Meet your student ambassadors
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn darparu Ysgoloriaethau Llysgenhadon yn flynyddol i fyfyrwyr addysg bellach sy’n dechrau cwrs lefel tri am y tro cyntaf.
Ar draws ein wyth campws, mae gennym 34 o lysgenhadon myfyrwyr a’u rôl yw hyrwyddo’r coleg yn ei gyfanrwydd, yn fewnol ac yn allanol, a hyrwyddo hefyd ar yr un pryd eu maes astudio priodol yn eu cyfadrannau.
Mae ein llysgenhadon yn cynorthwyo gyda nosweithiau agored, ymweliadau ysgolion, nosweithiau gwobrwyo a llawer mwy, gan wneud eich profiad o ymweld â’r coleg mor gyfforddus ac mor groesawgar â phosibl.
Er mwyn i chi ddod i adnabod ein llysgenhadon myfyrwyr, maen nhw wedi dweud ychydig bach amdanynt eu hunain wrthym a pham eu bod nhw’n mwynhau cymaint eu rôl yn y coleg.
Iestyn Davies

Rwy’n astudio cwrs galwedigaethol peirianneg drydanol. Roedd diddordeb gen i mewn peirianneg ers yr amser pan oeddwn i’n chwarae gyda lego, a phan wnes i ddarganfod pa mor dda oedd y cynllun peirianneg yn y coleg, gwnes i gais ar unwaith.
Rwy’n mwynhau ac yn cymryd rhan yn y rhan fwyaf o’r clybiau chwaraeon sy’n rhedeg yn y coleg. Rwy’n chwarae pêl-foli, badminton a dodge ball ac rwy’n gapten ar y tîm pêl-fasged yma.
Credaf y gallaf fod yn fodel rôl da i ddisgyblion eraill a disgyblion y dyfodol hefyd oherwydd fy mod yn berson goddefgar a hawdd iawn dod ataf, ar y cyfan, person neis i fod yn ei gwmni. Rwy’n gobeithio helpu myfyrwyr newydd i setlo i mewn yn hawdd a rhoi croeso braf iddynt i’r coleg.
Grace Williams

Gwnes i gais i fod yn llysgennad coleg oherwydd rwyf am ddarparu’r cymorth a oedd mor werthfawr i mi pan ddechreuais ar fy nhaith yn y coleg, ac rwyf hefyd yn credu ei fod yn gyfle gwych i mi helpu i feithrin fy hyder fy hun wrth fod ar gael i helpu eraill.
Rwyf wrth fy modd gyda cherddoriaeth a’r theatr, ond rwyf hefyd yn frwd dros helpu eraill i ddarganfod eu hoffterau eu hunain trwy eu helpu i ddarganfod beth yw’r llwybr iawn iddyn nhw.
Credaf y gallaf fod yn esiampl gadarnhaol i eraill oherwydd rwy’n credu fy mod wedi cael llawer o brofiadau defnyddiol sy’n fy ngalluogi i ddangos empathi at eraill a deall sut i’w helpu. Rwy’n gobeithio y gallaf roi cyngor i eraill a fydd o fudd iddynt yn y pen draw.
Jenna Loweth

Mae helpu eraill yn rhywbeth rwyf bob amser wedi teimlo’n frwd yn ei gylch. Rwyf am sicrhau bod y pontio i gymuned y coleg mor hawdd ag y gall fod, ac i wneud yn siŵr bod yr holl ddymuniadau ac anghenion posibl yn cael eu cwmpasu mewn ffyrdd sy’n gwneud i bobl deimlo’n fwyaf cyfforddus.
Rwyf ar dân dros helpu eraill, celfyddyd, ffrindiau, teulu, a chreu’r cyfleoedd gorau ar gyfer bywyd ac i mi fy hun.
Mae bod yn esiampl yn dangos i ble gall pobl fynd. Rwy’n rhywun y gall pobl edrych tuag ati ar adegau o angen ond hefyd fel esiampl o sut y gall bywyd coleg wneud gwahaniaeth i’w bywydau eu hunain, i ble y gall eich arwain a sut nad yw’n lle brawychus ond yn hytrach yn fodd i’ch mowldio chi eich hun.
Charlotte Holt