Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 Flwyddyn

  • Campws Pibwrlwyd

Sianelwch eich brwdfrydedd i flwyddyn werth chweil o ddatblygiad personol a chreadigol.

Mae'r cwrs celf a dylunio lefel dau hwn gan Gorff Dyfarnu Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau ymestyn eu profiad o gelf, dylunio a chyfryngau, a datblygu eu gallu a'u hyder.   

Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn fel cam ar y ffordd i ddiploma lefel tri mewn celf a dylunio, er gall eraill ddewis llwybrau astudio pellach amgen neu waith llawn amser. 

Byddwch yn creu eich gwaith eich hun ac yn archwilio ystod o brosesau newydd, megis gweithio gyda phatrymau arwyneb, pren, cerameg, metelau, print, ffotograffiaeth a chyfryngau digidol. Bydd yna gyfleoedd i chi ymdaflu i luniadu, gwneud marciau a dod o hyd i ffyrdd i gofnodi, deall a chyfleu’r byd o’ch cwmpas.

Nodweddion y Rhaglen

Elfen ganolog o’r cwrs yw datrys problemau wrth weithio drwy dasgau llawn hwyl, cymryd risgiau a datblygu syniadau newydd. Bydd prosiectau ysgogol ac ymestynnol yn eich herio i feddwl ynghylch sut a pham rydych chi’n gwneud gwaith celf. 

Bydd trafodaethau stiwdio a llyfrgell gyda’ch tiwtoriaid a’ch cymheiriaid yn rhoi cyfle i chi edrych ar waith artistiaid a dylunwyr eraill, a fydd yn ei dro yn rhoi’r hyder i chi siarad am eich gwaith eich hun.

Cynnwys y Rhaglen

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys wyth uned sy’n cwmpasu amrywiaeth o bynciau celf, dylunio a chrefft, gan gynnwys gwaith 2D, 3D a gwaith seiliedig ar amser, ymchwil, ymwybyddiaeth gyd-destunol, sgiliau datblygiad creadigol a sgiliau dilyniant.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Sgiliau Hanfodol ynghyd ag uned iaith Gymraeg a Sgiliau cyflogadwyedd.

Dilyniant a Chyflogaeth

Byddwch yn cael digonedd o gymorth wrth ddod o hyd i ffyrdd newydd i ymchwilio ac ymholi a bydd eich holl brofiadau ar y cwrs yn eich helpu i ddarganfod eich cryfderau creadigol. 

Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch fel y rhaglen Celf a Dylunio lefel tri a bydd y cwrs yn rhoi’r sgiliau i chi a all arwain at hyfforddiant mewn amrywiaeth eang o alwedigaethau. 

Dull asesu

Caiff pob uned ei hasesu'n fewnol a'i dilysu'n fewnol ac eithrio'r prosiect mawr terfynol, sy'n cael ei gymedroli’n allanol gan y Corff Dyfarnu, Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL).

Asesir pob uned ar waith portffolio’r myfyriwr.  Yn ychwanegol at hyn, mae’r prosiect mawr terfynol hefyd yn gorffen gydag arddangosfa sy’n cael ei hasesu.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Gofynion Mynediad

Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith celf, crefft a dylunio i’w cyfweliad.  Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.     

Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y cwrs lefel dau feddu ar bedwar TGAU  graddau A* - D gyda dwy radd C, un naill ai'n Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg.  Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol.

Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o'r cwrs.  Bydd myfyrwyr nad oes ganddynt hyd yn hyn y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol. 

Costau Ychwanegol

Mae yna ffi stiwdio o £100 ar gyfer y cwrs hwn a fydd yn darparu deunyddiau sylfaenol i chi ddatblygu gwaith ymarferol yn ein gweithdy a'n cyfleusterau stiwdio.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.