Cymorth Cyntaf i Gŵn
Cipolwg
-
Rhan-amser
-
1 Diwrnod - I’w gadarnhau - Ar hyn o bryd rydym yn derbyn mynegiadau o ddiddordeb ar gyfer y cwrs hwn ac yn gobeithio'n fawr ei gynnal os oes digon o bobl neu fusnesau â diddordeb ynddo.
-
Campws Pibwrlwyd
Mae’r cwrs undydd rhan-amser hwn yn edrych ar roi cymorth cyntaf i gŵn mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd brys ynghyd â’r hyn sydd angen i chi ei wybod am ddyletswyddau a chyfrifoldebau cyfreithiol.
Mae'r cwrs yn cynnwys sesiynau ymarferol i alluogi cyfranogwyr i ymarfer ystod o sgiliau gan gynnwys rhwymynnu a CPR.
Bydd unrhyw un sy'n berchen ar gŵn neu sy’n gweithio gyda chŵn yn elwa'n fawr o gymryd rhan yn y cwrs hwn.
Bydd y wybodaeth a'r sgiliau a ddatblygir hefyd yn tawelu meddwl cwsmeriaid busnesau megis twtwyr cŵn, cyndai, y rheiny sy’n gwarchod a cherdded cŵn fod eu hanifeiliaid anwes yn cael eu diogelu. Fel y cyfryw, gall y modiwl hwn ffurfio rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus cydnabyddedig unrhyw weithiwr mewn busnes o’r fath.
Cost y cwrs yw £120 y pen
Cyflwynir y cwrs gan Nyrs Filfeddygol Gofrestredig (RVN) ac mae'n cynnwys sesiynau theori yn yr ystafell ddosbarth a sesiynau ymarferol hefyd.
- Rôl y perchennog cŵn wrth ddarparu cymorth cyntaf yn unol â Deddf Milfeddygon 1966
- Sut i adnabod cyflyrau sy'n gofyn am gymorth cyntaf brys gan gynnwys trawiad gwres, clwyfau, toriadau, ffitiau a sioc
- Mathau o waedlif (gwaedu) a dulliau rheoli
- Gweithdrefnau dadebru gan gynnwys CPR a symudiad Heimlich
- Cymorth cyntaf ar gyfer llosgiadau, sgaldiadau, trydaniad, gwenwyno, brathiadau a phigiadau
- Sut i drafod a chludo ci sy'n ddifrifol wael neu wedi'i anafu mewn modd diogel
- Pecynnau Cymorth Cyntaf Anifeiliaid Anwes
Bydd y cwrs hwn yn cynnig rhywfaint o hyder a sicrwydd i’r rheiny sy’n gweithio gyda chŵn neu sy’n berchen ar gŵn fel eu bod yn fwy parod mewn unrhyw sefyllfa frys.