Newyddion y Coleg

Digwyddiad ffasiwn yn sicrhau steil

 

Cynhelir digwyddiad ffasiwn a thecstilau yng Nghaerfyrddin sydd wedi'i drefnu gan fyfyrwyr yn Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr. 

 

 

Mae myfyrwyr ffasiwn a thecstilau wedi bod yn cydweithio i greu llyfr llygadu (look book) ar gyfer y digwyddiad hwn sydd yn agored i'r cyhoedd yn rhad ac am ddim.  

 

Mae'r llyfr llygadu yn gyfuniad o syniadau, samplau a darluniadau, a chaiff ei arddangos yn gyhoeddus y mis nesaf. 

 

Cynhelir y digwyddiad, o'r enw "Collaboration", ym mwyty'r  Warren, 11 Heol Mansel, Caerfyrddin ar nos Fawrth Ebrill 17 o 6pm i 10pm. 

 

Meddai Laura John, myfyrwraig gradd anrhydedd mewn tecstilau yng Ngholeg Sir Gâr sy'n trefnu'r digwyddiad: “Mae cynllunio'r digwyddiad hwn wedi bod yn brofiad gwych ac rwyf wedi mwynhau gweithio mewn grŵp gyda phobl ardderchog.” 

 

Am ragor o fanylion cysylltwch ag Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..

 

Diwedd 

 

Nodiadau cyfryngau: Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Laura John ar 07491 489 953 neu trwy e-bost Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Chwaraeon

Chwaraeon

Addysg Oedolion

Addysg Oedolion

Dysgwyr 14-19

Dysgwyr 14-19

Addysg Uwch

Addysg Uwch

Campysau

Campysau

Llyfrgell

Llyfrgell

Dolenni Cyflym

Cysylltwch gyda ni

  •               

  • This page is also available in English. Please change the language option at the top of the page to access.