y Coleg

Cyn-chwaraewr o'r coleg yn astudio yn yr Unol Daleithiau

Mae myfyriwr o Academi Bêl-droed Coleg Sir Gâr yn astudio yn America er mwyn dilyn addysg brifysgol yn y gamp.

Liam Testino, sy'n 18 oed ac yn dod o Lanelli, yw'r trydydd myfyriwr o'r coleg i astudio yn UDA ac mae'n dilyn yn ôl traed y cyn-fyfyrwyr chwaraeon Iwan Roberts a Grant Stamp.

Mae'r cyn-ddisgybl o Ysgol Coedcae sy'n chwarae dros Glwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin wedi cynrychioli Coleg Sir Gâr mewn nifer o gynghreiriau gan gynnwys tîm dan 19 oed Cymdeithas  Bêl-droed Cymru a bu'n gapten ar dîm academi'r coleg.

Bellach mae wedi arwyddo i Goleg Cymunedol Archers St Louis ym Missouri.

Meddai Jonathan Garcia, cyfarwyddwr yr academi bêl-droed yng Ngholeg Sir Gâr: “Roedd Liam bob amser yn chwarae'n dda yn gyson, roedd yn mwynhau llwyddiant mewn chwaraeon ac roedd yn caru'r gêm. Dymunwn y gorau iddo yn ei astudiaethau a'i berfformiad dramor.”

 

Chwaraeon

Chwaraeon

Addysg Oedolion

Addysg Oedolion

Dysgwyr 14-19

Dysgwyr 14-19

Addysg Uwch

Addysg Uwch

Campysau

Campysau

Llyfrgell

Llyfrgell

Dolenni Cyflym

Cysylltwch gyda ni

  •               

  • This page is also available in English. Please change the language option at the top of the page to access.