Mae’r cwrs hwn yn gwrs lefel tri llawn amser sy’n gyfwerth â lefel Safon Uwch.
Mae’r cwrs dwy flynedd yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau o ofynnir gan gyflogwyr yn y diwydiant rheolaeth anifeiliaid ac amgylcheddol ac maent yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel gradd yn y pynciau yma neu bynciau cysylltiedig.
Mae’r rhaglen yn eich galluogi i ddatblygu ac ehangu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarferol i’w defnyddio yn y diwydiant ar dir proffesiynol.
Yn ogystal, bydd yn ofynnol i chi gwblhau 150 awr o brofiad gwaith gorfodol yn eich blwyddyn astudio gyntaf.
Ar ddiwedd blwyddyn un byddwch yn cwblhau’r cymhwyster 540 credyd diploma technegol uwch lefel tri mewn rheolaeth anifeiliaid. Ar ddiwedd eich ail flwyddyn byddwch yn cwblhau’r diploma estynedig technegol uwch lefel tri mewn rheolaeth anifeiliaid (cymhwyster 1080 credyd).
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Byddwch yn ennill profiad ymarferol gydag ystod o rywogaethau anifeiliaid anwes, ceffylau, da byw ac anifeiliaid egsotig.
Byddwch yn cymryd rhan mewn ymweliadau a gweithdai’n cynnwys cyflogwyr sy’n cael eu trefnu fel rhan o’r cwrs ac sy’n ymwneud yn benodol â modiwlau’r cwrs.
Mae profiad gwaith (150 awr) yn orfodol ym mlwyddyn un y cwrs a’i nod yw datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd
Bydd gennych ddigonedd o fynediad i wasanaethau cymorth dysgu
Cynnwys y Rhaglen
Yn ystod y ddwy flynedd byddwch yn astudio ystod o fodiwlau yn cynnwys:
Iechyd a diogelwch
Profiad gwaith yn y diwydiannau ar dir
Iechyd a hwsmonaeth anifeiliaid
Bwydo a maetheg anifeiliaid
Ymddygiad a chyfathrebu anifeiliaid
Systemau biolegol anifeiliaid
Lles a bridio anifeiliaid
Cadwraeth bywyd gwyllt ac ecoleg
Rheolaeth ac adfer bywyd gwyllt
Iechyd a hwsmonaeth anifeiliaid egsotig
Dylunio a rheolaeth siop anifeiliaid anwes
Hyfforddi anifeiliaid
Nyrsio anifeiliaid
Hwsmonaeth a lles anifeiliaid fferm
Gwasanaethau perthynol i anifeiliaid anwes
Adferiad anifeiliaid bach
Rheolaeth cyndai a chathdai
Ymgymryd â sgiliau ystâd
Rheolaeth busnes yn y sector ar dir
Ymgymryd â phrosiect arbenigol yn y sector ar dir
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar gwblhau ail flwyddyn y diploma estynedig technegol uwch lefel tri mewn rheolaeth anifeiliaid (1080) gallech symud ymlaen naill ai i gyflogaeth o fewn y sector ar dir neu i mewn i addysg uwch.
Mae enghreifftiau o lwybrau gyrfaol yn cynnwys: rheolaeth cyndai a chathdai, twtio cŵn, lles anifeiliaid, ecoleg a gwaith cadwraeth, cynorthwywyr nyrsio anifeiliaid, elusennau anifeiliaid, bridio anifeiliaid arbenigol, technegydd anifeiliaid, gwaith achub ac ailsefydlu anifeiliaid.
Mae enghreifftiau o opsiynau addysg uwch yn cynnwys: BSc (anrh) mewn ymddygiad a lles anifeiliaid*, swoleg, nyrsio milfeddygol, cadwraeth, amaethyddiaeth*, bioleg anifeiliaid, ymddygiad a hyfforddiant anifeiliaid. * ar gael yng Ngholeg Sir Gâr.
Asesu'r Rhaglen
Mae asesu’r cwrs yn cynnwys arholiadau ffurfiol a osodir yn allanol, asesiadau ysgrifenedig (synoptig) ac asesiadau ymarferol gyda’r nod i brofi eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarferol.
Gofynion y Rhaglen
Mae angen i bob ymgeisydd gael o leiaf pump TGAU graddau A* - C gan gynnwys mathemateg a Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf) ac yn ddelfrydol, bioleg.
Neu byddwch wedi ennill gradd teilyngdod/rhagoriaeth mewn cymhwyster lefel dau perthnasol ynghyd â dau TGAU graddau A* i C mewn mathemateg a Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf)
Bydd angen i bob ymgeisydd a gaiff ei gyfweld hefyd ennill gradd pas yn y prawf cyfweliad.
Costau Ychwanegol
Bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau yn y coleg. Fodd bynnag bydd disgwyl i chi brynu dillad penodol ar gyfer sesiynau ymarferol sef naill ai oferôls neu drowsus glaw a welingtons (yn ddelfrydol gyda blaenau dur). Ni ddylai cost y cyfarpar fod yn fwy na £100 a gellir trafod hyn yn y cyfweliad.
Mae cyfle i chi brynu hwdis, topiau a chotiau gyda logo’r coleg ar ddechrau’r flwyddyn academaidd sydd yn opsiynol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.