Skip to main content

Diploma Rhagarweiniol Lefel 1 Pearson BTEC mewn Chwaraeon

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 Flwyddyn

  • Campws y Graig 

Os oes diddordeb gennych mewn chwaraeon ac eisiau rhagflas a chyflwyniad i’w astudio, yna efallai mai dyma’r cwrs i chi. 

Ewch ati i wneud cwrs a fydd yn eich cyflwyno i’r diwydiant chwaraeon, ffitrwydd, hamdden a lles.

Mae’r cwrs blwyddyn hwn wedi’i gynllunio i roi cyflwyniad i chi i’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn addysg a/neu yrfa yn y diwydiant chwaraeon a hamdden actif. 

Cewch y cyfle i ymgymryd â gweithgareddau ymarferol ac astudiaeth ddamcaniaethol sy’n benodol i’r pwnc, ochr yn ochr â datblygu sgiliau hanfodol megis llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol. Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar o safon y diwydiant megis ein cae chwarae 4G, ein neuadd chwaraeon a’n swît ffitrwydd. Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n hacademïau chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.

Nodweddion y Rhaglen

Mae’r meysydd astudio yn cynnwys chwaraeon ymarferol, hyfforddi, iechyd, ffordd o fyw a hyfforddi ar gyfer ffitrwydd. Hefyd byddwch yn datblygu sgiliau mewn trefnu, cynllunio dilyniant personol ac ymchwil ar lefel briodol.

Byddwch yn cael sylfaen gadarn o sgiliau trosglwyddadwy a sgiliau hanfodol yn ogystal â dealltwriaeth o amrywiol lwybrau gyrfa o fewn y diwydiant chwaraeon a hamdden actif.

Cynnwys y Rhaglen

Mae 10 uned yn ffurfio’r cwrs sy’n cynnwys:

  • Bod yn Drefnus
  • Datblygu Cynllun Dilyniant Personol
  • Gweithio Gydag Eraill
  • Ymchwilio i Bwnc
  • Cynorthwyo mewn gweithgaredd chwaraeon
  • Hyfforddi ar gyfer Ffitrwydd
  • Chwarae Chwaraeon
  • Sgiliau Hyfforddi mewn Chwaraeon
  • Cael Pobl i fod yn Actif
  • Cadw’n Actif ac Iach
Dilyniant a Chyflogaeth

Mae’r cwrs hwn yn darparu cipolwg ar y diwydiant chwaraeon a hamdden actif ac mae’n annog dysgwyr i symud ymlaen ymhellach er mwyn cyflawni eu cyrchnodau gyrfaol yn ogystal â chanolbwyntio ar y sgiliau trosglwyddadwy sylfaenol. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn caniatáu i fyfyrwyr symud ymlaen i chwaraeon Lefel 2.

Mae cyfleoedd dilyniant yn dibynnu ar gyflawniadau myfyrwyr ar Lefel 1. Disgwylir i ddysgwyr gwblhau gyda phroffil teilyngdod llawn a dangos cynnydd mewn llythrennedd a rhifedd. Mae symud ymlaen yn amodol ar gyfweliad.

Dull asesu

Caiff yr holl aseiniadau eu dyfeisio gan diwtoriaid y cwrs, a’u hasesu’n fewnol.

I ennill pas mewn uned a asesir yn fewnol, rhaid i fyfyrwyr fodloni’r holl feini prawf asesu.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Gofynion Mynediad

Bydd angen o leiaf tri TGAU graddau A* - G arnoch, sy’n cynnwys naill ai Saesneg iaith, Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg.

Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o'r cwrs.  Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cael y graddau C neu uwch angenrheidiol hyd yn hyn yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU, Cymwysterau Agored neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.

Costau Ychwanegol

Gall costau ychwanegol ddigwydd ar gyfer gweithgareddau oddi ar y safle a chit y cwrs / yr academi. Yn ogystal â darparu eich adnoddau addysgol eich hun h.y. deunydd ysgrifennu. 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Mae’n bosibl y bydd cyllid ar gael yn dibynnu ar amgylchiadau unigol

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.