Skip to main content

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae’r cymhwyster lefel un hwn yn gwrs rhagflas cyffrous, a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar fyd y diwydiant harddwch. 

Wrth ddysgu yn salon hyfforddi’r coleg, byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa fel harddwr/harddwraig. 

Mae’r cwrs hwn yn darparu cyfleoedd ymarferol i chi sy’n eich caniatáu i gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon harddwch go iawn. 

Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r modiwlau rydych yn eu hastudio.

Fel rhan o’r cwrs, mae’n ofynnol i chi ymgymryd â phrofiad gwaith a fydd yn eich caniatáu i ddefnyddio’r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu dysgu yn y coleg. 

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer rhai sy’n gadael ysgol sydd â diddordeb mewn gyrfa fel harddwr/harddwraig ac mae’r cymhwyster yn rhoi dealltwriaeth gadarn am yr hyn sy'n gysylltiedig â’r sector harddwch.

Cipolwg

  Llawn Amser

  1 flwyddyn  

  Campws Graig

Nodweddion y Rhaglen

Mae gan y coleg salon gweithredol sydd yn agored i’r cyhoedd, sy’n darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi, ac yn eich caniatáu i gael ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant. 

Yn ogystal, yn ystod y flwyddyn byddwch yn cwblhau cymhwyster gwasanaeth cwsmer Cymraeg ychwanegol er mwyn rhoi’r sgiliau hanfodol i chi sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant yng Nghymru.

Mae yna bwyslais ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol. 

Mae gan fyfyrwyr raglen ffyniannus o weithgareddau, teithiau a digwyddiadau sy’n cynnwys cymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol gyda llwybrau dilyniant i gystadlaethau rhyngwladol.             

 

Cynnwys y Rhaglen

Mae'r cwrs harddwch lefel un yn cynnwys pum uned dros flwyddyn ac mae'r unedau'n cynnwys:

  • Cyfrifoldeb dros weithredoedd i leihau risgiau i iechyd a diogelwch 
  • Paratoi a chynnal ardaloedd gwaith triniaethau’r salon
  • Cynorthwyo gyda thriniaeth gofal wyneb
  • Cynorthwyo gyda gwasanaethau ewinedd

Ochr yn ochr â’ch cymhwyster harddwch, cewch gyfle i wella eich graddau naill ai drwy ailsefyll pynciau TGAU neu Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau pellach yn ogystal â chynyddu eich hyder ac opsiynau gyrfaol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch, prentisiaethau a gwaith yn y pen draw. 

Gall ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa fod yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.

Bydd cyfleoedd gyrfaol yn eich galluogi i symud ymlaen ar ôl addysg bellach naill ai i gyrsiau lefel dau neu lefel tri neu i salonau masnachol, gwaith teledu, ffilm, theatr a’r cyfryngau, llongau gwyliau, a hunangyflogaeth fel amgylcheddau gwaith symudol neu waith yn y cartref.

Asesu'r Rhaglen

Fel rhan o'r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:

  • Arholiad ymarferol
  • Asesiadau parhaus
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Asesiadau ysgrifenedig 

Gofynion y Rhaglen

Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei asesu mewn cyfweliad a thrwy brawf sgiliau ymarferol. 

Bydd angen:   

Agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil alwedigaethol.

O leiaf dau TGAU graddau A* i G mewn naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg, bydd mathemateg a gwyddoniaeth o fantais.

Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o'r cwrs.   Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yn hyn wedi cael y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol, gan ddibynnu ar raddau TGAU blaenorol.

Costau Ychwanegol

Bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau ond ar ben hynny, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform. Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad cychwyn.

Trefnir amryw deithiau trwy gydol y flwyddyn academaidd sy'n ymwneud â'r diwydiant harddwch, y bydd gofyn i chi dalu cyfraniad tuag atynt.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.