Skip to main content

Tystysgrif mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol Lefel 3

Cipolwg

  • Rhan-amser

  • 1 flwyddyn (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

  • Campws Pibwrlwyd

Mae hyfforddi a mentora yn caniatáu i chi ysbrydoli a grymuso eraill i ddatgloi eu potensial llawn, gan eu helpu i ddarganfod eu cryfderau a goresgyn heriau er mwyn cyflawni eu cyrchnodau. 

Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer y rheiny sydd am ennill gwybodaeth, sgiliau a hyder i hyfforddi neu fentora pobl yn effeithiol o fewn cyd-destun sefydliadol.

Mae hefyd yn gymhwyster delfrydol ar gyfer y rheiny sydd am gychwyn gyrfa mewn hyfforddi neu fentora.

Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg.  Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein. 

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais. 

Nodweddion y Rhaglen

Gwybod beth sydd eisiau i fod yn hyfforddwr a mentor effeithiol

  • Deall rôl a chyfrifoldebau hyfforddwyr a mentoriaid effeithiol
  • Dysgu sut i reoli prosesau hyfforddi a mentora gan ddefnyddio modelau cydnabyddedig
  • Rhoi eich sgiliau newydd ar waith trwy gyflawni sesiynau hyfforddi neu fentora dan oruchwyliaeth
  • Dadansoddi eich perfformiad hyfforddi neu fentora er mwyn gwella eich gallu eich hun
Cynnwys y Rhaglen

Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd dilyniant i gymwysterau eraill megis:

  • Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  • Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol
  • Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 5 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Dilyniant a Chyflogaeth

Mae’r Cwrs Celf a Dylunio: Mynediad i Addysg Uwch yn cwmpasu cyfres o unedau sy’n rhoi cyfanswm o 60 credyd sy’n cynnwys unedau craidd ac academaidd. Mae’r unedau hyn yn orfodol.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Sgiliau Astudio Craidd gan gynnwys Cyfathrebu, Sgiliau Meddwl a Pharatoi Portffolio.

Dull asesu
  • Dau aseiniad
  • Portffolio
  • Dyddiadur Adfyfyriol
  • Gofynion Mynediad
Gofynion Mynediad

Gofynnir i chi fentora neu hyfforddi unigolyn yn y gweithle dan oruchwyliaeth er mwyn cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus.

Costau Ychwanegol

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Band ffioedd cwrs : H

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.