Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser / Rhan-amser

  • 1 flwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan-amser

  • Campws Ffynnon Job 

Cod UCAS: C22

Cod y Cwrs: CA3D

Math o fynegiant artistig yw celfyddyd gain cerflunio sy’n golygu creu gweithiau celf tri dimensiwn, gan weithio gyda deunyddiau amrywiol. 

Mae hwn yn gymhwyster annibynnol lefel pedwar sydd yn flwyddyn gyntaf ein rhaglen radd sy’n canolbwyntio ar brosesau, sgiliau a dealltwriaeth o ddeunyddiau cerflunio.  Gellir astudio’r cwrs yn llawn amser dros un flwyddyn academaidd, neu’n rhan-amser dros ddwy flynedd a bydd yn galluogi’r myfyrwyr hynny na allant ymrwymo i astudio ar gyfer gradd BA anrhydedd lawn.

Wedi'u haddysgu mewn stiwdios wedi’u cyfarparu’n dda drwy sesiynau ymarferol, mae myfyrwyr yn dysgu gweithio ym maes castio metel, modelu, ffabrigo, cerfio carreg a phren â llaw a darlunio mewn gweithdai pwrpasol mewn grwpiau bach gan ddysgu trwy brofiad ymarferol mewn amgylchedd cynhwysol diogel.

Nodweddion y Rhaglen

Mae ein hysgol gelf bwrpasol yn cynnig gweithdai a stiwdios unigol i chi ar gyfer lluniadu’r byw, castio metel yn ein ffowndri, gwaith coed, gwaith plastr, cerfio carreg a ffabrigo metel. 

Mae’r cwrs yn cefnogi datblygiad eich ymarfer stiwdio gyda phwyslais ar ddysgu’r grefft a’r sgil o wneud cerfluniau o fewn fframwaith cysyniadol. Mae darlithoedd sy’n canolbwyntio ar astudiaethau cyd-destunol a deialog yn eich galluogi i leoli eich hun a'ch ymarfer o ran hanes celf a meddwl beirniadol cyfoes, er mwyn rhoi’r offer i chi fapio ac ymchwilio i'ch deunydd pwnc eich hun. Mae'r gallu hwn i feddwl yn greadigol a addysgir sy'n gysylltiedig ag ymarfer cerfluniol celfyddyd gain yn dod yn fwy a mwy pwysig ym myd masnach a busnes.

Cynnwys y Rhaglen

Blwyddyn seiliedig ar sgiliau a gyflwynir trwy gyfres o weithdai, yn cynnwys Modelu, Gwneud Mowldiau a Chastio, Ffabrigo Dur, Cerflunio â Chlai, Cerfio, Llunio a Ffabrigo, Datblygu Iaith Weledol, Dysgu yn yr Oes Ddigidol a Phrosiect Creadigol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Ar ôl i chi gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i lefel 5 y radd lawn os oeddech yn dewis gwneud hynny.

Ar ôl cwblhau'r Radd BA (Anrh) lawn (blwyddyn 2 a 3) rydym wedi cael myfyrwyr yn mynd ymlaen i fod yn gerflunwyr / artistiaid hunangyflogedig, cynorthwywyr artistiaid, dylunwyr golygfeydd, therapyddion celf, adeiladwyr set, gweithwyr sector cyhoeddus, addysgwr, curadur arddangosfeydd, beirniad celf / newyddiadurwr, ymchwilydd, astudiaeth ôl-raddedig (MA, PhD), athronydd, arloeswr ac ati.

Dull asesu

Asesir yn barhaus trwy sesiynau crynhoi gweithdai, trafodaethau beirniadol, asesiad ffurfiannol a chrynodol gydag adborth clywedol ac ysgrifenedig.

Gofynion Mynediad

Pwyntiau sgôr tariff a dderbynnir: O leiaf 96 pwynt neu allu portffolio cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Mae angen i bob ymgeisydd llawn amser wneud cais ar-lein drwy UCAS.

Mae Cyfarwyddwyr Rhaglenni yn cyfweld pob ymgeisydd ac yn trafod eich portffolio o waith celf a’ch uchelgeisiau gyda chi. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n proses ddethol i sicrhau bod y cwrs yn iawn i chi a'ch bod chi'n iawn ar gyfer y cwrs. 

Costau Ychwanegol

Does dim ffioedd stiwdio ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer deunyddiau arbenigol, printio ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.