Skip to main content

BA Anrhydedd Celfyddyd Gain: Peintio, Lluniadu a Gwneud Printiau

Cipolwg

  • Llawn Amser neu Ran-amser

  • 3 blynedd yn llawn amser; mae astudio’n rhan-amser ar gael

  • Campws Jobs Well

Cod UCAS: C22

Cod y Cwrs: W101

Mae’r radd hon mewn Celfyddyd Gain - Peintio, Lluniadu a Gwneud Printiau yn dysgu myfyrwyr sut i drin paent, lluniadu a gwneud printiau mewn gweithdai bach; gan astudio pynciau traddodiadol fel peintio bywydd llonydd a ffigyrau. Yn y flwyddyn gyntaf mae myfyrwyr yn mynychu gweithdai, gan ddysgu trwy arbrofi mewn amgylchedd dysgu llawn hwyl a chynhwysol. Mae pob myfyriwr yn dysgu ac yn datblygu sgiliau lluniadau cynrychiadol drwy arsylwi’n agos ar fywyd go iawn. Rhoddir yr un pwysigrwydd i hyn â dulliau cysyniadol o wneud celfyddyd gain gyfoes.

Caiff dulliau unigol eu cefnogi gan ddarlithwyr y mae eu hymarfer eu hunain yn cynnwys: peintio, lluniadu, gwneud printiau, gosodiadau, celf safle-benodol a chelfyddyd gain trawsddisgyblaethol. Mae’r holl elfennau yn cwmpasu maes eang ymarfer celfyddyd gain er mwyn galluogi arbenigo a mynd i’r afael â dewisiadau unigol. Gallwch ymroi i’r posibilrwydd o weithio ar draws ffiniau a thechnolegau er mwyn dilyn eich diddordebau personol a’ch sgiliau. Anogir deialog rhwng adrannau, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer cydweithio  a rhyngweithio cyffrous.

Nodweddion y Rhaglen

Byddwch yn astudio mewn ysgol gelf bwrpasol draddodiadol. Mae’r artistiaid y byddwch yn gweithio gyda nhw yn weithwyr proffesiynol sydd â phroffiliau arddangos cyfredol a rhyngwladol. Mae ein hysgol gelf yn cynnig mannau gwaith unigol a stiwdios penodol i chi ar gyfer lluniadu’r byw, peintio, a stiwdio brintio bwrpasol ar gyfer gwaith bloc pren, lithograffeg cerrig ac ysgythru.

Mae’r cwrs yn cefnogi datblygiad eich ymarfer stiwdio gyda phwyslais ar grefft a sgil. Mae darlithoedd a deialog gyd-destunol yn eich galluogi i leoli eich hun a'ch ymarfer o safbwynt hanes celf a meddwl beirniadol cyfoes, fel y bydd gennych yr offer i ymchwilio i'ch diddordebau eich hun a’u mapio.  Mae cyfleoedd cyson ar gyfer arddangosfeydd a digwyddiadau cyhoeddus yn eich paratoi'n broffesiynol ar gyfer ystod eang o yrfaoedd posib. Mae’r holl sgiliau hyn yn drosglwyddadwy ar draws ystod o gyd-destunau proffesiynol.  Mae'r gallu hwn i feddwl yn greadigol a addysgir sy’n gysylltiedig ag ymarfer celfyddyd gain yn dod yn fwy a mwy pwysig ym myd masnach a busnes.

Cynnwys y Rhaglen

Blwyddyn 1 - Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir drwy gyfres o weithdai dan arweiniad tiwtor ac astudiaeth annibynnol.

Blwyddyn 2 - Blwyddyn ddatblygiadol a ddyfeisiwyd i ganiatáu i chi gymhwyso'r sgiliau a enillwyd ym mlwyddyn un i nodi cryfderau personol a meysydd diddordeb o fewn ystod o gyd-destunau sy'n berthnasol i'r diwydiant.

Blwyddyn 3 - Briff personol a gyd-drafodwyd sy'n eich galluogi i atgyfnerthu eich ymarfer ac adeiladu portffolio er mwyn paratoi ar gyfer dilyniant ac uchelgeisiau personol yn y dyfodol, gan orffen gyda chyfle i arddangos eich gwaith mewn sioe radd derfynol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Artist hunan-gyflogedig, entrepreneur, addysgwr, dylunydd golygfeydd, therapydd celf, gweithiwr sector cyhoeddus, curadur arddangosfeydd, beirniad celf / newyddiadurwr, ymchwilydd celf, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), athronydd, arloeswr ac ati.

Dull asesu

Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gan gynnwys adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion Mynediad

Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Gweithdrefnau dethol

Mae angen i bob ymgeisydd wneud cais ar-lein drwy UCAS, ein cod Sefydliad UCAS yw C22 a chod y cwrs yw W101. Gwneir cynigion yn seiliedig ar y cais UCAS, graddau disgwyliedig (os yw'n berthnasol), geirda UCAS a chyfweliad un i un. Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs. Oherwydd datblygu perthynas â chi o'r cychwyn cyntaf, mae ein cyfraddau myfyrwyr sy’n tynnu’n ôl yn fach iawn. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i droi myfyrwyr yn ymarferwyr proffesiynol llwyddiannus.

Mae croeso i ymgeiswyr hŷn sydd â phrofiad blaenorol perthnasol ac fe'u hystyrir ar sail unigol. Bydd myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu cyfweld trwy fideo-gynadledda.

Costau Ychwanegol

Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs. 

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith hwn yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth bwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credyd fesul lefel ar hyd eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.  Mae modiwlau’r Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a dangos tystiolaeth, o ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar yrfaoedd sy’n gysylltiedig â’ch maes pwnc chi. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys gallu digidol, ymchwil a rheoli prosiect, yn ogystal â’r fath gymwyseddau personol â chyfathrebu, creadigrwydd, hunanfyfyrio, gwytnwch a datrys problemau. 

Dewch i wybod mwy am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.