Skip to main content

Polisi ar Ddyfarnu Grantiau a darparu Cymorth Ariannol

Cyhoeddwyd yn unol â gofynion Rheoliadau Safonau’r  Gymraeg (Rhif 6) 2017

1. Rhagarweiniad

Rhoddodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru gan  alluogi gorfodi safonau’r iaith Gymraeg ar gyrff. 

Mae’r Safonau'n esbonio sut y dylai cyrff drin a defnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd, gan  gynnwys dyfarnu grantiau neu ddarparu cymorth ariannol.  

Cânt eu rhannu i bum dosbarth: 

  • safonau cyflenwi gwasanaethau 
  • safonau llunio polisi 
  • safonau gweithredu 
  • safonau hyrwyddo 
  • safonau cadw cofnodion 

Caiff cydymffurfiaeth sefydliadau eu monitro gan Gomisiynydd y Gymraeg sydd ag awdurdod i ymchwilio i  gwynion ac achosion o dorri rheolau cydymffurfiaeth â’r safonau. Yn eu tro gall yr ymchwiliadau hyn  arwain at ddyfarniadau llys sirol, camau gorfodi, a dirwyon.

2. Dyfarnu Grantiau a darparu Cymorth Ariannol

Mae’r polisi hwn yn amlinellu’r hyn y mae rhaid i’r Coleg ystyried yn ystod y broses o ddyfarnu grantiau a  darparu cymorth ariannol yn unol â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017. Mae yna gyfrifoldeb ar  yr holl staff sy’n ymwneud â dyfarnu grantiau neu gymorth ariannol i gadw at y polisi hwn. 

Mae’r polisi yn ymwneud â Safonau Cyflenwi Gwasanaethau 75, 76, 76a, 78 a 79 fel a ganlyn: 

Safon 75

Rhaid i unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n ymwneud â cheisiadau am grant neu  gymorth ariannol gael eu cyhoeddi yn Gymraeg a rhaid i chi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o’r  fath ddogfennau yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohonynt.

Safon 76

Pan fyddwch yn gwahodd ceisiadau am grant neu gymorth ariannol, rhaid i chi ddatgan yn y  gwahoddiad y caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg ac na fydd unrhyw gais a  gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Safon 76A

Rhaid i chi beidio â thrin ceisiadau am grant neu gymorth ariannol a gyflwynir yn Gymraeg yn llai  ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn  perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau, ac mewn perthynas â’r raddfa amser ar  gyfer rhoi gwybod i ymgeiswyr am benderfyniadau).

Safon 78

Os byddwch yn derbyn cais am grant neu gymorth ariannol yn Gymraeg a bod angen cyfweld ag  ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais mae rhaid i chi: 

  1. a) gynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg er mwyn i’r ymgeisydd allu  defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, ac 
  2. b) os yw’r ymgeisydd yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth  cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg  heb wasanaeth cyfieithu).
Safon 79

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ymgeisydd beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chais am  grant neu gymorth ariannol, mae rhaid i chi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y cais yn  Gymraeg.

Mae Safon 100 Rheoliadau Rhif 6 2017 yn nodi:

Rhaid i chi gynhyrchu a chyhoeddi polisi ar ddyfarnu grantiau neu ddarparu cymorth ariannol  (neu, ble y bo’n briodol, ddiwygio polisi sydd eisoes yn bodoli) sy’n ei gwneud yn ofynnol i chi  ystyried y materion canlynol pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau ynghylch dyfarnu grant neu  ddarparu cymorth ariannol: 

  1. pa effeithiau, os o gwbl (a p’un a ydynt yn gadarnhaol neu’n negyddol), y byddai  dyfarnu grant neu ddarparu cymorth ariannol yn eu cael ar: 
    1. gyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a
    2. pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r iaith Saesneg.  
  2. sut y gellid gwneud neu weithredu’r penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau)  fel y byddai’n cael effeithiau cadarnhaol, neu effeithiau mwy cadarnhaol, ar: 
    1. gyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a
    2. pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r iaith Saesneg. 
  3. sut y gellid gwneud neu weithredu’r penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau)  fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael llai o effeithiau andwyol  ar: 
    1. gyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a
    2. pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r iaith Saesneg.  
  4. p’un a bod angen i chi ofyn i’r ymgeisydd am unrhyw wybodaeth ychwanegol er  mwyn eich cynorthwyo i asesu effaith dyfarnu grant neu ddarparu cymorth ariannol  ar: 
    1. gyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a
    2. pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r iaith Saesneg.
Safon 157

Rhaid i chi gadw cofnod o’r camau rydych chi wedi’u cymryd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r  safonau llunio polisi y mae dyletswydd arnoch i gydymffurfio â nhw.

Mae’r Coleg yn ymrwymedig i hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau cydymffurfiaeth â’r Safonau ym mhob  agwedd ar ei waith.

Fel y cyfryw, datblygwyd y polisi hwn i sicrhau bod y gofynion canlynol yn cael eu dilyn drwy gydol y  broses o ddyfarnu grantiau a darparu cymorth ariannol: 

  • cyhoeddir pob deunydd yn Gymraeg 
  • parchir dewis iaith yr unigolion drwy gydol y broses  
  • nodir unrhyw effaith ar y Gymraeg, boed yn gadarnhaol, yn negyddol neu’r ddau
  • caiff ffyrdd o hyrwyddo’r Gymraeg, gan gynnwys defnyddio’r Gymraeg eu cofnodi a’u rhoi ar waith 
  • gwneir pob ymdrech i leihau effeithiau andwyol ar y Gymraeg  
  • gosodir amodau ar unrhyw grant neu gymorth ariannol mewn perthynas â'r Gymraeg lle ystyrir  bod angen gwneud hynny 

Wrth sefydlu grantiau newydd neu gymorth ariannol, bydd y crëwr yn cyflawni asesiad effaith ar yr  effeithiau, boed yn negyddol neu’n gadarnhaol, bydd y grantiau’n cael ar yr iaith Gymraeg er mwyn  sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg 94-96.

3. Bydd y polisi hwn yn berthnasol:

  • Os yw'r Coleg yn dyfarnu grantiau neu gymorth ariannol ar ran corff arall (Llywodraeth Cymru neu unrhyw gorff arall sy'n dod o fewn cwmpas Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011) ac mae amodau a thelerau penodol y grant/cymorth ariannol yn cynnwys ystyriaethau ynghylch y Gymraeg.
  • Os yw'r Coleg yn dyfarnu grantiau/cymorth ariannol y mae wedi’u hariannu ei hun.
  • Os yw'r Coleg mewn unrhyw ffordd yn rhan o’r broses gwneud penderfyniadau ynghylch dyfarnu grantiau/cymorth ariannol ar ran sefydliadau nad ydynt wedi’u cynnwys yng nghwmpas Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac nid oes amodau a thelerau penodol mewn perthynas â'r Gymraeg wedi’u nodi yn y grant/cymorth ariannol.

Bydd yr holl geisiadau am grantiau a chymorth ariannol yn cael eu hasesu ar sail eu teilyngdod unigol ac yn unol â’r meini prawf a amlinellir yn y broses gwneud cais.

4. Ystyr ‘grant’ neu ‘gymorth ariannol’ fel y ceir o God Ymarfer (drafft) Safonau’r Gymraeg:

  • Fel arfer mae ‘grant’ yn drosglwyddiad parhaol o arian i berson nad oes rhaid ei dalu’n ôl neu ei  ddychwelyd.  
  • Mae’r term ‘grant’ yn cynnwys unrhyw gymorth y mae corff yn ei roi i berson at brosiect neu  ddiben penodol. Fel arfer dim ond rhan o gyfanswm y costau y bydd grant yn talu. Maen nhw fel  arfer yn cael eu defnyddio yn unol â thelerau ac amodau penodol. 
  • Gallai’r term ‘cymorth ariannol’ gynnwys budd-dal, arian ysgoloriaeth, benthyciad, neu fwrsari fel  rhai esiamplau ond nid yw’n cynnwys swm o arian sy’n cael ei roi i berson drwy broses gaffael. 

5. Sut y gall penderfyniadau am grantiau effeithio ar y Gymraeg

Mae angen nodi dau fath o effaith ar y Gymraeg. Mae’r effeithiau hynny yn adlewyrchu dau brif amcan y  safonau: 

  • sicrhau cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg 
  • peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r iaith Saesneg.

Mae ystyr ymarferol ‘peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r iaith Saesneg' yn amrywio o un sefyllfa i’r  llall. Ond yn gyffredinol, mae’n golygu peidio â rhoi rhywun dan anfantais os ydynt am ddefnyddio’r  Gymraeg, a sicrhau bod yr iaith Gymraeg o leiaf mor amlwg, hygyrch ac o ansawdd cyfartal â’r Saesneg  bob amser. 

Cynhwysir effeithiau anuniongyrchol yn ogystal ag effeithiau uniongyrchol. 

Unwaith y nodir effeithiau posibl, bydd angen nodi p’un a ydynt yn gadarnhaol neu’n andwyol:

  • effeithiau cadarnhaol yw’r rheiny sy’n golygu bod yna gynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg, bod y  Gymraeg yn fwy gweladwy, neu nad oes unrhyw rwystrau ychwanegol i ddefnyddio Cymraeg,  gyda chanlyniadau sydd o leiaf mor ffafriol. 
  • effeithiau andwyol yw’r rheiny sy’n golygu bod llai o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, bod y  Gymraeg yn llai gweladwy, neu fod pobl sydd am ddefnyddio Cymraeg yn wynebu mwy o  rwystrau neu ganlyniadau llai ffafriol na phobl sy’n defnyddio Saesneg.

6. Awgrymwn fod y canlynol yn cael ei fewnosod ym mhob canllaw ar gyfer ymgeiswyr mewn  perthynas â dyfarnu grantiau neu gymorth ariannol 

Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017 yn gosod gofyniad statudol ar y Coleg i sicrhau bod yr  holl grantiau a chymorth ariannol a roddir ganddo yn ystyried p’un a oes ffyrdd y gallai’r fenter gael ei  diwygio i gynnwys effeithiau mwy cadarnhaol ar y Gymraeg neu os gellir cynnwys camau i leihau  effeithiau negyddol neu eu dileu yn gyfan gwbl. 

Wrth gydymffurfio â’r gofyniad statudol hwn, gofynnwn i chi, fel ymgeisydd, roi gwybod i ni drwy’r ffurflen  gais sut y gall eich menter effeithio ar y meysydd canlynol: 

  • cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg e.e myfyrwyr, staff, preswylwyr ac ymwelwyr
  • mae ganddo effaith gadarnhaol neu negyddol ar niferoedd y siaradwyr Cymraeg e.e. Addysg  cyfrwng Cymraeg, cyfleoedd astudio, cysylltiadau gyda Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth  Cymru / Yr Iaith Gymraeg - ein hymrwymiad
  • cyfleoedd i hyrwyddo’r Gymraeg e.e. statws, defnydd o wasanaethau iaith Gymraeg, defnyddio’r  Gymraeg ym mywyd bob dydd yn y gwaith, ar y campws ac yn y gymuned. Annog a hyrwyddo’n  weithredol y defnydd o’n gwasanaethau yn y Gymraeg i weld cynnydd yn y galw dros amser.
  • peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r iaith Saesneg.  

Bydd y tîm yn asesu eich atebion, gofyn cwestiynau pellach lle bod angen neu fe allant osod amod grant  a fyddai’n gofyn i chi gwblhau gweithred benodol er mwyn sicrhau effeithiau mwy cadarnhaol ar y  Gymraeg.

7. Beth ddylwn i gynnwys yn fy ffurflen gais?

Rhaid ychwanegu’r canlynol, fel cwestiwn gorfodol, at bob ffurflen gais, er mwyn sicrhau bod y Coleg yn  cydymffurfio â’i Safonau Iaith Gymraeg trwy ofyn i’r ymgeisydd roi ychydig o ystyriaethau i ni cyn ein  trafodaethau ein hunain: 

Rhowch wybod i ni:

  • Sut y tybiwch chi gallai’r grant neu gymorth ariannol effeithio ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio a  hyrwyddo’r Gymraeg (Cadarnhaol a Negyddol). Hefyd, p’un a ydy, mewn unrhyw ffordd yn trin yr  Iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Iaith Saesneg? 
  • Sut ellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol?

8. Beth ddylwn i gynnwys yn y telerau ac amodau?

Rydyn ni’n awgrymu y dylid cynnwys y canlynol yn yr holl delerau ac amodau a gyhoeddir gan y Coleg ar  gyfer grantiau a chymorth ariannol. 

“Dyfernir y grant/cymorth ariannol hwn yn unol â gofynion ein Polisi ar Ddyfarnu Grantiau, a gyhoeddwyd i  sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif.6) 2017, dan Fesur y Gymraeg (Cymru)  2011. 

Er mwyn bodloni gofynion y telerau ac amodau hyn rhaid i chi gydymffurfio â’r isod 

<<rhowch amodau grant penodol mewn perthynas â’r Gymraeg>> 

Neu 

<<rhestrwch gamau a nodir gan yr ymgeisydd i sicrhau effeithiau cadarnhaol, neu i leihau effeithiau  negyddol (bydd y rhain wedi cael eu trafod yn ystod y cam gwneud penderfyniad). >>” 

Mewn rhai achosion, gall fod yn briodol i orfodi amod ar grant er mwyn sicrhau effeithiau mwy cadarnhaol  ar y Gymraeg. Gallai hyn fod mor syml â gofyn i ymgeiswyr arddangos arwyddion dwyieithog neu fod  gweithgareddau’n cael eu darparu yn y Gymraeg. 

Dylai unrhyw ofyniad i adrodd ynghylch defnydd o’r grant neu gymorth ariannol hefyd gynnwys gofyniad i  adrodd ar effeithiau’r iaith Gymraeg.

9. Casgliad

Mae’r Coleg yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg wrth hyrwyddo Cymru ddwyieithog ac mae’n  ymrwymedig i hyrwyddo ei defnyddio drwy ddyfarnu grantiau a chymorth ariannol. Mae’r polisi hwn yn  datgan ein hymrwymiad i gydymffurfio â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif.6) 2017, a sicrhau yr ystyrir  y Gymraeg drwy gydol y broses o ddyfarnu grantiau a chymorth ariannol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.