Skip to main content

Tystysgrif Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Cipolwg

  • Rhan-Amser

  • 1 flwyddyn (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

  • Campws Pibwrlwyd

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer rheolwyr canol newydd ac uchelgeisiol sydd wir eisiau mynd i’r afael â’u rolau ac ennill peth gwybodaeth gynhwysfawr am fusnes. 

Byddwn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau technegol i’ch helpu i arwain yn effeithiol ar y lefel hon.  

Mae gan bob myfyriwr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg. 

Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein. 

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais.

Nodweddion y Rhaglen

Sesiynau addysgu misol gyda sesiynau tiwtorial unigol i drafod cynnydd.

Cynnwys y Rhaglen

Mae’r cymhwyster yn canolbwyntio ar reoli newid a gweithredu prosiectau o fewn y sefydliad. Dysgwch am bwysigrwydd rheoli newid yn effeithiol a mynd â’ch tîm gyda chi.

Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd dilyniant i gymwysterau eraill gan gynnwys: 

  • Diploma Lefel 4 ILM mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Dull asesu

Tri aseiniad i'w cwblhau (tua 3000 o eiriau yr un)

Gofynion Mynediad
  • Bod yn gweithio mewn swydd reoli neu arwain tîm
  • Profiad o astudio diweddar ar lefel tri
Costau Ychwanegol

Cost y cwrs yw band ffioedd I (£190).

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.