Gofal Ceffylau Lefel 1
Cipolwg
-
Llawn Amser
-
1 Flwyddyn
-
Campws Pibwrlwyd
Mae’r cwrs gofal ceffylau hwn yn cynnig cyfle cyffrous i gychwyn ar daith at yrfa yn ymwneud â cheffylau.
Mae’n gyflwyniad rhagorol i’r diwydiant ceffylau sy’n cynnig sylfaen wybodaeth gref a sgiliau cadarn i ganiatáu symud ymlaen i gymhwyster lefel dau neu i gyflogaeth.
- Profiad ymarferol gydag ystod o anifeiliaid, ond gyda ffocws ar geffylau
- Mae ymweliadau ac ymchwiliadau ymarferol yn ehangu’r profiad dysgu
- Ystod o asesiadau gwahanol (sesiynau ymarferol, profion amlddewis, aseiniadau ysgrifenedig)
- Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys sgiliau sylfaenol mewn llythrennedd a rhifedd a’r cyfle i ailsefyll TGAU Mathemateg a Saesneg
- Profiad gwaith (60 awr) i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd
- Mae iechyd a diogelwch yn rhan bwysig o'r cwrs a chaiff ei asesu'n ymarferol ac mewn prawf amlddewis ar-lein byr
- Arferion gwaith diogel ac effeithiol mewn diwydiannau ar dir
- Paratoi i weithio yn y diwydiannau ar dir
- Cynorthwyo gyda chynnal iechyd a lles anifeiliaid
- Cynorthwyo gydag ymarfer anifeiliaid
- Cynorthwyo gyda bwydo a dyfrhau anifeiliaid
- Cynorthwyo gyda pharatoi a chynnal a chadw llety anifeiliaid
- Cynorthwyo gyda thrafod a ffrwyno anifeiliaid
Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad sylfaenol i unrhyw un sy’n bwriadu dilyn gyrfa yn y diwydiannau ceffylau. Gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i gyflogaeth neu i’r diploma lefel dau mewn gofal ceffylau. Mae cyfleoedd cyflogaeth yn cynnwys gwastrawd cynorthwyol a gweithio gydag elusennau.
Asesir trwy asesiadau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig a dau brawf amlddewis ar-lein.
Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Tri TGAU graddau A*-G neu gyfwerth, geirdaon da a chyfweliad llwyddiannus. Bydd y rheiny heb gymwysterau ffurfiol yn cael eu hystyried yn dilyn cyfweliad, geirdaon a phrawf mynediad.
Disgwylir i ddysgwyr ddarparu eu welingtons a’u dillad glaw eu hunain ar gyfer sesiynau ymarferol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.