Skip to main content

Busnes, Marchnata a Chyllid Lefel 3

Disgrifiad o'r Rhaglen


I'r rheiny sy'n frwdfrydig ynghylch busnes neu ddechrau a rhedeg eu busnes eu hunain, dyma'r cwrs i chi.

Cwrs galwedigaethol sy'n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd eisiau ymestyn eu profiad ym maes busnes neu i ddod yn entrepreneur llwyddiannus. Mae'n datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn ystod o feysydd busnes i'ch helpu i adnabod cyfle busnes posibl a datblygu eich busnes eich hun.  Caiff dysgwyr eu cefnogi gan hybwr entrepreneuraidd y coleg sy'n eich annog i ddatblygu eich syniadau busnes a thrwy ymweliadau â busnesau lleol, i ddatblygu cyfleoedd rhwydweithio.

Anogir pob dysgwr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau megis cystadlu mewn cystadlaethau fel Bwrsariaeth y Goleudy.

Cipolwg

  Llawn Amser

  Blwyddyn neu 2 flynedd

  Campws y Graig

Nodweddion y Rhaglen


Datblygwyd y cymhwyster hwn gan Peter Jones o Dragon's Den i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol ac i roi hyder, cymhelliant a sgiliau cyfathrebu i chi. Caiff theorïau busnes cyffrous eu cyflwyno a'u trafod yn yr ystafell ddosbarth.   Mae ymweliadau â chyflogwyr yn sicrhau bod dysgwyr yn gallu cymhwyso theori busnes i astudiaethau achos go iawn.  Mae cwblhau aseiniadau ac arholiadau’n llwyddiannus yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n gallu arwain i hunangyflogaeth, cyflogaeth, prentisiaethau neu i’r brifysgol.

Mae siaradwyr gwadd a chystadlaethau yn gwella dysgu a dilyniant gyrfaol ymhellach.

Cynnwys y Rhaglen


Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i gwblhau Diploma mewn Busnes sy'n cynnwys 9 uned. Caiff ystod o unedau busnes eu hastudio sy’n cynnwys: Archwilio Busnes, Datblygu Ymgyrch Farchnata, Cyllid Personol a Chyllid Busnes, Rheoli Digwyddiad a thair uned opsiynol. Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Sgiliau Hanfodol a Thystysgrif Sylfaen AAT mewn Cadw Cyfrifon.

Dilyniant a Chyflogaeth


Bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd sy’n gysylltiedig â busnes megis marchnata, adwerthu a chyllid neu i ddechrau a rhedeg eich busnes eich hun. Mae cyfleoedd eraill yn cynnwys prentisiaethau sy'n gysylltiedig â busnes a dilyniant i’r brifysgol.

Asesu'r Rhaglen


Asesir y cwrs hwn trwy ystod o ddulliau sy'n cynnwys arholiadau allanol, aseiniadau, prosiectau a chyflwyniadau.

Gofynion y Rhaglen


Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar: O leiaf pump TGAU graddau A* - C neu gyfwerth sy’n cynnwys naill ai Saesneg iaith neu Gymraeg iaith gyntaf a mathemateg neu wedi cwblhau cymhwyster lefel dau mewn pwnc galwedigaethol perthnasol ar deilyngdod neu uwch yn llwyddiannus.

Mae mynediad i fyfyrwyr hŷn heb gymwysterau ffurfiol trwy broses gyfweld.

Costau Ychwanegol


Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.