Astudiaethau Ceffylau - Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 - Gofal Ceffylau
Cipolwg
-
Rhan-amser
-
18 Mis
-
Campws Pibwrlwyd
Mae prentisiaeth sylfaen yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i alluogi’r dysgwr i ennill gwaith llawn amser yn y diwydiant ceffylau. Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed. Bydd y prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentis.
Mae gan ddysgwyr ar y rhaglen hon yr opsiwn o ddau lwybr astudio. Mae llwybr un yn ymgorffori llwybr cymhwyster Cymdeithas Ceffylau Prydain ac mae’n seiliedig ar arholiadau. Mae’r ail lwybr yn cynnwys adeiladu portffolio o dystiolaeth drwy ddiploma seiliedig ar waith City & Guilds.
Bydd y prentis yn dod i’r coleg un diwrnod yr wythnos. Yn y coleg, mae dysgwyr yn ymdrin â gwybodaeth ddamcaniaethol greiddiol mewn gofal ceffylau a sgiliau ymarferol arbenigol i baratoi dysgwyr ar gyfer y gweithle. Dylai dysgwyr gyflawni'r fframwaith prentisiaeth lefel dau o fewn 18 mis.
Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod)
Byddant yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser
Caiff y prentis ei asesu yn y gweithle yn ôl yr angen (bob 56 i 61 diwrnod)
Mae arholiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol fel cymwysterau safon y diwydiant.
Mae diploma seiliedig ar waith City & Guilds yn llwybr amgen diarholiad.
Bydd dysgwyr yn astudio yng Ngholeg Sir Gâr, canolfan arholi a gymeradwyir gan Gymdeithas Ceffylau Prydain sydd wedi’i lleoli ar ei gampws ym Mhibwrlwyd. Mae cyfleusterau’n cynnwys ysgol dan do, menage awyr agored a llety mewn stablau i tua 14 o geffylau.
Mae enghreifftiau o'r unedau astudio yn cynnwys:
- Maeth ceffylau
- Anatomeg a Ffisioleg
- Rheoli Glaswelltir
- Dylunio stablau
- Arwain ceffyl dan oruchwyliaeth
- Gwastrodi, plethu a gosod cyfarpar
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r brentisiaeth sylfaen hon yn llwyddiannus i’r safon ofynnol, symud ymlaen i brentisiaeth ar lefel tri.
Arholiadau Gwybodaeth a Gofal Ceffylau a Marchogaeth a Diogelwch ar y Ffordd BHS y gellir eu sefyll ar gampws Pibwrlwyd, Coleg Sir Gâr.
Bydd y dysgwr yn cael ei asesu'n barhaus yn y gweithle ac yn y coleg hefyd a fydd yn cynnwys gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith ymarferol, tystiolaeth yn y gwaith ac arsylwadau.
Does dim gofynion mynediad penodol. Fodd bynnag, mae yna gymwysterau neu brofiad a fydd yn helpu dysgwyr i ddeall y sector cyn dechrau, er enghraifft:-
- Prawf C y Pony Club
- Tystysgrif Lefel 1 BTEC mewn Gofalu am Geffylau
- Diploma Seiliedig ar Waith Lefel 1 mewn Gofal Ceffylau
- BHS Cam 1 Gwybodaeth a Gofal Ceffylau
- NVQ Lefel 1 mewn Gofal Ceffylau
Wedi gweithio’n flaenorol yn y diwydiant, neu’n gweithio ynddo ar hyn o bryd.
Ariennir y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae angen Aelodaeth Aur Cymdeithas Ceffylau Prydain.
Does dim ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.