Skip to main content

Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer)

Cipolwg

  • Llawn Amser - Does dim Arholiad, 100% Gwaith Cwrs

  • 2 Flynedd

  • Campws y Graig 

Os oes gennych ddiddordeb brwd mewn chwaraeon a meddwl sy’n naturiol chwilfrydig gyda’r awydd i gyrraedd perfformiad brig, dyma’r cwrs i chi.

Mae gwyddonwyr chwaraeon ac ymarfer corff yn parhau i fod yn bresenoldeb cynyddol ym myd chwaraeon, ac wrth i ni edrych i’r dyfodol, mae pob arwydd yn awgrymu y bydd eu dylanwad ym myd chwaraeon yn cynyddu. Nod y cwrs hwn yw eich paratoi ar gyfer cyfleoedd astudio pellach ac mae’n darparu cam ar y ffordd i addysg uwch a/neu gyflogaeth.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y dysgwyr hynny sydd am ddysgu mwy am ddadansoddi perfformiad chwaraeon a’r hyn mae’n ei gymryd i anelu tuag at berfformiad brig. Bydd y cwrs yn datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth o fewn y maes, ochr yn ochr â datblygu sgiliau hanfodol fel llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol.

Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar o safon y diwydiant megis ein cae chwarae 4G, neuadd chwaraeon, campfa ffitrwydd, swît ddadansoddi a hwb perfformiad.  Cewch brofiad uniongyrchol o’n cyfarpar ‘Safon Aur’, sy’n cynnwys ‘Wattbikes’ Brigbŵer, Dadansoddwr Màs y Corff, synwyryddion Smartspeed a dadansoddwr anadl-wrth-anadl VO2max.  Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon gan gynnwys ein Rhaglen Perfformiwr Elitaidd (EPP).

Bydd myfyrwyr yn astudio dau gymhwyster dros gyfnod eu cwrs dwy flynedd, gan gwblhau Diploma Lefel 3 NCFE (540) mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff) ym mlwyddyn un ac yn symud ymlaen i Ddiploma Estynedig Lefel 3 NCFE mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff) ym mlwyddyn dau.

Nodweddion y Rhaglen

Mae meysydd astudio yn cynnwys anatomeg weithredol, ffisioleg a seicoleg gymhwysol, biomecaneg chwaraeon, hyfforddiant ffitrwydd arbenigol, maetheg, tylino chwaraeon ac anafiadau chwaraeon.  Hefyd byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol trosglwyddadwy fel gweithio gydag eraill, datrys problemau, dysgu annibynnol a sgiliau meddwl yn feirniadol. Hefyd bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau mewn trefnu, cynllunio dilyniant personol ac ymchwil ar lefel briodol.

Trwy gydol y cwrs byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol ymhellach trwy ein Twlcit Sgiliau Hanfodol Cymru ar-lein (WEST) ynghyd â chyfle i gael profiad ymarferol gyda’n cyfarpar gwyddor chwaraeon ‘Safon Aur’ yn ein Hwb Perfformiad.

Cynnwys y Rhaglen

Mae'r cwrs 18 uned yn cyfuno theori â dulliau dysgu ymarferol.  Mae 1080 GLH yn gyfwerth o ran maint â thri phwnc Safon Uwch.

Blwyddyn 1:

  • U1: Ymarfer corff, iechyd a ffordd o fyw *
  • U3: Egwyddorion anatomeg a ffisioleg *
  • U5: Biomecaneg
  • U6: Profi ffitrwydd ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff
  • U9: Seicoleg ar gyfer perfformiad chwaraeon
  • U10: Seicoleg chwaraeon gymhwysol
  • U11: Chwaraeon tîm ymarferol
  • U13: Ffisioleg ffitrwydd
  • U15: Hyfforddi a rhaglennu ffitrwydd
  • U20: Hyfforddi gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff

*mae’n dynodi modiwlau craidd gorfodol a osodir gan y corff dyfarnu

Blwyddyn 2:

  • U2: Paratoi ar gyfer gyrfa mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol *
  • U4: Ffisioleg ymarfer corff gymhwysol
  • U7: Dulliau arbrofi yn y labordy a’r maes
  • U8: Prosiect ymchwil ar gyfer gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff
  • U16: Maetheg chwaraeon
  • U21: Anafiadau chwaraeon
  • U24: Dadansoddi perfformiad chwaraeon
  • U26: Tylino ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff
Dilyniant a Chyflogaeth

Gall cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus arwain at gyfleoedd yn y sector chwaraeon, hamdden ac iechyd gan gynnwys cyflogaeth mewn canolfannau hamdden, campfeydd ffitrwydd, cyrff llywodraethu yn ogystal â chyrsiau Addysg Uwch perthnasol yn y brifysgol sy'n arwain at y proffesiynau canlynol; Gwyddonydd Chwaraeon, Therapydd Chwaraeon, Seicolegydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Maethegydd Perfformiad, Biomecanyddion Chwaraeon, Ffisiolegydd Ymarfer Corff Clinigol, Ymgynghorydd Atgyfeiriadau Ymarfer Corff Meddygon Teulu, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru i enwi ond ychydig.

Dull asesu

Mae asesiad yn 100% aseiniadau ysgrifenedig wedi’u hasesu’n fewnol trwy asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, llyfrau log, defnyddio tystiolaeth fideo, profion llyfr agored, taflenni/pamffledi, ac ati.  Caiff pob uned ei graddio fel Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth, gyda gradd  gyffredinol e.e. P, T neu Rh yn cael ei dyfarnu ar ôl cwblhau.

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU graddau A*-C/9-4, gan gynnwys naill ai Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith, mathemateg a Gwyddoniaeth. Mae cael TGAU mewn Addysg Gorfforol yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol.

Derbynnir dilyniannau o lefel dau chwaraeon gyda phroffil teilyngdod. Mae meddu ar ddiddordeb brwd a chymryd rhan yn weithredol mewn chwaraeon yn fanteisiol. Asesir pob dysgwr ar sail unigol trwy gyfweliad.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a phrynu cit chwaraeon y coleg i'w ddefnyddio mewn gweithgareddau ymarferol a theithiau coleg.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.