Ewch ati i wneud cwrs fydd yn eich cyflwyno i’r diwydiant chwaraeon, ffitrwydd, hamdden a lles.
Mae’r cwrs blwyddyn hwn wedi’i gynllunio i’ch cyflwyno chi i’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn addysg a/neu yrfa yn y diwydiant chwaraeon a hamdden actif. Ei nod yw meithrin nodweddion ac ymddygiadau yn barod ar gyfer astudio pellach. Ar gwblhau, mae’n bosibl y byddwch yn penderfynu defnyddio’r cwrs hwn fel cam i Chwaraeon L2 neu Wasanaethau Cyhoeddus L2.
Cewch gyfle i ymgymryd â gweithgareddau ymarferol ac astudiaeth ddamcaniaethol sy’n benodol i’r pwnc, ochr yn ochr â datblygu sgiliau hanfodol megis llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol. Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar safon ddiwydiannol megis ein cae chwarae 4G, ein neuadd chwaraeon a’n swît ffitrwydd. Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.
Cipolwg
Llawn Amser
2 Flynedd
Campws Graig
Nodweddion y Rhaglen
Mae’r meysydd astudio yn cynnwys chwaraeon ymarferol, hyfforddi, iechyd, ffordd o fyw a hyfforddi ar gyfer ffitrwydd. Hefyd byddwch yn datblygu sgiliau mewn trefnu, cynllunio dilyniant personol ac ymchwil ar lefel briodol.
Cewch wahoddiad i ymgysylltu â’r gymuned leol a meithrin perthnasau positif gydag arbenigwyr y diwydiant er mwyn treiddio ymhellach i ddewisiadau gyrfa posibl. Mae’r cyfleoedd hyn yn anelu at wella hyder a datblygu dyheadau.
Hefyd mae’r cwrs yn cynnwys sesiynau datblygu sgiliau a rhaglen diwtorial.
Dilyniant a Chyflogaeth
Ewch ati i wneud cwrs fydd yn eich cyflwyno i’r diwydiant chwaraeon, ffitrwydd, hamdden a lles.
Mae’r cwrs blwyddyn hwn wedi’i gynllunio i’ch cyflwyno chi i’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn addysg a/neu yrfa yn y diwydiant chwaraeon a hamdden actif. Ei nod yw meithrin nodweddion ac ymddygiadau yn barod ar gyfer astudio pellach. Ar gwblhau, mae’n bosibl y byddwch yn penderfynu defnyddio’r cwrs hwn fel cam i Chwaraeon L2 neu Wasanaethau Cyhoeddus L2.
Cewch gyfle i ymgymryd â gweithgareddau ymarferol ac astudiaeth ddamcaniaethol sy’n benodol i’r pwnc, ochr yn ochr â datblygu sgiliau hanfodol megis llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol. Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar safon ddiwydiannol megis ein cae chwarae 4G, ein neuadd chwaraeon a’n swît ffitrwydd. Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.
Asesu'r Rhaglen
Caiff yr holl aseiniadau eu dyfeisio gan diwtoriaid y cwrs, a’u hasesu’n fewnol.
I ennill pas mewn uned a asesir yn fewnol, rhaid i fyfyrwyr fodloni’r holl feini prawf asesu.
Gofynion y Rhaglen
Bydd arnoch angen o leiaf 4 TGAU graddau D-G. Asesir pob myfyriwr yn unigol a chynigir cyfle iddynt ddod i gyfweliad.
Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o'r cwrs. Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cael y graddau angenrheidiol ar C neu uwch hyd yn hyn yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU, Cymwysterau Agored neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.