Designer

Prentisiaethau Ar-lein ac Ar y Campws

Mae buddsoddi mewn hyfforddiant staff yn allweddol ar gyfer unrhyw sefydliad llwyddiannus ac mae prentisiaethau’n cynnig cyfle gwych i uwchsgilio eich gweithlu. Fodd bynnag, nid yw cyflwyno prentisiaethau heb ei heriau.

Yr Angen am Hyblygrwydd

Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â i greu cyfres o brentisiaethau hyblyg sy’n cyfuno dysgu ar-lein gyda sesiynau wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth. 

Cynlluniwyd ein prentisiaethau Ar-lein ac Ar y Campws gyda chyflogwyr mewn golwg - maen nhw’n gofyn am lai o amser yn y coleg na modelau cyflwyno traddodiadol ac yn lleihau tarfu yn y gweithle. Mae’r dull hyblyg hwn yn golygu bod prentisiaid yn gallu dewis sut, pryd a ble maen nhw am astudio.

Ar-lein ac Ar y Campws - y gorau o ddau fyd

Mae darlithoedd fideo ar-lein ar gael ar alw, a gellir eu gweld ar ffôn, tabled neu gyfrifiadur. Mae’r gwersi yn para tua 45 munud ac mae animeiddiadau a graffeg symudol yn dod gyda nhw er mwyn dod â chysyniadau’n fyw. Mae astudio ar-lein yn golygu nad oes angen i brentisiaid fynychu’r coleg mor aml â gyda modelau cyflwyno traddodiadol.

Ar y campws, mae prentisiaid yn elwa ar ddosbarthiadau rheolaidd yn y coleg. Bydd tiwtoriaid coleg profiadol yn trafod ac yn atgyfnerthu pwyntiau dysgu allweddol sy’n deillio o’r astudio ar-lein ac maen nhw wrth law i roi arweiniad ar gynnydd ac asesu. Caiff amser allan o’r gweithle ei leihau diolch i’r deunyddiau dysgu ar-lein.

Slide 3
Gabriella Labrum
Ymgynghorydd Adnoddau Dynol, Tulip Ltd.

“Mae prentisiaeth gyfrifyddu Mindful Education wedi bod yn wych i’n busnes ni. Golyga’r elfen dysgu ar-lein fod ein prentis yn gallu mewngofnodi i astudio unrhyw bryd, mae’r ddadansoddeg yn caniatáu i ni olrhain ac adrodd yn hawdd ar y gofyniad am 20% i ffwrdd o’r gwaith.”

Prentisiaethau Ar-lein ac Ar y Campws

Prentisiaeth AAT Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg (Ar-lein ac Ar y Campws)

Mae'r fframwaith hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n dymuno dilyn gyrfa yn y proffesiwn cyfrifeg. Mae prentisiaeth sylfaen yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith ar lefel dau lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Bydd y prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth cenedlaethol. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.