Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser / Rhan-amser

  • 1 flwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser

  • Campws Ffynnon Job 

Cod UCAS: C22

Cod y Cwrs: CAPH

Mae ffotograffiaeth yn ffurf o gelfyddyd gyfareddol ac yn gyfwng i fynegi’n greadigol. 

Mae hwn yn gymhwyster annibynnol lefel pedwar sydd yn y bôn yn flwyddyn gyntaf ein rhaglenni gradd.  Gellir astudio’r cwrs yn llawn amser dros un flwyddyn academaidd, neu’n rhan-amser dros ddwy flynedd a bydd yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd lawn i gael dealltwriaeth o’r sgiliau sylfaenol sy'n ofynnol mewn Ffotograffiaeth.   

Mae’n mynd i’r afael â dulliau gweledol, cysyniadol a thechnegol eang sy'n adlewyrchu datblygiadau a thueddiadau ymarfer ffotograffig yr unfed ganrif ar hugain. Mae cynnwys y cwrs yn integreiddio technolegau digidol ac analog modern yn llwyr ag arferion gwaith traddodiadol.

Mae myfyrwyr yn gadael gyda phortffolio sy'n dangos hunaniaeth bersonol, sy'n hanfodol i sicrhau llwyddiant galwedigaethol a chyflogaeth, gyda sgiliau trosglwyddadwy, arbenigol, ymarferol i seilio cam nesaf eu datblygiad gyrfa arnynt.

Nodweddion y Rhaglen

Mae gan y rhaglen adnoddau da gydag ystod o gamerâu proffesiynol, goleuadau stiwdio a lleoliad ar gyfer ffotograffiaeth gyfoes, gan gynnwys adnoddau cyfrifiadurol pwrpasol gyda meddalwedd o safon y diwydiant ar gyfer gwaith ystafell dywyll digidol proffesiynol, prosesu delweddau creadigol a hefyd ystafell dywyll draddodiadol gyda dulliau gweithio analog i adlewyrchu’r diddordeb newydd mewn ffotograffiaeth arian.

Bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd i archwilio gwneud delweddau mynegiadol ar gyfer ymarfer celf, tra bod yn ymwybodol hefyd o'r potensial ehangach i gymdeithas o ddefnyddwyr amlgyfrwng sy’n troi o gwmpas y gweledol, yn ogystal ag ymarfer ffotograffiaeth proffesiynol ar gyfer y diwydiannau llawrydd a chreadigol. Mae ystod eang o ddulliau ffotograffig yn cynnig cyfleoedd i weithio ym maes ffotograffiaeth ddogfennol, ffasiwn, golygyddol a chelfyddyd gain, a thrwy hynny ennyn potensial galwedigaethol a chyflogadwyedd cynaliadwy.

Cynnwys y Rhaglen

Blwyddyn yn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai, gan gynnwys Ffotograffiaeth Ymarferol a Golygyddol, Datblygu Iaith Weledol, Delweddu: Cysyniad a Phroses, Ymarfer Digidol Creadigol (a ddefnyddir o fewn ffotograffiaeth), Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Ar ôl cwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os ydych yn dewis gwneud hynny.

Ar ôl cwblhau'r Radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3), mae myfyrwyr yn aml yn symud ymlaen â hyn, gyda rhagolygon gyrfa o ddod yn: Ffotograffydd Celfyddyd Gain, Ffotograffydd Ffasiwn, Ffotograffydd Dogfennol, Ffotonewyddiadurwr, Ffotograffydd Hysbysebu, Ffotograffydd Lluniau Llonydd ar gyfer ffilm a theledu, Ffotograffydd Bywyd Gwyllt / Tirwedd, Athro/Darlithydd, Astudiaeth Ôl-raddedig (MA, PhD). 

Mae graddedigion diweddar wedi cael eu cydnabod mewn nifer o wobrau proffil uchel, gan gynnwys BAFTA Cymru, Gwobr Portread Ffotograffig Taylor Wessing, Sefydliad Ffotograffiaeth y Byd, Gwobr Printspace Trajectory, a Chymdeithas y Ffotograffwyr. Mae'r rhain hefyd wedi'u cydnabod am gomisiynau gan y Senedd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru / Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, a Ffotogallery, ymhlith llawer o lwyddiannau eraill.

Dull asesu

Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion Mynediad

Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.

Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs. 

Costau Ychwanegol

Does dim ffi Stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.