Skip to main content

BSc mewn Hyfforddiant a Pherfformiad Rygbi

Cipolwg

  • Llawn Amser / Rhan-amser

  • 1 Flwyddyn yn Llawn Amser / 2 Flynedd yn Rhan-amser

  • PCYDDS Caerfyrddin

Chwaraeon yw un o feysydd pwnc mwyaf dynamig Coleg Sir Gâr ac rydym yn falch i gynnig rhaglenni gradd cyffrous, arloesol mewn chwaraeon.

Mae'r BSc atodol blwyddyn o hyd mewn Hyfforddiant a Pherfformiad Rygbi wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi cyflawni Gradd Sylfaen neu 240 credyd mewn disgyblaeth gysylltiedig. Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i sicrhau profiad dysgu cyfredol ac academaidd trylwyr sy'n bodloni anghenion y diwydiant lleol.

Mae gan y rhaglen gysylltiadau cryf â thimau proffesiynol elit megis Y Scarlets a thimau lled-broffesiynol fel Llanymddyfri, Cwins Caerfyrddin a Llanelli lle mae gan fyfyrwyr y cyfle i ennill profiad diwydiannol ar y lefel uchaf.

Hefyd mae’r radd yn elwa o gysylltiadau cymunedol a ddatblygwyd yn yr adran dros nifer o flynyddoedd, gan leoli myfyrwyr mewn ysgolion lleol a gyda swyddogion datblygu rygbi Undeb Rygbi Cymru sy’n rhoi cipolwg ar lwybrau cyflogaeth posibl.

Mae’r cwrs yn un unigryw wedi’i leoli ym Mhrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Caerfyrddin a chaiff ei gyflwyno gan Goleg Sir Gâr felly byddwch yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant a Choleg Sir Gâr hefyd.

Nodweddion y Rhaglen

Mae'r meysydd astudio yn cynnwys hyfforddi rygbi, dadansoddi rygbi a chryfder a chyflyru. Hefyd byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol trosglwyddadwy fel sgiliau ymchwil uwch, datrys problemau, dysgu annibynnol a sgiliau meddwl yn feirniadol wrth baratoi at yrfa mewn rygbi a chwaraeon. Mae gan y rhaglen elfen dysgu’n seiliedig ar waith hefyd fel y gall myfyrwyr ennill profiad hanfodol yn eu maes diddordeb.

Mae'r maes pwnc yn elwa o gael cyfleusterau ardderchog sy'n cynnwys labordy chwaraeon o’r radd flaenaf, swît ddadansoddi, neuadd chwaraeon, swît cryfder a chyflyru ac arwyneb 3G bob tywydd.

Cynnwys y Rhaglen

Lefel  6

  • Arsylwi a Dadansoddi Perfformiad Rygbi 
  • Hyfforddi Perfformiad Uchel mewn Rygbi
  • Cryfder a Chyflyru 3
  • Dysgu Seiliedig ar Waith 3
  • Astudiaeth Annibynnol
Dilyniant a Chyflogaeth

Mae’r cwrs hwn yn anelu at baratoi myfyrwyr ar gyfer symud ymlaen i yrfa mewn rygbi, chwaraeon ac addysg gorfforol.

Gall llwybrau gyrfa posibl gynnwys Gweinyddwr Rygbi/Chwaraeon, Hyfforddwr, Swyddog Datblygu, Dadansoddwr Rygbi, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru, Athro Addysg Gorfforol neu Ddarlithydd Coleg.

Gall llwybrau gyrfa amgen gynnwys y gwasanaethau brys, y lluoedd arfog a gwaith ieuenctid.

Dull asesu

Caiff modiwlau eu hasesu trwy gyfuniad o aseiniadau, astudiaethau achos, llyfrau log ac asesiadau o sgiliau ymarferol.

Costau Ychwanegol

Does dim ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol/cit chwaraeon ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.

Gofynion Mynediad

Mae hwn yn gwrs blwyddyn sydd wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cyflawni Gradd Sylfaen neu 240 credyd ar lefel addysg uwch (120 ar Lefel 4 a 120 ar Lefel 5) mewn disgyblaeth gysylltiedig.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith hwn yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth bwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credyd fesul lefel ar hyd eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.  Mae modiwlau’r Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a dangos tystiolaeth, o ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar yrfaoedd sy’n gysylltiedig â’ch maes pwnc chi. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys gallu digidol, ymchwil a rheoli prosiect, yn ogystal â’r fath gymwyseddau personol â chyfathrebu, creadigrwydd, hunanfyfyrio, gwytnwch a datrys problemau. 

Dewch i wybod mwy am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.