Skip to main content

Nyrsio Milfeddygol lefel 3

Cipolwg

  • Rhan Amser

  • 33 mis

  • Campws Pibwrlwyd

Mae'r cwrs lefel tri nyrsio milfeddygol seiliedig ar waith hwn wedi’i gynllunio ar gyfer ymgeiswyr sydd eisoes yn gweithio mewn gweithle sy'n bractis hyfforddiant milfeddygol cymeradwy. Rhaid i bob practis gael eu cymeradwyo gan y coleg a rhaid i brentisiaid fod yn gweithio gyda nyrs filfeddygol gofrestredig neu filfeddyg (hyfforddwr clinigol) trwy gydol y rhaglen.

Nodweddion y Rhaglen

Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi a thiwtoriaid a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod). Caiff modiwlau eu hasesu drwy aseiniadau ysgrifenedig, arholiadau a log sgiliau clinigol ymarferol. Rhaid i brentisiaid sefyll Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE) ar ddiwedd eu cwrs i fod yn gymwys i ymuno â'r Gofrestr Nyrsys Milfeddygol. 

Dilyniant a Chyflogaeth

Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth yn llwyddiannus mae myfyrwyr yn gymwys i ymuno â'r gofrestr Nyrsys milfeddygol. Mae cyfleoedd i symud ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch megis HNC/D, Gradd Sylfaen neu Radd (BSc). Dilyniant o fewn swydd - Diploma Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) mewn Nyrsio Milfeddygol Uwch

Cynnwys y Rhaglen

Bydd rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y brentisiaeth hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:

  • Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol (Llwybr Anifeiliaid Bach)
  • Sgiliau Hanfodol ar lefel 2 (Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu)
Dull asesu

Gwaith cwrs, aseiniadau, arholiadau, Log Sgiliau Clinigol ac Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol.

Gofynion Mynediad
  • Pum TGAU gradd C neu uwch a rhaid iddynt gynnwys mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth
  • Gwaith llawn amser â thâl mewn practis hyfforddiant milfeddygol
  • Gellir ystyried cymwysterau eraill ar yr un lefel neu lefel uwch fesul achos.
  • Gweithio gyda nyrs filfeddygol gofrestredig neu filfeddyg i gynorthwyo i gwblhau'r log cynnydd nyrsio.
  • Ariennir y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.