Skip to main content

Cipolwg

  • Rhan-amser, 34 wythnos, 4 awr yr wythnos, Medi - Mehefin

  • 1 Flwyddyn

  • Campws y Graig 

Gall gyrfa mewn tylino chwaraeon fod yn ddewis cyffrous a gwerth chweil i unigolion sy’n frwdfrydig dros chwaraeon, iechyd da, a helpu eraill. Mae therapyddion tylino chwaraeon yn gweithio gydag athletwyr ac unigolion actif i helpu atal anafiadau, gwella perfformiad, a chynorthwyo yn y broses adfer.

Cymhwyster lefel dechnegol yw’r cwrs hwn sy'n anelu at ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau technegol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa fel therapydd tylino chwaraeon.

Mae'n gwrs poblogaidd iawn ac mae'n rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddarparu therapi tylino chwaraeon i ystod o gleientiaid sydd â meinwe gamweithredol, heb anafiadau acíwt/ôl acíwt neu gyflyrau patholegol sylfaenol. 

Trwy gydol y cymhwyster, byddwch yn datblygu technegau cynllunio ac asesu triniaeth yn ogystal â’ch sgiliau technegol. Bydd cyfle hefyd i ddatblygu eich sgiliau ymchwil a gwerthuso wrth astudio. 

Nodweddion y Rhaglen

Mae cynnwys y cymhwyster hwn yn cwmpasu'r holl elfennau gofynnol sydd eu hangen i weithio'n effeithiol ac yn effeithlon fel therapydd tylino chwaraeon. Mae hyn yn cynnwys anatomeg a ffisioleg, ymarfer proffesiynol, dealltwriaeth o egwyddorion iechyd a ffitrwydd a sut i ddarparu triniaethau tylino chwaraeon. Bydd y therapydd tylino chwaraeon lefel tri yn gallu gweithio'n ddiogel ac yn effeithiol ar feinwe gamweithredol mewn ystod o gyd-destunau, gan gynnwys, cyn digwyddiad, ar ôl digwyddiad, yn ystod digwyddiadau ac at ddibenion cynnal. 

Mae’r coleg yn rhedeg salon hyfforddi masnachol sydd ar agor i'r cyhoedd a bydd yn darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi. 

Rydym yn ffodus fod gennym gysylltiadau cryf gydag arbenigwyr yn y diwydiant yn lleol a chenedlaethol a chewch eich addysgu gan ein staff profiadol yn y diwydiant. 

Yn ogystal, mae gennym siaradwyr ymweliadol o’r diwydiant sydd yn rhoi cyfleoedd cyfoethogi i fyfyrwyr mewn seminarau gweithdy.  

Bydd y cwrs yn cychwyn ym mis Medi a bydd yn cymryd blwyddyn i'w gwblhau.  Byddwch yn mynychu'r coleg am un noson yr wythnos o 6pm i 9pm.

Cynnwys y Rhaglen

Mae’r cymhwyster yn cynnwys yr unedau gorfodol canlynol: 

  • USP41: Anatomeg a ffisioleg ar gyfer tylino chwaraeon 
  • USP42: Egwyddorion iechyd a ffitrwydd 
  • USP43: Deall egwyddorion meinwe feddal gamweithredol 
  • USP44: Ymarfer proffesiynol mewn tylino chwaraeon 
  • USP45: Triniaethau tylino chwaraeon
Dilyniant a Chyflogaeth

Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i arwain at gyflogaeth fel therapydd tylino chwaraeon. 

Byddwch yn rhan o raglen ffyniannus o weithgareddau a chewch gipolwg ar ragolygon gyrfa yn y diwydiant, trwy deithiau a digwyddiadau. 

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i gwrs lefel uwch fel y dystysgrif lefel pedwar mewn therapi tylino chwaraeon.

Dull asesu

Fel rhan o'r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio: 

  • USP41: Arholiad Allanol Anatomeg a Ffisioleg
  • Asesiadau parhaus 
  • E-bortffolio o dystiolaeth 
  • Aseiniadau ysgrifenedig
  • Asesiadau Ymarferol
Gofynion Mynediad

Does dim gofynion mynediad ffurfiol, caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad; fodd bynnag mae angen agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil galwedigaethol ac mae’n rhaid i chi fod yn awyddus i weithio gyda’r cyhoedd a meddu ar agwedd broffesiynol.

Costau Ychwanegol

Ffi’r cwrs rhan-amser hwn ar hyn o bryd yw £485. 

Cewch fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau ond ar ben hynny, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform.  Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad cychwyn a gellir trafod hyn yn y cyfweliad.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.