Skip to main content

Dyfarniad Lefel 5 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Disgrifiad o'r Rhaglen


Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer rheolwyr canol gweithredol, gan eu helpu i ddatblygu eu sgiliau a’u profiad, gwella perfformiad a pharatoi ar gyfer cyfrifoldebau uwch reolwyr. 

Defnyddio technegau rheoli craidd i gael canlyniadau gwell.  Datblygu eich gallu i arwain, cymell ac ysbrydoli. 

Darparu arweinyddiaeth strategol yn ogystal â rheoli o ddydd i ddydd.  Meincnodi eich sgiliau rheoli.  Codi eich proffil yn eich sefydliad.  Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg.   Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein. 

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais.

Cipolwg

  Rhan Amser

  4 mis (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

  Campws Pibwrlwyd

Nodweddion y Rhaglen


Esiynau addysgu misol gyda sesiwn diwtorial unigol.

Cynnwys y Rhaglen


Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich dulliau arwain a dulliau arwain eich sefydliad. Byddwch yn cael cyfle i fyfyrio ar yr hyn mae arweinyddiaeth yn ei olygu i chi ac i ystyried sut i gael y gorau o'ch pobl.

Dilyniant a Chyflogaeth


Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd dilyniant i gymwysterau eraill gan gynnwys: 

  • Diploma Lefel 5 ILM mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Asesu'r Rhaglen


2 aseiniad i'w cwblhau (tua 3000 o eiriau yr un).

Gofynion Mynediad


Profiad cyfredol o arwain a rheoli.

Costau Ychwanegol


Cost y cwrs yw band ffi:  £190

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.