Skip to main content

Trin Gwallt - Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2

Cipolwg

  • Rhan-amser

  • 18 Mis

  • Campws y Graig

Mae’r cymhwyster galwedigaethol lefel dau hwn yn gwrs cyffrous, a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar fyd y diwydiant gwallt. Mae’r cwrs hwn yn darparu’r cyfleoedd ymarferol i chi sy’n caniatáu i chi gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith yn y salon wrth weithio ar gleientiaid. Bydd hyn nid yn unig yn datblygu eich proffesiynoldeb ar gyfer y diwydiant, ond mae hefyd yn rhoi i chi’r cymhwyster lleiaf sydd ei angen er mwyn cymhwyso a chofrestru fel trinydd gwallt, fel y gallwch ddod yn steilydd iau.  Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r modiwlau rydych yn eu hastudio. Fel rhan o’r cwrs, mae’n ofynnol eich bod mewn cyflogaeth.

Mae prentisiaeth sylfaen mewn Trin Gwallt yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed.

Bydd y prentis yn gyflogedig a bydd yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid (gallai hyn fod yn fwy yn ôl disgresiwn y cyflogwr). Caiff y prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r fframwaith prentisiaeth lefel dau o fewn y raddfa amser gytunedig.

Nodweddion y Rhaglen

Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd.

Adolygiadau rheolaidd gydag ymgynghorydd hyfforddi.

Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.

Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn asesu’r prentis yn y gweithle yn ôl yr angen.  

Cynnwys y Rhaglen

Bydd rhaid i ddysgwyr gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys y canlynol:

Mae’r cwrs trin gwallt lefel dau yn cynnwys wyth uned, sy’n cwmpasu unedau megis:

  • Torri gwallt gan ddefnyddio technegau sylfaenol
  • Lliwio a goleuo gwallt
  • Ymgynghori â chleientiaid a’u cynghori

Ochr yn ochr â’ch cymhwyster gwallt, rydych chi hefyd yn astudio Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i lefel tri.

Dilyniant a Chyflogaeth

Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r brentisiaeth sylfaen hon yn llwyddiannus symud ymlaen i brentisiaeth ar lefel tri. 

Dull asesu

Defnyddir gwaith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith at ddibenion asesu. Gellir gwneud asesiadau yn Gymraeg neu Saesneg. 

Gofynion Mynediad

Does dim gofynion mynediad lleiaf a gytunwyd yn genedlaethol neu ofynion profiad blaenorol ar gyfer y fframwaith hwn, fodd bynnag, mae cyflwyniad personol priodol a hylendid personol yn hanfodol.

Mae sgiliau ymarferol, trefniadol a chymdeithasol ynghyd â safon uchel o ddeheurwydd a chydsymudiad hefyd yn hanfodol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.