Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 flwyddyn

  • Campws Pibwrlwyd

Mae'r cwrs gofal ceffylau hwn yn cynnig cyflwyniad delfrydol i reolaeth ceffylau a stablau ar gyfer y rheiny sy'n dymuno dilyn gyrfa yn y diwydiant ceffylau neu ar gyfer y rheiny sy’n dymuno symud ymlaen i gwrs rheolaeth ceffylau a stablau lefel tri.

Nod y rhaglen yw datblygu sgiliau'r dysgwyr ac mae'n darparu gwybodaeth helaeth yn ymwneud â cheffylau a'r diwydiant ceffylau.  Mae dysgwyr yn astudio theori yn yr ystafell ddosbarth a gweithgareddau ymarferol yn arena gystadlu’r coleg sy’n ganolfan arholi Cymdeithas Ceffylau Prydain. 

Mae gan y coleg amrywiaeth o geffylau wedi'u gwastrodi'n dda a ddefnyddir ar gyfer hyfforddiant mewn dressage a neidio ceffylau. Caiff myfyrwyr y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau a gynhelir gan y coleg ac i dderbyn hyfforddiant oddi wrth hyfforddwyr ac arholwyr Cymdeithas Ceffylau Prydain (BHS). 

Mae'r cwrs yn cynnwys uned brofiad gwaith orfodol sy'n golygu 150 o oriau o brofiad gwaith drwy gydol y flwyddyn mewn canolfan geffylau addas. Darperir cyfleoedd hefyd i sefyll TGAU mewn Saesneg a mathemateg ac i ddatblygu'r Gymraeg. 

Yn ogystal bydd y dysgwr yn cael y cyfle i sefyll arholiadau cam un Cymdeithas Ceffylau Prydain a Marchogaeth a Diogelwch ar y Ffordd pan fydd yn cyrraedd y safon ofynnol. 

Nodweddion y Rhaglen
  • Arena gystadlu gyda cheffylau wedi'u gwastrodi ar gyfer dressage a neidio ceffylau
  • Mae’r cyfle i sefyll arholiadau cam Cymdeithas Ceffylau Prydain a’r asesiad Marchogaeth a Diogelwch ar y Ffordd ar gael os yw dysgwyr yn bodloni’r safonau gofynnol. 
  • Canolfan arholi Cymdeithas Ceffylau Prydain
  • Amgylchedd dysgu cefnogol  
  • Mae profiad gwaith a Sgiliau Hanfodol yn cynyddu’r siawns o gyflogaeth ar ôl cwblhau'r cwrs 
  • Cyfleoedd i gystadlu ar eich ceffyl eich hun neu gyda cheffylau'r coleg 
  • Darperir cymorth dysgu yn yr ystafell ddosbarth ac mae sesiynau wythnosol ar gael yn y Parth Astudio os oes angen. 
  • Bydd tiwtorialau rheolaidd yn monitro cynnydd ar y cwrs
Cynnwys y Rhaglen

Unedau Craidd: 

  • Iechyd a diogelwch ar gyfer y diwydiannau ar dir  
  • Gweithio yn y diwydiant ceffylau 
  • Iechyd a lles ceffylau  
  • Tac a chyfarpar ceffylau 
  • Ymgymryd â dyletswyddau rheolaidd y stabl 
  • Egwyddorion bwydo a dyfrio ceffylau 
  • Trin a gwastrodi ceffylau 
  • Cyflwyniad i arwain ceffylau  

Unedau Opsiynol: 

  • Marchogaeth ceffylau ar y fflat
  • Cadw ceffylau ar laswellt
  • Ymddygiad ceffylau
Dilyniant a Chyflogaeth

Gall myfyrwyr sy’n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus gyda theilyngdod neu uwch symud ymlaen i’r diploma uwch lefel tri mewn rheolaeth ceffylau a stablau neu i gyflogaeth yn dilyn cyfweliad llwyddiannus ac isafswm  presenoldeb blaenorol o 85%. 

Mae yna alw cynyddol am bobl sydd â sgiliau ymarferol da i weithio mewn iardiau stablau, gwaith gre a rasio, ymysg disgyblaethau a meysydd eraill. Caiff arholiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain eu cydnabod gan y diwydiant ar draws y byd.

Dull asesu

Asesiad synoptig ac aseiniadau unedau unigol:  Mae'r rhain yn cael eu gosod yn allanol, eu marcio'n fewnol a'u cymedroli'n allanol.

Arholiad theori diwedd blwyddyn:  Caiff ei osod yn allanol a’i farcio’n allanol a gellir ei sefyll naill ai ar-lein neu fel papur ysgrifenedig.

Mae arholiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain yn seiliedig ar waith ymarferol ac ar theori.  Gellir ymgymryd â'r adran gwybodaeth a gofal ceffylau ynghyd â'r adran farchogaeth yn uned geffylau Campws Pibwrlwyd y coleg.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Gofynion Mynediad

Tri TGAU (gan gynnwys o leiaf un TGAU (A* i C) mewn mathemateg, Cymraeg neu Saesneg) a chyfweliad ac asesiad marchogaeth llwyddiannus.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Yn ychwanegol, mae’n ofynnol i ddysgwyr ddarparu eu cyfarpar marchogaeth eu hunain, gan gynnwys bŵts marchogaeth addas, het sy’n bodloni safonau cyfredol y diwydiant a menig. Mae angen i ddysgwyr ar y llwybr nad yw’n cynnwys marchogaeth gael bŵts iard addas ar gyfer gweithio o amgylch y ceffylau a’r cyfarpar. Mae cymorth ariannol ar gael i ddysgwyr sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer cymorth.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.