Prentisiaeth - Trin Gwallt Lefel 3
Cipolwg
-
Llawn Amser
-
Blwyddyn - 18 mis
-
Campws y Graig
Mae Prentisiaeth Lefel 3 mewn Trin Gwallt yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed.
Ar y lefel hon, mae prentisiaid yn cael profiad gwerthfawr yn y gwaith i ddod yn gymwys mewn gwallt neu harddwch tra hefyd yn astudio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ar lefel NVQ 3 (cyfwerth â phum TGAU a dwy Safon Uwch).
Mae hyfforddiant yn canolbwyntio ar dechnegau trin gwallt mwy datblygedig ac arferion salon i ddod yn uwch steilydd.
Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer y trinwyr gwallt mwy profiadol hynny neu'r rheiny sydd wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel 2.
Bydd y prentis yn gyflogedig a bydd yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid (gallai hyn fod yn fwy yn ôl disgresiwn y cyflogwr). Caiff y prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r fframwaith prentisiaeth lefel tri o fewn y raddfa amser gytunedig.
Cynlluniwyd y cymhwyster galwedigaethol lefel tri hwn er mwyn datblygu ymhellach eich sgiliau a thechnegau trin gwallt a enillwyd gennych ar lefel dau.
Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd.
Adolygiadau rheolaidd gydag ymgynghorydd hyfforddi
Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.
Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn asesu’r prentis yn y gweithle yn ôl yr angen.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys unedau gorfodol ac opsiynol.
- Steilio a gwisgo gwallt yn greadigol
- Lliwio a goleuo gwallt yn greadigol
- Datblygu, gwella a gwerthuso eich sgiliau trin gwallt creadigol
Ochr yn ochr â’ch prif gymhwyster, cewch gyfle i wella eich graddau naill ai drwy ailsefyll pynciau TGAU neu Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau pellach a datblygu eich hyder ac opsiynau gyrfaol.
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen i gyflogaeth mewn salon neu i archwilio hunangyflogaeth.
Ar ôl cwblhau cymhwyster lefel tri efallai yr hoffech hyd yn oed wneud cais am weithio ar longau gwyliau - yn gwneud triniaethau gwallt ochr yn ochr â theithio'r byd. Hefyd mae yna gyfleoedd cyffrous eraill i weithio mewn amrywiol salonau cadwyn ledled y byd mewn gwledydd mor bell i ffwrdd â Dubai a Bermuda.
Mae ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.
Fel rhan o'r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:
- Arholiad ymarferol
- Asesiadau parhaus
- Portffolio o dystiolaeth
- Asesiadau ysgrifenedig
Gofynion mynediad lleiaf - Mae NVQ/VRQ Lefel 2 trin gwallt neu brofiad blaenorol a'r gallu i redeg cronfa gleientiaid brysur ynghyd â chyflwyniad personol priodol a hylendid personol yn hanfodol.
Mae sgiliau ymarferol, trefniadol a chymdeithasol ynghyd â safon uchel o ddeheurwydd a chydsymudiad hefyd yn hanfodol.