ALN Brochure - Cy

GADAEL I NI WYBOD AM EICH ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL Gadewch i’ch Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALNCo) wybod yr hoffech chi i ni fod yn bresennol yn eich adolygiad ysgol. Cysylltwch â’n ALNCO neu Gydlynwyr os ydych yn ansicr ynghylch pa gwrs hoffech chi wneud cais amdano neu dewch draw i’n nosweithiau agored. Cwblhewch y Ffurflen Gais ar-lein Gadewch i ni wybod am eich angen dysgu ychwanegol a ph’un a ydych angen addasiadau i’ch cyfweliad. Dewch i’ch cyfweliad . Gallwch chi drafod eich anghenion gyda Thiwtor Cwrs. Gall aelod o’r tîm Cymorth Dysgu fod yn bresennol hefyd. Yn dibynnu ar eich anghenion: • Ymweliadau wedi’u personoli â’r campws • Cynllunio eich cludiant i’r coleg • Cefnogaeth gyda chofrestru • Cefnogaeth gyda setlo i mewn i fywyd coleg. Holiadur Cymorth Dysgu – gallwch chi roi gwybod mwy i ni am eich anghenion dysgu a’r dewisiadau sydd well gennych. Cynllun Datblygu Unigol (IDP) – os oes gennych chi IDP byddwn yn ei ddiweddaru gyda’r dewisiadau sydd well gennych ynghylch sut rydych chi am gael eich cefnogi yn y coleg, a byddwn yn eich cynnwys wrth adolygu eich cymorth. Proffil Un Dudalen – byddwn yn gweithio gyda chi i gyfathrebu’r dewisiadau sydd well gennych i’r holl staff sydd mewn cysylltiad â chi. Gallwch chi gysylltu â’r tîm Cymorth Dysgu unrhyw amser yn ystod eich taith gyda ni, i roi gwybod i ni os ydych chi am wneud newidiadau i’r ffordd rydych yn cael eich cefnogi yn y coleg. Cyn i chi fynychu’r coleg Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni am eich anghenion dysgu ychwanegol er mwyn i ni allu gwneud yn siŵr ein bod yn gallu eich cefnogi chi. Cymorth Pontio Mae hwn yn eich helpu i ddygymod â newid i le addysg newydd. Tra eich bod yn y coleg Byddwch yn parhau i fod wrth ♥ eich taith yn y coleg. 24

RkJQdWJsaXNoZXIy MjAwMTAx