Prentisiaeth (Sylfaen) Cynorthwyydd Nyrsio Milfeddygol
Cipolwg
-
Rhan-amser
-
18 Mis
-
Campws Pibwrlwyd
Dyma’r cymhwyster delfrydol ar gyfer y rheiny sy’n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfa fel cynorthwyydd gofal milfeddygol, neu fynd i addysg bellach. Datblygwyd y cymhwyster hwn ar gyfer y rheiny sy’n rhoi gofal sylfaenol i anifeiliaid dan gyfarwyddyd a/neu oruchwyliaeth milfeddyg neu nyrs filfeddygol. At ddiben y cymhwyster hwn, mae darparwyr gwasanaethau gofal milfeddygol yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu, i bractis milfeddygol barn gyntaf, practis milfeddygol ail farn neu atgyfeirio, ysbytai milfeddygol, adrannau milfeddygol mewn sefydliadau lles anifeiliaid ac ysgolion milfeddygol.
Unedau astudio:
- Egwyddorion ac arferion trafod a gofalu am anifeiliaid yn yr amgylchedd milfeddygol
- Egwyddorion ac arferion cynorthwyo gyda gofal yn yr amgylchedd milfeddygol
- Egwyddorion ac arferion dyletswyddau gweinyddol yn yr amgylchedd gofal milfeddygol
Bydd rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y brentisiaeth hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:
- Diploma Lefel 2 CQ i Gynorthwywyr Nyrsio Milfeddygol
- Sgiliau hanfodol ar lefel 1 (Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a llythrennedd digidol)
Yn dilyn cwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus mae gan fyfyrwyr y wybodaeth a’r sgiliau i roi gofal i anifeiliaid yn lleoliad y practis milfeddygol dan gyfarwyddyd neu oruchwyliaeth Milfeddyg neu Nyrs Filfeddygol Gofrestredig.
Ar gwblhau’r Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2, mae’n bosibl y gall Prentisiaid symud ymlaen i fod yn nyrs filfeddygol dan hyfforddiant, yn amodol ar fodloni gofynion cofrestru a osodir gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon ar gyfer Nyrsys Milfeddygol dan Hyfforddiant.
Gall cyfleoedd ar gyfer dilyniant gynnwys:
- Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol - Ymarfer Anifeiliaid Bach
- Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol (Anifeiliaid Anwes)
- Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol - Ymarfer Ceffylau
- Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol (Ceffylau)
- Prentisiaeth mewn Nyrsio Milfeddygol Prentisiaeth mewn Gofal Anifeiliaid
- Diploma Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid.
Caiff modiwlau eu hasesu trwy aseiniadau. Mae pob aseiniad yn cynnwys:
- Cyfres o restrau gwirio marcio ymarferol ac astudiaethau achos sy'n asesu elfennau cymhwysedd y cymhwyster a dylid eu cwblhau a'u cadw mewn portffolio o dystiolaeth
- Nifer o dasgau ysgrifenedig sy’n asesu elfennau gwybodaeth y cymhwyster megis adroddiadau, dalennau, taflenni, astudiaethau achos, profion ysgrifenedig, posteri, neu gyflwyniadau.
Gwaith â thâl mewn practis milfeddygol am 2 ddiwrnod yr wythnos o leiaf.Rhaid i’r practis milfeddygol ddarparu mentor/goruchwyliwr yn y gweithle i’r myfyriwr, naill ai Nyrs Filfeddygol neu Filfeddyg cymwysedig neu rywun sydd â phrofiad sylweddol a chyfoes o fewn milfeddygaeth.
Does dim gofynion mynediad academaidd ffurfiol i ddysgwyr sy’n ymgymryd â’r rhaglen hon.
Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu cyfarpar diogelu personol (PPE) eu hunain.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau ychwanegol os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.