Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser / Rhan-amser

  • 1 flwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser

  • Campws Jobs Well

Cod UCAS: C22

Cod y Cwrs: CAFC

Mae astudio ffasiwn yn daith gyffrous sy'n cynnwys archwilio’r byd dylunio, creadigrwydd, a'r tueddiadau sy'n datblygu'n barhaus mewn dillad a chyfwisgoedd.

Mae hwn yn gymhwyster annibynnol lefel pedwar sy'n cwmpasu blwyddyn gyntaf ein rhaglen radd.  Gellir astudio’r cwrs yn llawn amser dros un flwyddyn academaidd, neu’n rhan-amser dros ddwy flynedd a bydd yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy'n ofynnol mewn dylunio ffasiwn a’u dysgu.

Nod y rhaglen yw datblygu galluoedd a hyder myfyrwyr wrth ddylunio a llunio dillad trwy brofiad a phrosesau a arweinir gan ymarfer sy'n meithrin datblygiad hunaniaeth ddylunio unigol.  Yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, mae maint y dosbarthiadau’n fach ac mae’r cyswllt â’r tiwtor heb ei ail.

Nodweddion y Rhaglen

Gallwch ddisgwyl rhaglen amrywiol o aseiniadau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau technegol o fewn y diwydiant. Mae’r cwrs yn aelod-goleg o’r Cyngor Ffasiwn Prydeinig nodedig sy’n rhoi mynediad i golegau a myfyrwyr i brosiectau uchel eu parch yn y diwydiant ac interniaethau.

Cynnwys y Rhaglen

Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai, gan gynnwys Delweddu: Cysyniad a Phroses, Dylunio a Llunio Dillad, Datblygu Iaith Weledol, Ymarfer Digidol Creadigol (a ddefnyddir o fewn ffasiwn), Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Ar ôl i chi gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os ydych yn dewis gwneud hynny.

Ar ôl cwblhau'r Radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3) y swyddi sydd ar gael yw dylunio ffasiwn, darlunio ffasiwn, prynu ffasiwn, rhagweld gogwyddion ffasiwn, steilio, marsiandïaeth weledol, dylunio gwisgoedd ar gyfer ffilmiau/teledu, torri patrymau, technoleg dillad, cynorthwyydd samplo, athro/darlithydd ac astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD). Mae llwyddiant graddedigion yn uchel, gyda llawer o fyfyrwyr yn datblygu eu labeli ffasiwn eu hunain, tra bod eraill wedi dod o hyd i gyflogaeth yn dylunio mewn tai dylunio mwy neu yn y sector ffasiwn ehangach.

Dull asesu

Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion Mynediad

Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.

Dylai myfyrwyr rhan-amser wneud cais drwy system ymgeisio’r coleg https://www.colegsirgar.ac.uk/index.php/en/application-form 

Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs. 

Costau Ychwanegol

Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.