Dewch i gwrdd ag anogwyr cyflogadwyedd y coleg

Dewch i gwrdd â Ffion Fox a Becky Timbrell, anogwyr cyflogadwyedd Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Maen nhw yma i’ch helpu ac i’ch cefnogi o fewn pob un o’r sectorau cyflogadwyedd, o lwybrau gyrfa i ddod o hyd i waith a phopeth yn y canol.
Mae Ffion a Becky wedi ateb yr holl gwestiynau a allai fod gennych o ran cymorth cyflogadwyedd yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion a dyma’r hyn oedd ganddynt i’w ddweud.
Beth ydych chi’n ei gynnig i fyfyrwyr?
Rydyn ni’n cynnig cymorth 1:1, gweithdai a digwyddiadau - o fewn y rhain rydyn ni’n cynnig ystod o gymorth o greu/diwygio eich CV, gwneud cais am waith rhan-amser / llawn amser i’ch helpu i ddod o hyd i’ch llwybr gyrfa, boed hynny’n golygu parhau â’ch addysg yng Ngholeg Sir Gâr, Coleg Ceredigion, y brifysgol neu fynd yn syth i waith. Gallwn helpu gyda nodi eich sgiliau cyflogadwyedd a datblygu eich hun.
Byddwn yn cynnal digwyddiadau gyda busnesau a chyflogwyr lleol felly cewch gwrdd â’r rheiny sydd yn eich diwydiant dewisol. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, efallai byddwn hefyd yn dod i mewn i’ch dosbarth i gwrdd â chi ac i gyflwyno gweithdai i ddatblygu eich sgiliau fel technegau cyfweliad, positifrwydd a chymhelliant.
Os yw myfyriwr yn cael problemau gyda chwrs neu angen help o ran ei gam nesaf ar ôl y coleg, sut allwch chi ei helpu?
Os ydych chi’n cael problemau gyda’ch cwrs presennol, neu os oes angen unrhyw gyngor cyffredinol arnoch ynglŷn â’ch camau nesaf, gallwn gwrdd 1 i 1 yn gyfrinachol lle gallwn gael sgwrs am eich opsiynau. Yn ogystal, gallwn gyflwyno gwahanol gyfleoedd a phrofiad i chi, lle gallwch archwilio trywydd a llwybrau gwahanol.
Sut all myfyrwyr gysylltu â chi / ym mha ystafell y gallant ddod o hyd i chi?
Os dymunwch gysylltu â ni, gallwch naill ai anfon e-bost at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld., Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu ein cyfeiriad e-bost ar y cyd Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.. Os ydych yn y Graig, yna fel arfer rydym yn yr Uned Dderbyn, ond byddwn yn cynnal cyfarfodydd 1 i 1 yn D4. Os ydych ar unrhyw gampws arall, byddwn yn cadw ystafell ymlaen llaw, felly anfonwch e-bost atom i drefnu sgwrs!