Skip to main content

Diploma Lefel 5 ILM mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Cipolwg

  • Rhan-Amser

  • 2 flynedd (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

  • Campws Pibwrlwyd

Anelir y cwrs hwn at benaethiaid adran newydd neu uchelgeisiol, rheolwyr cyffredinol a rheolwyr canol ac mae’n ddelfrydol os ydych am ddatblygu gwybodaeth fusnes arbenigol a sgiliau technegol.   

Fel dysgwr, byddwch yn cael sylfaen drylwyr yn eich rôl a’ch cyfrifoldebau ac yn manteisio ar y cyfle i atgyfnerthu a datblygu ymhellach y sgiliau allweddol sydd eu hangen arnoch ar y lefel hon.

Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg.  Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein. 

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais.

Nodweddion y Rhaglen
  • Gwella galluoedd rheolaeth craidd
  • Datblygu gwybodaeth mewn meysydd arbenigol, fel cyllid a marchnata
  • Cymryd cyfrifoldeb dros eich datblygiad eich hun fel arweinydd
  • Profi y gallwch chi gael effaith fesuradwy ar eich sefydliad trwy brosiectau ac asesiad seiliedig ar y gweithle.
Cynnwys y Rhaglen

Mae yna 7 uned i’w cwblhau:

  • Deall y Rôl Rheolaeth i Wella Perfformiad Rheolaeth
  • Rheoli eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus Eich Hun
  • Dod yn Arweinydd Effeithiol
  • Datblygu Meddwl Beirniadol
  • Cyflwyno Achos Ariannol
  • Rheoli Gwelliant
  • Arwain Arloesedd a Newid

Gellir addasu/teilwra unedau’r rhaglen i weddu i anghenion unigolion a chyflogwyr.

Dilyniant a Chyflogaeth

Yr hyn byddwch chi’n ei gyflawni:

  • Ennill y wybodaeth i gefnogi eich rôl rheolaeth ganol
  • Cael rheolaeth ar eich datblygiad personol
  • Deall newid yn y gweithle
  • Adeiladu perthnasoedd cadarnhaol a chynhyrchiol yn y gwaith
  • Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol

Buddion i’r cyflogwr:

  • Adeiladu arferion rheolaeth cynaliadwy sy’n gweithio ar gyfer y tymor hir
  • Meincnodi gwybodaeth a galluoedd rheolwyr
  • Annog staff i reoli eu dilyniant gyrfaol yn rhagweithiol ar gyfer cynllunio olyniaeth ac i ddatblygu’r ffrwd ddoniau
Dull asesu

Mae’r holl unedau ar sail aseiniad.

Costau Ychwanegol

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.