Newyddion y Coleg

Y Llu Awyr Brenhinol (RAF) yn profi sut mae gyrfaoedd yn gallu cyrraedd y gorwelion

 

Mae myfyrwyr y gwasanaethau cyhoeddus yng Ngholeg Sir Gâr wedi gweld sut gall eu gyrfaoedd ehedeg ymaith gyda help y Llu Awyr Brenhinol.

Daeth corporal a swyddog gwarantedig, sydd wedi gwasanaethu mor bell i ffwrdd ag Affganistan, Copenhagen, Yr Almaen a Norwy, ar ymweliad â'r coleg, gan bwysleisio cyfleoedd byd-eang y Llu Awyr Brenhinol. 

Mae gyrfaoedd yn ymestyn o reolwyr awyrdeithiau ac awyrennau ymladd, logisteg, heddlu, meddygaeth a deintyddiaeth i arbenigwyr cyfarpar goroesi. 

Meddai Amanda Morgan, arweinydd cwrs y gwasanaethau cyhoeddus yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae ymweliadau fel y rhain yn hanfodol i fyfyrwyr allu gweld dros eu hunain beth yw'r cyfleoedd sydd ar gael wrth weithio i'r Lluoedd Prydeinig. Rhoddodd y tîm gipolwg ardderchog ar fywyd yn yr awyrlu a pha gyfleodd a chymwysterau y gellir eu hennill.

“Hefyd cafwyd cipolwg ar yr ystod o awyrennau ymladd a ddefnyddir i amddiffyn gofod awyr y Deyrnas Unedig, eu gallu i frwydro yn yr awyr a sut mae rhai modelau'n gallu casglu gwybodaeth yn yr awyr. Roedd yn gipolwg diddorol ac ysbrydoledig.”

 

Chwaraeon

Chwaraeon

Addysg Oedolion

Addysg Oedolion

Dysgwyr 14-19

Dysgwyr 14-19

Addysg Uwch

Addysg Uwch

Campysau

Campysau

Llyfrgell

Llyfrgell

Dolenni Cyflym

Cysylltwch gyda ni

  •               

  • This page is also available in English. Please change the language option at the top of the page to access.