Skip to main content

Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Disgrifiad o'r Rhaglen


Anelir y cwrs hwn at reolwyr iau newydd ac uchelgeisiol. Mae’n ddelfrydol os ydych chi am adeiladu eich sgiliau rheolaeth craidd a datblygu fel arweinydd.  Mae’r cwrs hwn yn darparu egwyddorion sylfaenol rheolaeth i chi ac mae’n sail dda ar gyfer unigolion sy’n bwriadu symud ymlaen ymhellach yn eu gyrfa.  Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg.   Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein. 

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial, pris ar gael ar gais. 

Cipolwg

  Rhan Amser

  Blwyddyn (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

  Campws Pibwrlwyd

Nodweddion y Rhaglen


Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar fyfyrwyr yn cael ac yn defnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniadau effeithiol, canfod datrysiadau i broblemau, rheoli arloesedd a newid mewn sefydliadau a hefyd yr hyn sydd ei angen i arwain ac ysgogi tîm. 

Mae’r rhaglen wedi’i llunio i roi sgiliau i unigolion mewn datrys problemau, meddwl yn feirniadol, arweinyddiaeth a sgiliau cyflogadwyedd allweddol.

Cynnwys y Rhaglen


Mae’r rhaglen yn cynnwys wyth uned:

  • Datblygu eich hun ac eraill
  • Arwain ac ysgogi tîm yn effeithiol
  • Gosod amcanion tîm
  • Datrys problemau a gwneud penderfyniadau 
  • Deall newid 
  • Deall arweinyddiaeth 
  • Deall rheoli straen 
  • Deall recriwtio a dethol

Gellir addasu/teilwra unedau’r rhaglen i weddu i anghenion unigolion a chyflogwyr.

Dilyniant a Chyflogaeth


Y canlyniadau i chi:

  • Cael sylfaen gadarn yn yr hyn sydd ei angen i drefnu, rheoli ac ysgogi eich timau 
  • Bod yn hyderus yn eich gallu i berfformio yn eich rôl 
  • Dysgu offer a thechnegau i ddatblygu eich hun fel arweinydd 
  • Cymhwyster cenedlaethol i gydnabod eich galluoedd a’ch profiad

Yr effaith ar gyfer eich cyflogwr

  • Rheolwyr hyderus ac effeithiol 
  • Gwell cyfathrebu, mwy o gynhyrchiant, timau mwy brwdfrydig 
  • Cymhwyster hynod o hyblyg - mae’n cau bylchau sgiliau, datblygu tîm rheolaeth llinell gyntaf cyflawn

Asesu'r Rhaglen


Mae’r holl unedau ar sail aseiniad.

Costau Ychwanegol


Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.