Skip to main content

Hysbysiad preifatrwydd i Ddysgwyr

Rhagarweiniad

Mae cymryd rhan yn y rhaglen hon yn ddibynnol ar i chi ddarparu data  personol. Coleg Sir Gâr neu Goleg Ceredigion (o hyn ymlaen, y Coleg)  fydd y rheolydd data ar gyfer y wybodaeth bersonol y byddwch yn ei  darparu. Bydd y Coleg yn defnyddio'r wybodaeth hon i weinyddu a rheoli  eich rhaglen. 

Mae’n bosibl bod y rhaglen ddysgu rydych ar fin cofrestru arni yn cael ei  hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

Ar gyfer beth fydd y Coleg yn defnyddio eich gwybodaeth?

Bydd y Coleg yn defnyddio eich data ar gyfer gweinyddu eich rhaglen,  hawlio cyllid gan Lywodraeth Cymru os yw'n briodol, casglu ffïoedd os  yw'n briodol, cynhyrchu cyfrif rhwydwaith i roi mynediad i chi i  wasanaethau TG megis Google a Microsoft a monitro eich cynnydd a'ch  deilliannau (megis cyflawni cymwysterau). Gall hefyd gael ei ddefnyddio  mewn crynodebau ystadegol a chyhoeddiadau ymchwil, lle bydd yn  ddienw ac ni chewch eich adnabod. Rhoddir manylion llawn am sut yr  ydym yn defnyddio eich data isod.

Eich hawliau a'ch dewisiadau

Dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) mae gennych yr hawl i:

  • gael mynediad i'r data personol y mae'r Coleg yn ei gadw amdanoch chi
  • mynnu bod y Coleg yn cywiro manylion anghywir yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu prosesu ar sail sy'n ymwneud â'ch sefyllfa benodol chi  (mewn rhai amgylchiadau) 
  • cyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau) 
  • cael eich data wedi'i ddileu (mewn amgylchiadau penodol)
  • cyflwyno cwyn i swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef y  rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Am ba hyd fydd y Coleg yn cadw eich gwybodaeth?

Disgrifiad

Cadw

Data craidd dysgwyr

O leiaf 10 mlynedd ar ôl i chi adael y  Coleg ac ar hyn o bryd am gyfnod  amhenodol ar Gronfeydd Data ac yn yr  Archif.

Deilliannau dysgwyr - pasio, cymhwyster, rhestrau dyfarniadau.

10 mlynedd ar ôl i chi adael y Coleg*

Cofnodion yn ymwneud â'ch cynnydd academaidd.

6 blynedd ar ôl i chi adael y Coleg

Cofnodion yn ymwneud ag ymddygiad a materion disgyblu

6 blynedd ar ôl i chi adael y Coleg

Cofnodion yn ymwneud â materion lles/ cefnogi dysgwyr

6 blynedd ar ôl i chi adael y Coleg

Gwasanaethau Cynghori Dysgwyr

2 flynedd ar ôl i chi adael y Coleg

*Gellir cysylltu â chyrff dyfarnu am ganlyniadau a thystysgrifau cyn ac ar ôl y  cyfnod cadw hwn.

Cysylltiadau

I gael manylion am y wybodaeth y mae'r Coleg yn ei chadw a'i defnyddio,  neu os ydych am arfer eich hawliau dan y GDPR, gweler y cyswllt isod: 

Swyddog Diogelu Data  

Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion  

Campws y Graig  

Heol Sandy  

Llanelli  

SA15 4DN 

Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. 

I gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, gweler y manylion isod:

Wycliffe House  

Water Lane 

Wilmslow  

Cheshire 

SK9 5AF 

029 2067 8400 (llinell gymorth Cymru) neu 0303  

123 1113 (llinell gymorth y DU)

Hysbysiadau o newidiadau

Os yw'r Coleg yn bwriadu defnyddio eich data mewn ffordd wahanol i'r hyn  a nodwyd adeg ei gasglu, fe gewch eich hysbysu. Bydd holl brosesu'r Coleg  yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol. Bydd  diweddariadau i'r hysbysiad preifatrwydd ar gael ar ein gwefannau  www.colegsirgar.ac.uk a www.ceredigion.ac.uk

Pa wybodaeth bersonol amdanoch chi sy'n cael ei chasglu a'i defnyddio gan y Coleg?

Bydd peth o'r data a gesglir gennym yn ddata personol a/neu'n ddata  categori arbennig fel y'i diffinir yn y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol  (GDPR) sy'n cynnwys: 

Data Personol 

  • Dynodydd unigryw'r dysgwr (a grëwyd gan Lywodraeth Cymru)
  • Rhif adnabod y dysgwr (a grëwyd gan y Coleg) 
  • Cyfenw ac Enw(au) Cyntaf 
  • Cyfeiriad (Cartref ac yn Ystod y Tymor) a Chodau Post 
  • Gwlad Breswyl 
  • Rhif ffôn (Cartref a Symudol) 
  • Cyfeiriad e-bost 
  • Rhif Yswiriant Gwladol 
  • Rhywedd 
  • Cyfenw yn 16 oed 
  • Dyddiad geni 
  • Mewn Gofal / Ymadäwr Gofal  
  • Cofnod troseddol  
  • Hunaniaeth genedlaethol 
  • Siaradwr Cymraeg  
  • Cymhwyster Uchaf yn y Gymraeg  
  • Dewis o ran gohebiaeth - Cymraeg / Saesneg 
  • Rhif cofrestru cerbyd  
  • Statws cyflogaeth  
  • Manylion cyflogwr 
  • Yr ysgol ddiwethaf yr aethoch iddi  
  • Y flwyddyn y gadawsoch yr ysgol 
  • Rhif dysgwr unigryw (a grëwyd gan y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu)
  • Manylion cyswllt Perthynas Agosaf 
  • Statws priodasol

At hynny ceir data amdanoch sy'n cael ei ddiffinio fel data categori  arbennig.Nid oes rhaid i chi ddarparu'r data hwn a bydd yn cynnwys; 

  • Ethnigrwydd 
  • Math o anabledd 
  • Cyflwr iechyd 
  • Crefydd 
  • Cyfeiriadedd Rhywiol  
  • Hunaniaeth o ran rhywedd - yr un fath ag a neilltuwyd ar enedigaeth  

Caiff y data personol/categori arbennig hwn ei ddefnyddio ar draws pob  dysgu Ôl 16 yn y Coleg. 

Hefyd, ar gyfer dysgwyr Addysg Uwch yn unig: 

  • Gwlad eich Geni 
  • Math o lety yn ystod y tymor  
  • Yn derbyn Lwfans i Fyfyrwyr Anabl 
  • Cymhwyster Uchaf ar fynediad

Sut fydd eich data'n cael ei ddefnyddio gan y Coleg?

Mae'r Coleg yn casglu llawer iawn o wybodaeth bersonol amdanoch chi. Caiff data ei  ddarparu i Lywodraeth Cymru, cyrff dyfarnu, asiantaethau ariannu, sefydliadau  ymchwil, cyflenwyr meddalwedd, cyrff proffesiynol, ac ati, er mwyn rhedeg busnes y  Coleg. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae casglu'r data hwn yn orfodol - rhywbeth y  mae'n rhaid i ni ei wneud. Isod rydym wedi amlinellu'r sefydliadau rydym yn rhannu  eich data â nhw a'r prif resymau dros i ni wneud hyn. Gallwn eich sicrhau ein bod yn  storio eich data yn ddiogel ac yn defnyddio eich data yn unig at y dibenion a amlinellir.  Nid ydym yn ei drosglwyddo i unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata neu  werthu.

Addysg Bellach

Sefydliadau rydym yn rhannu  data â nhw:

  • Llywodraeth Cymru (gan gynnwys cyrff ymchwil a gomisiynir an LlC i gynnal dadansoddiad / gwerthusiad o raglenni /prosiectau)
    • Ariannu Addysg Bellach (AB); monitro  cyfranogiad rwpiau  gwahanol; Taliadau  Lwfans Cynhaliaeth  Addysg (LCA); monitro perfformiad  myfyrwyr a cholegau.

  • Gwasanaeth Cofnodion Dysgwyr (LRS)

    • Cofnodiad cenedlaethol o gyflawniadau a chyraeddiadau myfyrwyr o'r Ysgol i'r  Coleg.

  • Consortiwm B WBL dan arweiniad Coleg  Sir Benfro

    • Ariannu ein gweithgaredd Prentisiaeth Dysgu  Seiliedig ar Waith (WBL); monitro cyfranogiad grwpiau  gwahanol; monitro  perfformiad colegau;  darparu data i Lywodraeth Cymru fel  darparwr arweiniol ar  gyfer Dysgu Seiliedig  ar Waith.

  • Prifysgol Cymru:  Y Drindod Dewi  Sant (PCYDDS)
    • Ariannu ein dysgu  Addysg Uwch (AU);  monitro cyfranogiad  grwpiau gwahanol;  monitro perfformiad  myfyrwyr a cholegau;  dyfarnu tystysgrifau;  darparu data i Gyngor  Cyllido Addysg Uwch  Cymru (CCAUC), Asiantaeth Ystadegau  Addysg Uwch (HESA)  a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC).

  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch  Cymru (CCAUC) Cyflenwir trwy  PCYDDS

    • Ariannu dysgu Addysg  Uwch (AU); monitro  cyfranogiad grwpiau  gwahanol; monitro  perfformiad colegau;  darparu data i Lywodraeth Cymru.

  • Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) Cyflenwir trwy PCYDDS

    • Casglu data ystadegol  ar gyfer y sector AU i  gyfrifo mesurau perfformiad safonol.

  • Y Cwmni Benthyciadau i  Fyfyrwyr (SLC) Cyflenwir trwy  PCYDDS

    • Gweinyddu a thalu  ffïoedd, benthyciadau  a bwrsariaethau i fyfyrwyr sy'n ymgymryd ag AU.

  • Ede and Ravenscroft

    • I wasanaethu seremonïau Graddio - gwasanaethau gynau a ffotograffiaeth

  • Cynghorau Sir Gaerfyrddin / Ceredigion

    • Rhywfaint o ddarpariaeth a gefnogir; Rhwydwaith  cludiant; tocynnau  bws

  • Ysgolion Partner  14-19
    • Er mwyn monitro perfformiad disgyblion  ysgol sy'n mynychu  rhaglenni yn y Coleg  fel rhan o  weithgareddau 14-19.

  • Cyrff Dyfarnu, ee:  CBAC, BTEC, CGLI, CACHE, OCR ac ati

    • Cofrestru dysgwyr ar  gyfer dyfarniadau a  rhoi tystysgrifau i'r  rheiny sy'n llwyddo.
  • Tribal (WEST)
    • System a gaffaelwyd  gan Lywodraeth Cymru a ddefnyddir i  asesu a datblygu lefelau llythrennedd a  rhifedd myfyrwyr.

  • ALPS
    • System gwerth ychwanegol a ddefnyddir i fonitro'r  cynnydd addysgol  mae myfyrwyr yn ei  wneud rhwng dechrau  a gadael y Coleg.

  • Microsoft
    • Er mwyn i fyfyrwyr  gael defnyddio'r meddalwedd.

  • Google
    • Er mwyn i fyfyrwyr  gael defnyddio'r  meddalwedd.

  • Txt connect
    • Rhifau ffôn symudol i  ganiatáu i ni anfon  negeseuon testun at  fyfyrwyr.
  • Chwaraeon Cymru Trwy UPSHOT

    • Cofnodi myfyrwyr sy'n  cymryd rhan mewn  prosiectau a ariennir  gan Chwaraeon Cymru i fonitro lefelau  cyfranogiad.

  • My Concern
    • Olrhain a monitro materion diogelu myfyrwyr

  • Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

    • Er mwyn gwirio hanes  troseddol blaenorol  myfyrwyr ar rai rhaglenni.

  • Cyflogwyr
    • Monitro cynnydd Gweithwyr ar raglenni  a ariennir/a gefnogir

  • Rhieni / Gwarcheidwaid os  dan 18 oed

    • I'w galluogi i fonitro  eich cynnydd yn y coleg.

Dysgu Seiliedig ar Waith

Addysg Uwch

Sefydliadau rydym yn rhannu  data â nhw:

  • Gwasanaeth Cofnodion Dysgwyr (LRS)

    • Cofnodiad cenedlaethol o gyflawniadau a chyraeddiadau myfyrwyr o'r Ysgol i'r  Coleg.

  • Prifysgol Cymru:  Y Drindod Dewi  Sant (PCYDDS)
    • Ariannu ein dysgu  Addysg Uwch (AU);  monitro cyfranogiad  grwpiau gwahanol;  monitro perfformiad  myfyrwyr a cholegau;  dyfarnu tystysgrifau;  darparu data i Gyngor  Cyllido Addysg Uwch  Cymru (CCAUC), Asiantaeth Ystadegau  Addysg Uwch (HESA)  a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC).

  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch  Cymru (CCAUC) Cyflenwir trwy  PCYDDS

    • Ariannu dysgu Addysg  Uwch (AU); monitro  cyfranogiad grwpiau  gwahanol; monitro  perfformiad colegau;  darparu data i Lywodraeth Cymru.

  • Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) Cyflenwir trwy PCYDDS

    • Casglu data ystadegol  ar gyfer y sector AU i  gyfrifo mesurau perfformiad safonol.

  • Y Cwmni Benthyciadau i  Fyfyrwyr (SLC) Cyflenwir trwy  PCYDDS

    • Gweinyddu a thalu  ffïoedd, benthyciadau  a bwrsariaethau i fyfyrwyr sy'n ymgymryd ag AU.

  • Ede and Ravenscroft

    • I wasanaethu seremonïau Graddio - gwasanaethau gynau a ffotograffiaeth

  • Cynghorau Sir Gaerfyrddin / Ceredigion

    • Rhywfaint o ddarpariaeth a gefnogir; Rhwydwaith  cludiant; tocynnau  bws

  • Microsoft
    • Er mwyn i fyfyrwyr  gael defnyddio'r meddalwedd.

  • Google
    • Er mwyn i fyfyrwyr  gael defnyddio'r  meddalwedd.

  • Txt connect
    • Rhifau ffôn symudol i  ganiatáu i ni anfon  negeseuon testun at  fyfyrwyr.
  • Chwaraeon Cymru Trwy UPSHOT

    • Cofnodi myfyrwyr sy'n  cymryd rhan mewn  prosiectau a ariennir  gan Chwaraeon Cymru i fonitro lefelau  cyfranogiad.

  • My Concern
    • Olrhain a monitro materion diogelu myfyrwyr

  • Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

    • Er mwyn gwirio hanes  troseddol blaenorol  myfyrwyr ar rai rhaglenni.

  • Cyflogwyr
    • Monitro cynnydd Gweithwyr ar raglenni  a ariennir/a gefnogir

  • Rhieni / Gwarcheidwaid os  dan 18 oed

    • I'w galluogi i fonitro  eich cynnydd yn y coleg.

Ysgol 14-19

Sefydliadau rydym yn rhannu  data â nhw:

  • Gwasanaeth Cofnodion Dysgwyr (LRS)

    • Cofnodiad cenedlaethol o gyflawniadau a chyraeddiadau myfyrwyr o'r Ysgol i'r  Coleg.

  • Ysgolion Partner  14-19

    • Er mwyn monitro perfformiad disgyblion  ysgol sy'n mynychu  rhaglenni yn y Coleg  fel rhan o  weithgareddau 14-19.

  • Cyrff Dyfarnu, ee:  CBAC, BTEC, CGLI, CACHE, OCR ac ati

    • Cofrestru dysgwyr ar  gyfer dyfarniadau a  rhoi tystysgrifau i'r  rheiny sy'n llwyddo.
  • Microsoft
    • Er mwyn i fyfyrwyr  gael defnyddio'r meddalwedd.

  • Google
    • Er mwyn i fyfyrwyr  gael defnyddio'r  meddalwedd.

  • Txt connect
    • Rhifau ffôn symudol i  ganiatáu i ni anfon  negeseuon testun at  fyfyrwyr.

  • My Concern
    • Olrhain a monitro materion diogelu myfyrwyr

  • Rhieni / Gwarcheidwaid os  dan 18 oed

    • I'w galluogi i fonitro  eich cynnydd yn y coleg.

Trefniadau Diogelwch ar gyfer eich data a gedwir gan y Coleg

Bydd y data y mae'r Coleg yn ei gasglu amdanoch yn cael ei storio  mewn cronfa ddata ddiogel y caiff mynediad iddi ei reoli ac y caiff  profion eu cynnal yn rheolaidd arni er mwyn sicrhau diogelwch ac  integriti.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.