Skip to main content

Diploma AAT mewn Cyfrifyddu (Lefel 3)

Cipolwg

  • Rhan-amser - Dydd Mawrth 09:15-16:30

  • 1 Flwyddyn - Dyddiad cychwyn 05/09/2023

  • Ar-lein ac ar Gampws Pibwrlwyd

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn cyfrifeg neu gyllid.  Pwrpas y cwrs AAT hwn yw darparu’r wybodaeth a'r sgiliau arbenigol i fyfyrwyr sydd eu hangen ar gyfer symud ymlaen i gyflogaeth mewn rôl gyfrifyddu neu gyllid, neu i ddatblygu eu hastudiaethau yn y maes hwn.

Mae’r cymhwyster hwn yn addas i fyfyrwyr sy’n oedolion, y rheiny sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cael seibiant, y rheiny sy’n newid gyrfa a phobl ifanc 16 - 19 oed sydd am ddatblygu eu gwybodaeth yn y maes galwedigaethol hwn. Mae’r cwrs yn agored i’r rheiny sydd yn gweithio a’r rheiny nad ydynt ar hyn o bryd mewn swydd.  Hefyd, gallai’r cymhwyster hwn helpu rhywun sydd eisoes yn gweithio mewn rôl gyllid lefel mynediad i symud ymlaen yn eu gyrfa trwy gynnig datblygiad a chydnabyddiaeth ffurfiol iddynt o’u sgiliau.

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant a sefyll arholiad cychwynnol - pris ar gael ar gais.

Caiff y cwrs hyblyg hwn ei gyflwyno mewn partneriaeth â Mindful Education, ac mae’n cyfuno dysgu ar-lein gyda gwersi wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth.

Sylwer: Mae’r cwrs yn dechrau ar  05/09/2023. Mae angen bod yn bresennol yn y dosbarth yn wythnosol, bob Dydd Mawrth.

Nodweddion y Rhaglen

Pwrpas y cymhwyster hwn yw sicrhau bod myfyrwyr wedi'u paratoi'n dda er mwyn symud ymlaen i yrfa mewn cyfrifeg broffesiynol, cyllid neu fusnes neu i addysg bellach.

Bydd myfyrwyr yn dysgu ac yn datblygu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer prosesau ariannol, gan gynnwys egwyddorion a chysyniadau cyfrifyddu, cadw cyfrifon uwch a pharatoi datganiadau ariannol.  Byddant hefyd yn deall yr amgylchedd busnes, materion busnes sy’n ymwneud â’r gyflogres a threth ar werth (TAW), technegau cyfrifyddu rheoli, egwyddorion moesegol ac ystyriaethau cynaladwyedd ar gyfer cyfrifwyr.  

Cyflwynir y cwrs hwn gan ddefnyddio dull dysgu cyfunol sy'n cyfuno gweithgareddau wyneb yn wyneb ac ar-lein mewn llif dysgu di-dor a chyflenwol.

Bydd yr AAT yn gofyn i bob myfyriwr gofrestru gyda'r corff proffesiynol.  Gall cyfyngiadau aelodaeth fod yn berthnasol.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk.

Cynnwys y Rhaglen

Mae’r cwrs yn cwmpasu ystod o dasgau cyfrifyddu cymhleth, yn cynnwys cadw cofnodion cyfrifyddu costau a pharatoi adroddiadau a ffurflenni treth. Mae’n cynnwys pedair uned orfodol:

  • Ymwybyddiaeth Fusnes
  • Cyfrifyddu Terfynol: Paratoi Datganiadau Ariannol
  • Technegau Cyfrifyddu Rheoli
  • Prosesau Treth ar gyfer Busnesau

Caiff pob un o’r pedair uned eu hasesu’n unigol mewn asesiadau diwedd uned ar gyfrifiadur.

Dull Astudio - Ar-lein ac Ar y Campws

Rydym wedi partneru â Mindful Education i gyflwyno’r cwrs hwn trwy ein model Ar-lein ac Ar y Campws hyblyg. 

Ar-lein, byddwch yn astudio gwersi fideo arobryn, sydd ar gael ar alw, ac y gellir eu gweld ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur - sy’n golygu y gallwch ddewis sut, pryd a ble rydych chi am astudio. Mae’r gwersi yn para tua 45 munud ac mae animeiddiadau a graffeg symudol yn dod gyda nhw er mwyn dod â chysyniadau’n fyw. Mae cwestiynau ymarfer, deunyddiau gwersi y gellir eu lawrlwytho ac astudiaethau achos rhyngweithiol yn helpu i wella’r profiad dysgu ymhellach a dylai dysgwyr ddisgwyl treulio tua 5-6 awr yn astudio’n annibynnol ar-lein bob wythnos.   

Ar y campws, rydych yn elwa ar ddosbarthiadau rheolaidd gyda thiwtor coleg - heb orfod ymrwymo i fynychu sawl noson bob wythnos. Bydd eich tiwtor yn adolygu’r hyn rydych wedi’i ddysgu yn ystod eich gwersi ar-lein a bydd wrth law i roi arweiniad ar gynnydd ac asesu.   Bydd trafodaeth gyson gyda chyd-fyfyrwyr yn helpu i atgyfnerthu pwyntiau allweddol wrth ddarparu hefyd y gefnogaeth ychwanegol a'r cymhelliant a ddaw yn sgil bod yn rhan o grŵp.

Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd y sgiliau cyfrifeg a ddatblygir trwy astudio'r cymhwyster hwn yn galluogi myfyrwyr i chwilio am waith yn hyderus a/neu symud ymlaen i'r lefel ddysgu nesaf neu gallant arwain at gyflogaeth fel: 

  • Cynorthwyydd cyfrifon
    • Goruchwyliwr cyfrifon taladwy a threuliau
    • Cyfrifydd cynorthwyol
    • Archwiliwr dan hyfforddiant
    • Rheolwr credyd • Cynorthwyydd cyllid • Swyddog cyllid • Goruchwyliwr cyflogres • Uwch Geidwad cyfrifon • Cynorthwyydd treth.

Mae cwblhau’r cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gofrestru fel ceidwad cyfrifon cymwysedig, neu symud ymlaen i'r cymhwyster Diploma mewn Cyfrifyddu Proffesiynol (lefel 4).

Dull asesu

Mae'r asesiadau yn y cymhwyster hwn ar gyfrifiadur gyda chyfyngiad amser.  

Bydd ystod o fathau o gwestiynau a fformatau yn cael eu cyflwyno i fyfyrwyr yn yr asesiad. Gall y rhain gynnwys cwestiynau amlddewis, ymatebion ysgrifenedig estynedig, cwestiynau llenwi bwlch rhifol, neu ddulliau cwestiynau sy'n dyblygu gweithgareddau’r gweithle, megis gwneud cofnodion mewn dyddlyfr.

Gofynion Mynediad

Nid yw AAT yn gosod unrhyw ragofynion ar gyfer astudio Diploma AAT mewn Cyfrifyddu.  Fodd bynnag, er mwyn cael y cyfle gorau i lwyddo, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau gyda safon dda mewn Saesneg a Mathemateg.  Mae cyfrifwyr yn gweithio wrth wraidd busnes a disgwylir iddynt allu cyfathrebu gwybodaeth yn glir ac yn briodol i gynulleidfa benodol.  Mae AAT yn argymell bod myfyrwyr yn defnyddio gwiriad sgiliau AAT trwy aatskillcheck.org i sicrhau eu bod yn barod i gychwyn ar gymhwyster penodol.

Mae’n bosibl y gall myfyrwyr sydd ag unrhyw gymwysterau ysgol neu goleg perthnasol, gradd neu rywfaint o brofiad cyfrifyddu, mewn amgylchiadau penodol, hawlio eithriadau.

/

Costau Ychwanegol

Mae angen i fyfyrwyr ddarparu eu deunydd ysgrifennu eu hunain a gwerslyfrau (os oes angen).  Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.