# Gartref

O'r Ysgol i'r Coleg 14-19   Addysg Uwch  Parhau I Ddysgu  Hyfforddiant ar gyfer y gwaith   Myfyrwyr Rhyngwladol  Chwilio am gwrs 

 


Croeso i Coleg Sir Gâr, un o’r Colegau Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru. Rydym yn gobeithio y bydd ein gwefan yn darparu’r wybodaeth sydd eisiau arnoch chi er mwyn cofrestru ar gwrs yn y coleg.

Ethos y Coleg yw darparu ystod mor eang o gyfleoedd dysgu addysg bellach ac uwch â phosibl i ddiwallu anghenion a dyheadau unigolion a’r gymuned ehangach gan gynnwys cyflogwyr a’u gweithwyr. Ein nod yw helpu myfyrwyr ennill y sgiliau, y wybodaeth a’r cymwysterau sydd eisiau arnyn nhw i’w helpu nhw i symud ymlaen i’r dyfodol gyda hyder, boed i’r myfyrwyr fod yn gadael yr ysgol, chwilio am waith, ailhyfforddi am swydd newydd, datblygu gyrfa neu ddychwelyd i addysg am ddechrau newydd mewn bywyd.

Ar hyn o bryd mae Coleg Sir Gâr yn helpu rhyw 12,000 o ddysgwyr i gyflawni eu potensial, bob un ohonynt yn cael eu trin fel unigolion gan staff cyfeillgar a brwdfrydig sy’n gwneud y profiad dysgu yn un diddorol a llawn hwyl yn ogystal â darparu cymorth personol i gefnogi myfyrwyr er mwyn iddyn nhw gyflawni eu gobeithion a sicrhau eu dyfodol.

Gallai Coleg Sir Gâr eich helpu chi i gyflawni'r hyn rydych chi eisiau a bod yr hyn rydych chi eisiau bod!

Datganiad Cenhadaeth Coleg Sir Gâr

"Annog a galluogi unigolion a sefydliadau i ddatblygu eu gallu a’u potensial trwy ddarparu amgylcheddau a gwasanaethau dysgu dwyieithog, ysgogol o safon uchel sy’n cwmpasu amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu".