Skip to main content

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae'r cymhwyster lefel dau hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd ag uchelgais i gael gyrfa yn y diwydiant trin gwallt. 

Byddwch yn dysgu am driniaethau trin gwallt sylfaenol a byddwn yn rhoi sail dda i chi allu symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch.  

Wrth ddysgu yn salon masnachol y coleg, byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa fel trinydd gwallt. 

Yn ystod y cwrs cewch eich cynorthwyo i ddatblygu arbenigedd ymarferol a gwybodaeth hanfodol er mwyn symud ymlaen yn y diwydiant.

Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfleoedd ymarferol i chi sy’n eich caniatáu i gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon trin gwallt go iawn. 

Cipolwg

  Llawn Amser

 Blwyddyn  

  Campws y Graig

Nodweddion y Rhaglen

Mae gan y coleg salon hyfforddi masnachol sydd ar agor i’r cyhoedd. Mae’r profiad hwn yn darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi ac yn eich caniatáu i gael ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant. 

Mae yna hefyd bwyslais ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol. 

Byddwch yn cymryd rhan mewn rhaglen ffyniannus o weithgareddau sy’n cynnwys teithiau a digwyddiadau yn ogystal â chymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau cenedlaethol sy’n gallu arwain at gystadlaethau rhyngwladol. 

Mae hwn yn gwrs llawn amser a fydd yn cynnwys gweithio un noson yr wythnos yn salon y coleg.

Cynnwys y Rhaglen

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys unedau gorfodol a gyflwynir dros flwyddyn: 

  • Ymgynghori â chleientiaid a’u cynghori
  • Torri gwallt gan ddefnyddio technegau sylfaenol
  • Siampŵo, cyflyru a thrin gwallt a chroen y pen
  • Lliwio a goleuo gwallt
  • Steilio a gorffennu gwallt
  • Setio a gwisgo gwallt
  • Datblygu a chynnal effeithiolrwydd yn y gwaith
  • Cyflawni dyletswyddau derbynfa salon
  • Permio a niwtraleiddio gwallt neu blethu a thwistio gwallt

Ochr yn ochr â’ch prif gymhwyster, cewch gyfle i wella eich graddau naill ai drwy ailsefyll pynciau TGAU neu Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau pellach, datblygu eich hyder a’ch opsiynau gyrfa.

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch, prentisiaethau a gwaith yn y pen draw fel trinydd gwallt iau. 

Mae ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.

Yn dilyn y cwrs, gallech symud ymlaen i wneud cais am gwrs diploma lefel tri neu gael cyflogaeth mewn salonau masnachol, gwaith teledu, ffilm, theatr a'r cyfryngau, llongau gwyliau, cwmnïau gwneud wigiau, siopau barbro neu hunangyflogaeth. Gall tîm entrepreneuraidd yn y coleg gynnig arweiniad ar hunangyflogaeth.

Asesu'r Rhaglen

Fel rhan o'r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:

  • Arholiad ymarferol
  • Asesiadau parhaus
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Asesiadau ysgrifenedig

Gofynion y Rhaglen

Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei asesu mewn cyfweliad fodd bynnag, mae angen agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil alwedigaethol.

Bydd angen o leiaf pedwar TGAU arnoch ar raddau A* i D gyda dwy radd C, gydag un naill ai'n Gymraeg (iaith gyntaf)/Saesneg neu fathemateg.  Neu byddwn yn derbyn cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol. 

Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o'r cwrs.   Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yn hyn wedi cael y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol gan ddibynnu ar raddau TGAU blaenorol.

Costau Ychwanegol

Fel rhan o’ch cwrs, bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau ond ar ben hynny, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform. Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad cychwyn a gellir rhoi cyngor yn y cyfweliad.

Trefnir amryw deithiau trwy gydol y flwyddyn academaidd sy'n ymwneud â'r diwydiant gwallt, y bydd gofyn i chi dalu cyfraniad tuag atynt. 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.