Skip to main content

Proffiliau Aelodau'r Bwrdd

Maria Stedman - Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr

Mae gan Maria Stedman gefndir cyfrifeg ac mae wedi dal swyddi uwch yng Nghyngor Sir Dyfed, Cyngor Sir Caerfyrddin a Phrifysgol Abertawe.  Bu'n Bennaeth Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA) Wales Cymru am naw mlynedd cyn iddi ymddeol.

Ar ôl ymgymryd â gwahanol rolau gwirfoddol o fewn pwyllgorau rhanbarthol CIPFA rhwng 1999-2002 roedd hi’n Llywydd CIPFA De Cymru a Gorllewin Lloegr; Aelod cyfetholedig Cyngor CIPFA; Cadeirydd Bwrdd Cymwysterau CIPFA; Is-gadeirydd Pwyllgor y Rhanbarthau; ac aelod o Bwyllgor Addysg a Hyfforddiant CIPFA.

Mae hi hefyd wedi gwasanaethu fel Llywodraethwr Ysgol a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin; Trysorydd yr Ŵyl Ffilm Geltaidd Ryngwladol; aelod bwrdd cychwynnol a thrysorydd canolfan galw heibio ieuenctid Dr M'z, Caerfyrddin; a, rhwng 2012-2014, fel aelod lleyg Pwyllgor Archwilio a Risg Comisiynydd y Gymraeg.

John Edge - Is-gadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr

Mae gan John Edge radd MA yn y Gyfraith, a chefndir mewn Datblygu Busnes Rhyngwladol, Ymgynghoriaeth, Cydsoddiadau a Chaffaeliadau a Mentrau ar y Cyd. Ar ôl amrywiol swyddi Ymgynghorydd Rheoli, daeth yn Gyfarwyddwr Datblygiad Rhyngwladol, ac yna’n Bennaeth Caffaeliadau ar gyfer cwmni logisteg mawr yn y DU, yn datblygu eu rhwydwaith byd-eang.

Mae ei yrfa wedi cwmpasu creu strategaeth, i gynllunio a gweithredu; datblygu, ymgyrchoedd gwerthu a marchnata; ac arfarniadau rheolaeth a pherfformiad. Ynghyd â Chydsoddiadau a Chaffaeliadau (M&A) bu hefyd yn ymwneud â diwydrwydd dyladwy, yn cynnwys bancio, meysydd cyfreithiol, cyfrifeg, treth, eiddo, cyflogaeth, amgylcheddol, pensiynau ac yswiriant, er enghraifft, cyd-drafod deliau a chontractau terfynol. Cwmpasodd ei yrfa chwe chyfandir, gyda ffocws ar Ogledd America, Ewrop, ac Asia.

Symudodd i Geredigion, a thra’n parhau â gwaith ymgynghori, cymerodd radd BSc mewn Ecoleg, ac mae’n canolbwyntio ar wirfoddoli mewn prosiectau cymunedol, addysg a phrosiectau cadwraeth. Yng Ngheredigion mae’n ddirprwy gadeirydd ei gymdeithas gymunedol leol; cynghorwr gyda Chyngor ar Bopeth; a siaradwr ar gyfer Coed Cadw, ac mae’n  gwarchod ei dir ac eiddo ei hun fel ‘ffermwr gweithredol’. Yn ogystal mae’n ymgymryd â phrosiectau addysgol a chadwriaethol rhyngwladol rheolaidd ble y bo’n bosibl.

Dr Andrew Cornish - Pennaeth / Prif Weithredwr

Ar hyn o bryd mae Dr Cornish yn Bennaeth a Phrif Weithredwr ar gyfer Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, rhan o Grŵp Prifysgol Cymru:Y Drindod Dewi Sant.

Cychwynnodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Maesteg lle bu'n astudio Safon Uwch cyn symud ymlaen i astudio ar gyfer gradd anrhydedd mewn ffiseg ym Mhrifysgol Lerpwl ac yna doethuriaeth mewn ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd.  Mae'n aelod o'r Sefydliad Ffiseg (CPhys MinstP) ac mae wedi gweithio fel asesydd cymheiriaid i Estyn am bron i 20 mlynedd, yn asesu safonau colegau addysg bellach eraill yng Nghymru. 

Fel Pennaeth, mae’n aelod o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (PSBs) yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ac mae’n eistedd ar Fwrdd Pentref Llesiant Llanelli. Mae’n cynrychioli Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion trwy Golegau Cymru, sefydliad ymbarél sy’n cynrychioli’r holl Golegau Addysg Bellach yng Nghymru.  Mae wedi gweithio ym maes Addysg Bellach ers dros 25 mlynedd, gan ddal ystod eang o swyddi addysgu, rheoli ac arweinyddiaeth yn ystod yr amser hynny.

Damion Gee - Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc i Fwrdd y Llywodraethwyr

Tyfodd Damion i fyny yn Nyfnaint gan gwblhau Safon Uwch cyn symud ymlaen i astudio gradd anrhydedd mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd.  Yn dilyn y Brifysgol, cymerodd ychydig bach o amser i chwarae mewn digwyddiadau golff amatur cenedlaethol cyn dechrau gwaith ym maes twristiaeth golff gan ymgymryd â rheolaeth Rhaglen Golff Brittany Ferries.

Wrth adleoli i Gymru yn 2019 treuliodd bum mlynedd fel Rheolwr y Clwb yng Nghlwb Golff Castell-nedd cyn symud ymlaen yn 2014 i fod yn Rheolwr Cyffredinol Clwb Golff Ashburnham ym Mhorth Tywyn gan ddatblygu ei brofiad rheoli a llywodraethu.  Ar ôl wyth mlynedd a hanner yn y rôl a oedd yn cynnwys gweithio gyda Chlwb R&A a Golff Cymru a bod yn aelod gweithredol o Gymdeithas y Rheolwyr Clybiau Golff (GCMA) mae Damion wrth ei fodd yn ymuno â Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion fel Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc i’r Bwrdd.

Huw Davies - Aelod o'r Bwrdd

Yn enedigol o Lanelli, ac yn siaradwr Cymraeg rhugl, mynychodd Huw Ysgol Gyfun y Strade cyn ennill gradd BA (Anrh) mewn Cyfrifyddu a Chyllid o Ysgol Fusnes Bryste. Gan benderfynu parhau â'i yrfa ym maes cyllid, cymhwysodd Huw fel Cyfrifydd Siartredig gyda Bevan & Buckland yn Abertawe cyn ymuno â KPMG ym Mryste.  Ar ôl pedair blynedd fel Rheolwr Archwilio gyda KPMG, symudodd Huw i ddiwydiant gan ddod yn Uwch Reolwr Ariannol Cymru a De-orllewin Lloegr ar gyfer y Cwmni FTSE 250 WS Atkins plc “Atkins”.

Ar ôl secondiad i Qatar, cafodd ei ddyrchafu’n Uwch Reolwr Ariannol - De’r DU ar gyfer cangen Dylunio a Pheirianneg Atkins, cyn penderfynu dychwelyd i’w wreiddiau ac ymuno â Chlwb Rygbi’r “Scarlets,” Llanelli fel eu Pennaeth Cyllid ac Ysgrifennydd y Cwmni, cyn iddynt symud i stadiwm newydd ym mis Gorffennaf 2008.

Yn 2012, sefydlodd Huw ei fusnes ymgynghori preifat ei hun gan ymgymryd â rolau Cyfarwyddwr Ariannol gyda nifer o fusnesau bach a chanolig ledled De Cymru.

Mae profiad Huw mewn ymarfer bach a mawr, ac amrywiol rolau masnachol heriol mewn diwydiant wedi arwain at agwedd hollol agored a chadarn ar bob agwedd ar fusnes

Delwyn Jones - Aelod o'r Bwrdd

Delwyn Jones yw Cyfarwyddwr Masnachol a pherchennog cwmni T.A.D Builders a leolir yn Llanelli, sydd wedi bod yn gweithredu ers dros 40 o flynyddoedd. Mae ganddo brofiad helaeth mewn syrfeo, amcangyfrif a rheolaeth fasnachol ar gyfer pob math o brosiectau adeiladu.  Ar hyn o bryd mae’n Ymddiriedolwr/Cyfarwyddwr Sgiliau Adeiladu CYFLE, sef Cynllun Prentisiaeth Ar y Cyd Rhanbarthol ar draws De Orllewin Cymru, sy’n anelu at ddarparu cefnogaeth i oedolion ifanc i gael cyflogaeth gynaliadwy o fewn y diwydiant adeiladu.

Mae’n eistedd fel Cadeirydd Cymdeithas Hyfforddiant Adeiladu Sir Gaerfyrddin Cyf. (CCTAL) cymdeithas hyfforddi a sefydlwyd yn Sir Gaerfyrddin mewn cysylltiad â chwmnïau adeiladu o fewn y sir a darparwyr hyfforddiant lleol i roi fframwaith cefnogaeth ar gyfer anghenion hyfforddi a datblygu sydd eu hangen ar aelodau’r gymdeithas a phrentisiaethau/hyfforddeion.  Mae Delwyn yn cynrychioli Peirianwyr ar gyfer Datblygiadau Tramor (EFOD) Gorllewin Cymru, yn cyflawni Gwaith elusennol yn Uganda, ac mae’n gwasanaethu fel Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Gynradd Ffwrnes, Llanelli.

Eifion Griffiths - Aelod o'r Bwrdd

Mae gan Eifion Griffiths gefndir mewn Bancio Masnachol, Datblygiad Economaidd a Gweinyddiaeth Prifysgol.  Bu’n uwch fancwr masnachol gyda Banc Lloyds, Dadansoddwr Buddsoddiadau gydag Awdurdod Datblygu Cymru a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Busnes ym  Mhrifysgol Abertawe, lle bu’n gyfrifol am fwy na 12 mlynedd am ailddatblygu ac ad-drefnu’r campws, yn cynnwys prosiectau menter cydweithredol ar gyfer lletyau myfyrwyr, cyfleusterau chwaraeon a datblygiad economaidd, gan gynnwys datblygiadau Technium mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Am chwe blynedd roedd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer Grŵp Pobl,  y datblygwyr a darparwyr tai cymdeithasol cofrestredig mwyaf yng Nghymru, a bu’n gadeirydd eu hadran fasnachol. Tan yn ddiweddar roedd yn aelod o Gyngor Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Mae’n dal i fod yn Gyfarwyddwr ac yn Ymddiriedolwr Cynlluniau Pensiwn Prifysgol Cymru. Cyn hyn bu’n Gyfarwyddwr Anweithredol Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac yn Drysorydd Cenedlaethol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg (Union of Welsh Independents), ac mae’n dal i wasanaethu ar eu Pwyllgor Buddsoddiadau.

Erica Cassin - Aelod o'r Bwrdd

Mae Erica Cassin yn ymarferydd lefel Bwrdd proffesiynol, a hithau wedi gweithredu ar lefelau Gweithredol ac Anweithredol.  Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad mewn Adnoddau Dynol, gan gynnwys rolau fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ar gyfer cyflogwyr sector preifat mawr mewn sectorau gofal iechyd, fferyllol a gwasanaethau ariannol yn y DU.  Mae Erica’n fedrus o ran arwain newid a thrawsffurfiad sefydliadol, newid diwylliant, datblygu talent ac arweinyddiaeth. Mae hi’n frwdfrydig iawn dros alluogi pobl i gyrraedd eu potensial llawn, ac mae hi wedi gweithio gyda thimau amrywiol, mawr yn meithrin diwylliant o ymgysylltiad dwys, cynhwysiant, grymuster a chydweithio.  Mae gan Erica bortffolio o rolau anweithredol, yn cynnwys rolau Cyfarwyddwr Anweithredol ym Mhorthladd Aberdaugleddau, a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, lle mae hi hefyd yn gadeirydd y Pwyllgorau Adnoddau Dynol a Thaliadau.

Yn ddiweddar cafodd ei phenodi yn Gadeirydd ar gyfer Gyrfa Cymru, ac mae hi’n Ymddiriedolwraig ar gyfer yr elusen genedlaethol Self Management UK.  Yn ogystal mae Erica wedi bod yn fentor ar gyfer y Sefydliad Symudedd Cymdeithasol.  Mae Erica yn meddu ar radd BA mewn Economeg Ddiwydiannol, mae hi’n Gymrawd y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), ac mae ganddi Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Hyfforddi Personol a Busnes.

Alan Smith - Aelod o'r Bwrdd

Tyfodd Alan i fyny yn Sir Fynwy a graddiodd o Brifysgol Abertawe mewn Mathemateg Bur a Chyfrifiadureg a chymhwyster T.A.R. Mae wedi treulio ei fywyd gwaith cyfan mewn addysg.

Bu’n athro Mathemateg yng Nghastell-nedd i ddechrau ac yna’n athro Cyfrifiadura ym Mhorthcawl. Ymunodd â Choleg Technegol Llanelli fel darlithydd Cyfrifiadura.  Symudodd ymlaen i reoli’r Gyfadran Cyfrifiadura ynghyd â meysydd pwnc eraill.  Hefyd trefnodd gyrsiau masnachol ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat ynghyd â phrosiect Ewropeaidd.  Yn ogystal roedd yn arholwr C.B.A.C. ac yn arolygydd cymheiriaid gydag Estyn.

Am bum mlynedd cyn ymddeol o Goleg Sir Gâr, Alan oedd ei Reolwr Trawsnewid, yn cynorthwyo’r Pennaeth a’r Tîm Gweithredol i ddatblygu achos busnes uno gyda Grŵp Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant ac ar ôl yr uno bu’n cydlynu gweithgareddau integreiddio.

Abigail Salini - Aelod or Bwrdd

Mae Abigail Salini yn Rheolwr Hyfforddi ac Adnoddau Dynol ar gyfer Thermal Earth Ltd sydd wedi’i leoli yn Rhydaman ac mae ganddi 11 o flynyddoedd o brofiad yn y sector adnewyddadwy.

Cyn hyn roedd yn gweithio i gwmni adeiladu lleol fel Rheolwr AD ac roedd yn ymwneud â’r cynllun prentisiaeth ar y cyd Sgiliau Adeiladu Cyfle sy’n gynllun prentisiaeth ar y cyd rhanbarthol ar draws De Orllewin Cymru.

Ben Francis - Aelod or Bwrdd

Magwyd Ben yn Llanelli, mynychodd Ysgol Iau Llangennech ac Ysgol Gyfun y Strade, cyn astudio ar gyfer ei Safon Uwch yng Ngholeg Gorseinon. Enillodd ei radd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Caerwysg ac yna aeth i Ysgol  y Gyfraith Nottingham i astudio ar Gwrs Ymarfer Cyfreithiol cyn symud yn ôl i Abertawe i gymhwyso fel cyfreithiwr.

Mae Ben yn gyfarwyddwr Grŵp Hygrove, cwmni teuluol a leolir yn Abertawe. Mae adran adeiladu tai’r grŵp (Cartrefi Hygrove) yn codi tai newydd i’w gwerthu’n breifat ac ar ran Cymdeithasau Tai yng Nghymru a Lloegr hefyd.  Tra bod ei adran deunyddiau adeiladu (Agregau Hygrove) yn prosesu Carreg Grut (Gritstone) o’i chwarel yng Nghwm Nant Lleici (ger Pontardawe) i’w ddefnyddio mewn haenau treulio PSV uchel ar gyfer arwynebau ffyrdd.

Y 2018, cafodd Ben ei benodi i Gadair Polisi Ffederasiwn y Busnesau Bach  (FSB) Cymru, sefydliad busnes mwyaf Cymru. Penodwyd Ben am chweched tymor ym mis Mawrth 2023 ac mae’n gweithio gydag Uned Bolisi FSB Cymru (corff sy’n cynnwys aelodau o bob cwr o’r wlad) er mwyn penderfynu blaenoriaethau ymgyrchu a safbwynt FSB ar faterion allweddol yng Nghymru ac i lobïo Llywodraeth Cymru a Senedd y DU ar ran aelodau Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB).

Ben yw Llywydd Clwb Rygbi Pontarddulais ac ef oedd derbynnydd cyntaf Gwobr Sadwrn y Busnesau Bach Francesca Kemp am ei wasanaethau i’w gymuned busnesau bach.

Jacqui Kedward - Aelod or Bwrdd

Aeth Jacqui Kedward i Brifysgol Surrey lle enillodd hi radd BSc (Anrhydedd) mewn Rheolaeth Gwestai ac Arlwyo, ar ôl gweithio am flwyddyn gyda Chorfflu Arlwyo’r Fyddin Brydeinig.  Yna enillodd gymwysterau fel cyfrifydd gan weithio mewn archwilio allanol a chyfrifon ariannol mewn practis preifat, yn ogystal â chefnogi busnesau gyda chyfrifiaduro eu cofnodion cyfrifyddu.

Bu’n Rheolwr Masnachol ac Ariannol ar gyfer Gerddi Aberglasne cyn dod yn Rheolwr Cyffredinol Sir Gaerfyrddin ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.  Fel Rheolwr Cyffredinol roedd hi’n gyfrifol am holl staff, gwirfoddolwyr, asedau a buddiannau’r elusen o fewn y sir, o’r adeiladau twristiaeth hanesyddol rhaid talu i gael mynediad iddynt a’r ffermydd a osodir ar gytundeb, i’r ystad ar osod i breswylwyr ac asedau naturiol yn cynnwys yr arfordir.

Yna enillodd gymwysterau mewn Archwilio Mewnol a Sicrwydd Risg gan ei galluogi i ddefnyddio ei gwybodaeth weithredol a’i sgiliau cyfrifeg hefyd mewn Archwilio Mewnol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.  Bellach mae hi’n gweithio fel Pennaeth Archwilio Mewnol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hi’n arwain y Tîm Archwilio Mewnol a System Rheolaeth Amgylcheddol gan ddarparu’r cynllun a strategaeth Archwilio Mewnol ynghyd ag archwilio cydymffurfiaeth ar gyfer y safon amgylcheddol ISO 14001.  Yn ogystal, hi ydy’r arweinydd ar gyfer ymchwiliadau twyll a chwythu’r chwiban gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac mae’n Arbenigwr Gwrthdwyll Achrededig.

Symudodd i Sir Gaerfyrddin dros 20 mlynedd yn ôl a gyda’i gŵr mae hi’n ‘ffermwr gweithredol’ ar eu fferm yn ogystal â rhedeg busnes marchogaeth.  Mae hi wedi bod mewn llawer o swyddi gwirfoddol gan gynnwys Cadeirydd Cymdeithas Dwristiaeth Sir Gaerfyrddin, Beiciau Gwaed Cymru a Chomisiynydd Rhanbarthol ar gyfer y Clwb Merlod (Pony Club).

Mike Theodoulou - Aelod or Bwrdd

Mike yw Prif Swyddog Gweithredol Foothold Cymru, elusen cyfiawnder cymdeithasol sydd wedi’i lleoli yng Ngorllewin Cymru.  Mae’n arweinydd profiadol ac yn Gadeirydd a Chyfarwyddwr anweithredol gyda chefndir eang.  Dechreuodd ei yrfa yn gweithio i frocer stoc yng Nghyfnewidfa Stoc Llundain cyn ymuno â Llywodraeth Leol ac yna gweithiodd i nifer o Gymdeithasau Tai yn Llundain, yn y pendraw yn rhedeg Cymdeithas Tai Eglwysi Paddington   (a elwir bellach yn Genesis), un o landlordiaid cymdeithasol mwyaf y DU.  Yna treuliodd rai blynyddoedd yn y sector preifat fel Cyfarwyddwr gweithredol Quality Street Homes yn gyfrifol am raglen fuddsoddi hanner biliwn o bunnoedd.

Yng Nghymru, penodwyd Mike gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru fel cyfarwyddwr Cyswllt Busnes. Ef oedd y Cadeirydd wrth sefydlu Siambrau Cymru, roedd yn aelod o'r Pwyllgor Rheoli Rhaglen a oedd yn cyflwyno cronfeydd strwythurol Amcan Un yr UE lle bu'n gadeirydd y Pwyllgor Monitro, yn ogystal â chadeirio'r bartneriaeth a sefydlodd Banc Datblygu Cymru.

Am wyth mlynedd, bu’n aelod o Fwrdd y Loteri Fawr yng Nghymru gan gadeirio nifer o bwyllgorau ariannu a chynrychiolodd Gymru ar Bwyllgor Ariannu’r DU.  Ar hyn o bryd mae'n aelod o Banel Cronfa Grant Busnes Cymdeithasol WCVA.

Mae Mike yn cadeirio’r Alternative Learning Company Limited ar hyn o bryd, ac fel cynghorydd tref mae’n cadeirio Pwyllgor Gwaith Cyngor y Dref.  Ef yw Cadeirydd Un Llais Cymru, corff cynrychioliadol yr holl Gynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru.  Mae Mike hefyd yn aelod o Gyngor Partneriaeth Gweinidogol Cymru.  Yn ogystal, Mike yw Cadeirydd Shelter Cymru.

Tracy Senchal - Aelod or Bwrdd

Addysgwyd Tracy Senchal yn Ysgol Bryngwyn, Llanelli. Mae gradd ganddi mewn Ffrangeg ac Almaeneg o Brifysgol Abertawe a Diploma Ôl-raddedig mewn Cyfieithu Technegol ac Arbenigol (Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Daneg) o Brifysgol Westminster, Llundain. Hefyd mae ganddi gymhwyster TAR mewn Ieithoedd Tramor Modern.

Dechreuodd ei gyrfa addysgu yn Ysgol Gyfun Cwmtawe, Pontardawe yn 1996 ac arhosodd hi yno tan 2001 pan gymerodd hi swydd Pennaeth y gyfadran Ieithoedd yn Ysgol Tre-Gib, Llandeilo. Yn fuan wedyn, cafodd ei dyrchafu i swydd Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Tre-Gib o 2004 i 2008. Symudodd i Ysgol Esgob Gore, Abertawe yn 2008 lle daeth yn Ddirprwy  Bennaeth. Ym mis Ionawr 2012, penodwyd Tracy yn Bennaeth Ysgol Coedcae, Llanelli.

Cafodd Tracy ei secondio i ERW; Y Consortiwm Gwella Ysgolion Rhanbarthol  fel Pennaeth y Sector Uwchradd ym mis Medi 2019 ond dychwelodd i’w swydd wreiddiol fel Pennaeth yn Ysgol Coedcae ym mis Mawrth 2020 pan ddigwyddodd y pandemig.

Mae Tracy yn arolygydd cymheiriaid profiadol gydag Estyn ac mae wedi bod ers tua 15 mlynedd. Mae hi’n aelod o Grŵp Cyfeirio Prifathrawon Estyn. Yn ogystal mae Tracy yn aelod o Grŵp Cyfeirio Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymwysterau Cymru.

John Williams - Aelod Staff o’r Bwrdd

Cyn darlithio yng Ngholeg Sir Gâr, bu John yn gweithio fel peiriannydd mecanyddol a rheolwr mewn amrywiol amgylcheddau, gan gynnwys y diwydiannau awyrennau a modurol, cyn newid i’r sector hyfforddi preifat yn 2004. Yn flaenorol roedd yn aelod cysylltiol o Sefydliad y Peirianwyr Cynhyrchu ac yn aelod cysylltiol o Sefydliad Siartredig yr Aseswyr Addysgol.

Mae wedi gweithio ar, ac wedi rheoli contractau ar gyfer cwmnïau lleol ac ystod o gwmnïau amlwladol fel, Airbus, Boeing, Nissan a Toyota. Mae’n archwiliwr profiadol ac mae wedi trin system ddogfennaeth ac ansawdd ISO 9001:2008 ac mae wedi ennill statws Buddsoddwyr mewn Pobl (Aur).

Bu John yn rheoli cwmni hyfforddi preifat tan 2012, yn gweithio gyda sefydliadau dyfarnu a Llywodraeth Cymru i gynnig rhaglenni dysgu yn y gwaith ar draws De Cymru. Hefyd mae wedi cyd–drafod contractau masnachol a rhaglenni hyfforddi, gyda chwmnïau megis, Amazon, Cartrefi Cymru a Remploy.

Mae wedi bod yn aelod rhanbarthol o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a bu’n ymwneud â rhaglenni peilot ar gyfer City & Guilds a’r Adran Addysg a Sgiliau (DfES).

Louis Dare - Aelod Staff o’r Bwrdd

Mae Louis yn angerddol o frwdfrydig dros addysg sy’n gwella cyflogadwyedd a datblygiad gyrfaol ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion sydd naill ai’n ddiwaith neu mewn rolau cyflog isel. Mae gweithio gydag adran Datblygu Busnes ac Arloesi’r Coleg wedi galluogi Louis i ddatblygu cysylltiadau cryf gyda’r sector hwn trwy weithio mewn partneriaeth â Remploy Maximus a’r Adran Gwaith a Phensiynau a’r Canolfannau Gwaith maen nhw’n eu rheoli.

Yn y gorffennol, mae Louis wedi dysgu TGCh (2004-2008), wedi arwain y Cwrs TGCh Cymhwysol yn Ysgol Maes Yr Yrfa (2008-2012) fel rhan o bartneriaeth 14-19 y Coleg, a bellach mae wedi’i gyflogi fel y Rheolwr e-Ddysgu ac Arloesi ar gyfer Grŵp PCYDDS (2017 -presennol).

Y tu allan i Goleg Sir Gâr mae diddordebau Louis yn cynnwys cefnogi twristiaeth leol.  Yn ystod y pandemig cafodd Louis wahoddiad i gyfrannu at redeg grŵp cymorth ar-lein a oedd yn darparu arweiniad ariannol a chyfreithiol ynghylch gwe-lywio cyfnodau clo, cyfyngiadau, a phecynnau cymorth economaidd Covid.

Julia Green - Aelod Staff Cysylltiol a Chefnogwr i’r Cynrychiolydd Dysgwyr

Cyflogir Julia Green yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Profiad Dysgwyr a hithau yw’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol dynodedig (ALNCo).  Mae hi wedi gweithio yn y coleg ers dros ugain mlynedd ac mae’n gwneud rôl strategol draws-gampws yn arwain a rheoli’r tîm Cymorth Dysgu. Mae’r rôl yn cynnwys sicrhau bod y coleg yn bodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 trwy ddarparu addasiadau rhesymol i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

Fel athrawes gymwysedig, mae ganddi gymwysterau arbenigol Lefel 7 oddi wrth Brifysgol De Cymru mewn Anawsterau Dysgu Penodol, Tystysgrif Ôl-radd mewn Addysg ac Awtistiaeth.  Yn 2017, fe gwblhaodd yn llwyddiannus radd Meistr mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac ar hyn o bryd mae hi’n ymgymryd â Doethuriaeth Broffesiynol gyda Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn ymchwilio i gynhwysiant mewn addysg ôl-16.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.