Newyddion y Coleg

Myfyriwr Peirianneg Amaethyddol yn ennill gwobr y DU

Mae Sefydliad y Peirianwyr Amaethyddol (IAgrE) wedi dyfarnu cydnabyddiaeth y DU gyfan i fyfyriwr yng Ngholeg Sir Gâr am iddo ddylunio a gweithgynhyrchu offer codi rhwyd ar gyfer peiriant byrnau crwn 

Fel rhan o'i astudiaethau peirianneg amaethyddol ar gampws y coleg yn y Gelli Aur bu Thomas Mathias, sy'n 19 oed ac yn dod o Hwlffordd, yn dylunio a gweithgynhyrchu offer codi rhwyd mecanyddol ar gyfer peiriant byrnau crwn, sy'n ysgafnu'r pwysau codi ar gyfer gweithredydd y peiriant byrnu pan fydd yn defnyddio rholiau mawr o rwydi sy'n pwyso hyd at 45 cilogram.

O ganlyniad i ansawdd y gwaith mae Thomas wedi ennill Gwobr Prosiect Myfyrwyr IAgrE a Gwobr Diogelwch Myfyrwyr IAgrE, sy'n annog arloesedd mewn dyluniad a gweithrediad diogel. 

Fel rhan o'u cwrs, cafodd yr holl fyfyrwyr y dasg o ddylunio a gweithgynhyrchu darn o gyfarpar a fyddai'n helpu'r sector amaethyddol, ac yna byddai rhaid iddynt gyflwyno eu syniadau a'u darnau a gynhyrchwyd i gynrychiolwyr y diwydiant.

Meddai Geraint Evans, darlithydd y cwrs: “Mae gan y cynnyrch lawer o botensial ac mae'n ddarn o beirianwaith y mae mawr angen amdano yn y diwydiant. 

“Mae ein myfyrwyr wedi ennill gwobrau IAgrE am ddylunio a diogelwch yn gyson ers 2012 ac mae hyn credaf, yn dangos safon eu gwaith.”

 

Llun ENILLYDD Y DU: Thomas Mathias, myfyriwr peirianneg amaethyddol yng Ngholeg Sir Gâr yn derbyn Gwobr Cynnyrch Myfyrwyr a Gwobr Diogelwch Myfyrwyr Sefydliad y Peirianwyr Amaethyddol (IAgrE). Dyma fe yn y llun ar y diwrnod gwobrwyo gyda'r darlithwyr Colin Jones a Geraint Evans.

 

 

Chwaraeon

Chwaraeon

Addysg Oedolion

Addysg Oedolion

Dysgwyr 14-19

Dysgwyr 14-19

Addysg Uwch

Addysg Uwch

Campysau

Campysau

Llyfrgell

Llyfrgell

Dolenni Cyflym

Cysylltwch gyda ni

  •               

  • This page is also available in English. Please change the language option at the top of the page to access.