Mae'r cymhwyster lefel dau hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd ag uchelgais i gael gyrfa yn y diwydiant therapi harddwch.
Mae'n cwmpasu'r holl driniaethau therapi harddwch sylfaenol a bydd yn rhoi sail dda i chi allu symud ymlaen i gyrsiau eraill.
Wrth ddysgu yn salon hyfforddi’r coleg, byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa fel harddwr/harddwraig.
Yn ystod y cwrs cewch eich cefnogi i ddatblygu arbenigedd ymarferol a gwybodaeth hanfodol am y diwydiant.
Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfleoedd ymarferol i chi sy’n eich caniatáu i gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon harddwch go iawn.
Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r modiwlau rydych yn eu hastudio.
Mae'r cwrs lefel dau hwn yn cynnwys yr holl elfennau gofynnol i weithio'n effeithiol fel therapydd harddwch gan gynnwys gofal croen yr wyneb, gwella golwg aeliau a blew amrant, gwasanaethau cwyro, triniaeth dwylo, triniaeth traed, effeithiolrwydd yn y gwaith, iechyd a diogelwch a hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau ychwanegol i gleientiaid.
Fel rhan o’r cwrs, mae’n ofynnol i chi ymgymryd â phrofiad gwaith a fydd yn eich caniatáu i ddefnyddio’r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu dysgu yn y coleg.