Skip to main content

Diploma Estynedig Cenedlaethol L3 mewn Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 2 Flynedd

  • Campws y Graig 

Mae chwaraeon, ffitrwydd a hyfforddiant personol yn yrfa ddelfrydol i helpu ysgogi pobl i ymarfer yn effeithiol a mwynhau’r canlyniad a ddaw yn sgil hyn.

Mae’r Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 Pearson BTEC mewn Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol yn gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant (CIMSPA/REPS). Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar symud ymlaen i gyflogaeth fel hyfforddwr personol ac mae'n cefnogi dysgwyr i sefydlu eu busnes hyfforddiant personol a hyfforddi ymarfer eu hunain.

Caiff dysgwyr hefyd y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddarparu sesiynau hyfforddi a rhaglenni ymarfer i gleientiaid i gyd-fynd â'u hanghenion penodol. Bydd dysgwyr yn ennill gwybodaeth ac arbenigedd ychwanegol sy'n caniatáu iddynt ddarparu gwasanaethau eraill sy’n gysylltiedig â chwaraeon neu ffitrwydd  i'r cleientiaid y maent yn eu hyfforddi'n bersonol, megis tylino chwaraeon a phrofion ffitrwydd.

Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar o safon y diwydiant megis ein cae chwarae 4G, neuadd chwaraeon, campfa ffitrwydd, swît ddadansoddi a hwb perfformiad.  Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.

Nodweddion y Rhaglen

Mae meysydd astudio yn cynnwys Datblygu Sgiliau Ffitrwydd, Datblygu Sgiliau Hyfforddwr Personol, Maetheg ar gyfer Perfformiad Corfforol a Thylino Chwaraeon Gweithredol.

Byddwch yn datblygu’r sgiliau canlynol:

  • Sgiliau gwybyddol a datrys problemau: defnyddio meddwl beirniadol, mynd i'r afael â phroblemau anarferol wrth ddefnyddio datrysiadau creadigol.
  • Sgiliau rhyngbersonol: cyfathrebu, gweithio ar y cyd, trafod a dylanwadu, hunan-gyflwyniad.
  • Sgiliau personol: hunanreolaeth, gallu i addasu a gwytnwch, monitro eich hun a datblygu.
Cynnwys y Rhaglen

Mae’r cwrs yn cynnwys 12 uned a all gynnwys:

  • Gyrfaoedd yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Egnïol
  • Iechyd, Lles a Chwaraeon
  • Datblygu Sgiliau Ffitrwydd
  • Datblygu Sgiliau Hyfforddwr Personol
  • Hunangyflogaeth mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol
  • Maeth ar gyfer Perfformiad Corfforol
  • Tylino Chwaraeon Gweithredol
  • Profi Ffitrwydd
  • Gweithrediadau Cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden
  • Busnes a Thechnoleg mewn Hyfforddiant Personol
Dilyniant a Chyflogaeth

Mae’r prif ffocws ar ddilyniant i gyflogaeth fel hyfforddwr personol ac mae’n cefnogi dysgwyr i sefydlu eu busnes hyfforddiant personol a hyfforddi ymarfer eu hunain. Gall dysgwyr symud ymlaen o’r cymhwyster hwn i raglenni gradd addysg uwch, megis BA (Anrh) mewn Iechyd a Ffitrwydd a BSc (Anrh) mewn  Diet, Ffitrwydd a Lles.

Fel arall, gall dysgwyr symud ymlaen i gymhwyster atgyfeirio meddygol Lefel 4, fel Diploma mewn Atgyfeirio Ymarfer.

Dull asesu

Caiff yr holl asesiadau eu cynllunio a'u hasesu'n fewnol, gyda samplu allanol yn digwydd ar gais.

Asesir pob uned i gyrraedd proffil pas, teilyngdod neu ragoriaeth. Rhaid i fyfyrwyr fodloni meini prawf asesu penodol er mwyn cyflawni pob marc.

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU graddau A*-C/9-4, gan gynnwys naill ai Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith a Mathemateg. Mae cael TGAU Addysg Gorfforol yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol.

Derbynnir dilyniannau o Lefel 2 Chwaraeon gyda phroffil TT. Mae meddu ar ddiddordeb brwd a chyfranogiad gweithredol mewn ffitrwydd ac ymarfer hefyd yn fanteisiol.  Asesir pob dysgwr ar sail unigol trwy gyfweliad.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.