Mae’r fframwaith hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y proffesiwn cyfrifeg. Mae prentisiaeth sylfaen yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lefel dau, lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Bydd y prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth. Caiff y prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni fframwaith y brentisiaeth sylfaen lefel dau o fewn y raddfa amser gytunedig.
Cipolwg
Rhan Amser
Bydd cwblhau’r fframwaith Prentisiaeth Sylfaen yn cymryd hyd at 12 mis yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Bydd myfyriwr sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn yn datblygu sgiliau mewn cadw cyfrifon cofnodi dwbl a chostio sylfaenol, yn ogystal â dealltwriaeth o lyfrau prynu, gwerthu a chyfeirlyfrau cyffredinol.
Bydd pob dysgwr yn cael ei gefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd ac a fydd yn cysylltu’n agos â’r cyflogwr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cyflawni o fewn graddfeydd amser. Hefyd byddan nhw’n asesu’r prentis yn y gweithle yn ôl y gofyn.
Bydd yr AAT yn gofyn i bob myfyriwr gofrestru gyda'r Corff Proffesiynol. Gall cyfyngiadau aelodaeth fod yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk.
Dull Astudio - Ar-lein ac Ar y Campws
Rydym wedi partneru gydaMindful Educationi gyflwyno’r cwrs hwn trwy ein model Ar-lein ac Ar y Campws hyblyg.
Ar-lein,byddwch yn astudio gwersi fideo arobryn, sydd ar gael ar alw, ac y gellir eu gweld ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur - sy’n golygu y gallwch ddewis sut, pryd a ble rydych chi am astudio. Mae’r gwersi yn para tua 45 munud ac mae animeiddiadau a graffeg symudol yn dod gyda nhw er mwyn dod â chysyniadau’n fyw. Mae cwestiynau ymarfer, deunyddiau gwersi y gellir eu lawrlwytho ac astudiaethau achos rhyngweithiol yn helpu i wella’r profiad dysgu ymhellach a dylai dysgwyr ddisgwyl treulio tua 4-5 awr yn astudio’n annibynnol ar-lein bob wythnos.
Ar y campws, rydych yn elwa ar ddosbarthiadau rheolaidd gyda thiwtor coleg - heb orfod ymrwymo i fynychu sawl noson bob wythnos. Bydd eich tiwtor yn adolygu’r hyn rydych wedi’i ddysgu yn ystod eich gwersi ar-lein a bydd wrth law i roi arweiniad ar gynnydd ac asesu. Bydd trafodaeth gyson gyda chyd-fyfyrwyr yn helpu i atgyfnerthu pwyntiau allweddol tra hefyd yn darparu'r gefnogaeth ychwanegol a'r cymhelliant a ddaw yn sgil bod yn rhan o grŵp.
Dilyniant a Chyflogaeth
Mae’r Dystysgrif AAT mewn Cyfrifyddu yn cwmpasu’r unedau canlynol:
Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon
Egwyddorion Rheolyddion Cadw Cyfrifon
Egwyddorion Costio
Yr Amgylchedd Busnes
Caiff tair uned eu hasesu’n unigol mewn asesiadau diwedd uned. Mae'r cymhwyster hwn hefyd yn cynnwys asesiad synoptig sydd yn tynnu ar, ac yn asesu, gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws nifer o unedau.
Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif ar Lefel 2 (Gall eithriadau fod yn berthnasol).
Asesu'r Rhaglen
Mae'r asesiadau yn y cymhwyster hwn ar gyfrifiadur gyda chyfyngiad amser.
Cyflwynir ystod o fathau o gwestiynau a fformatau i fyfyrwyr yn yr asesiad. Gall y rhain gynnwys cwestiynau amlddewis, cwestiynau llenwi bwlch rhifol, neu ddulliau cwestiynau sy'n dyblygu gweithgareddau’r gweithle, megis gwneud cofnodion mewn dyddlyfr.
Gofynion y Rhaglen
Nid yw AAT yn gosod unrhyw ragofynion ar gyfer astudio’r Dystysgrif AAT mewn Cyfrifyddu. Fodd bynnag, mae mynediad i’r brentisiaeth yn dibynnu ar gyflogaeth addas ac yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus.
I gael y cyfle gorau i lwyddo, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau gyda safon dda mewn Saesneg a mathemateg. Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gymwysterau ysgol neu goleg perthnasol eraill, gradd neu rywfaint o brofiad cyfrifyddu, mewn amgylchiadau penodol efallai bydd y rhain yn caniatáu i fyfyrwyr hawlio eithriadau.
Costau Ychwanegol
Bydd yn ofynnol i ddysgwyr dalu am arholiadau os bydd angen ail-sefyll nifer o weithiau.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.