Mae’r cwrs AAT (Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu) hwn yn gymhwyster cadw cyfrifon lefel mynediad, sy’n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n edrych am gyflwyniad i egwyddorion a sgiliau sylfaenol cadw cyfrifon.
Cyflwynir y cwrs hyblyg hwn mewn partneriaeth â , ac mae’n cyfuno dysgu ar-lein gyda gwersi wyneb-yn-wyneb yn yr ystafell ddosbarth.
Cipolwg
Rhan Amser
1 Blwyddyn
Ar-lein / Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Bydd y cwrs byr hwn, a astudir dros bedwar mis, yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i reoli llyfrau’n effeithiol – gan gynnwys cadw cyfrifon cofnodi dwbl, a dogfennau a phrosesau cysylltiedig, hyd at safon y Fantolen Brawf.
Ar gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn cael Tystysgrif Lefel 2 AAT mewn Cadw Cyfrifon. Mae’r cymhwyster AAT (Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu) hwn a gydnabyddir yn rhyngwladol yn galluogi’r rheiny sy’n gweithio ym maes cyfrifyddu neu’r rheiny sydd am ddilyn cyfrifeg fel gyrfa i ennill gwybodaeth, profiad ymarferol a’r ardystiad hollbwysig y mae cyflogwyr yn aml yn chwilio amdano.
Gellir defnyddio'r cymhwyster hwn fel llwybr carlam i Ddiploma Lefel 3 AAT mewn Cyfrifyddu.
Cynnwys y Rhaglen
Unedau Astudio
Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon
Egwyddorion Cadw Cyfrifon
Dull Astudio - Ar-lein ac Ar y Campws
Rydym wedi partneru gyda Mindful Education i gyflwyno’r cwrs hwn trwy ein model Ar-lein ac Ar y Campws hyblyg.
Ar-lein, byddwch yn astudio gwersi fideo arobryn, sydd ar gael ar alw, ac y gellir eu gweld ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur - sy’n golygu y gallwch ddewis sut, pryd a ble rydych chi am astudio. Mae’r gwersi yn para tua 45 munud ac mae animeiddiadau a graffeg symudol yn dod gyda nhw er mwyn dod â chysyniadau’n fyw. Mae cwestiynau ymarfer, deunyddiau gwersi y gellir eu lawrlwytho ac astudiaethau achos rhyngweithiol yn helpu i wella’r profiad dysgu ymhellach a dylai dysgwyr ddisgwyl treulio tua 4-5 awr yn astudio’n annibynnol ar-lein bob wythnos.
Ar y campws, rydych yn elwa ar ddosbarthiadau rheolaidd gyda thiwtor coleg - heb orfod ymrwymo i fynychu sawl noson bob wythnos. Bydd eich tiwtor yn adolygu’r hyn rydych wedi’i ddysgu yn ystod eich gwersi ar-lein a bydd wrth law i roi arweiniad ar gynnydd ac asesu. Bydd trafodaeth gyson gyda chyd-fyfyrwyr yn helpu i atgyfnerthu pwyntiau allweddol tra hefyd yn darparu'r gefnogaeth ychwanegol a'r cymhelliant a ddaw yn sgil bod yn rhan o grŵp.
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i Gymwysterau Cyfrifyddu AAT lefel uwch (Lefel 3 ac yna ymlaen i Lefel 4).
Efallai bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r Dystysgrif Lefel 2 AAT hon mewn Cadw Cyfrifon am fynd ymlaen a chwblhau’r Dystysgrif Lefel 2 AAT lawn mewn Cyfrifyddu. Os dewiswch barhau â’ch astudiaethau yn y modd hwn, yna bydd eich cyflawniadau yn y cymhwyster Cadw Cyfrifon yn cael eu trosglwyddo i’r cymhwyster Cyfrifyddu hirach.
O dan fenter y Gronfa Sgiliau Genedlaethol, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer cwrs Lefel 3 wedi’i ariannu’n llawn. Fel arall, gallwch wneud cais am fenthyciad dysgwr uwch i dalu cost eich astudiaeth Lefel 3. Gofynnwch i aelod o staff y coleg am fwy o wybodaeth.
Bydd y sgiliau a’r wybodaeth y byddwch yn eu hennill trwy gydol y cymhwyster hwn yn eich cymhwyso ar gyfer rolau gan gynnwys Cynorthwyydd Clerigol, Ceidwad Cyfrifon Dan Hyfforddiant, Clerc Cyfrifon, Cynorthwyydd Cyllid a Gweinyddwr Cyfrifon.
Asesu'r Rhaglen
Caiff y cwrs hwn ei asesu trwy ddau arholiad ar gyfrifiadur, un i’w gymryd ar ddiwedd bob uned.
Gofynion y Rhaglen
Does dim gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Byddai gwybodaeth flaenorol o gyfrifyddu neu gymhwyster Cadw Cyfrifon Lefel 1 yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol.
Costau Ychwanegol
Codir tâl ychwanegol am bob ailsefyll arholiad. Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a gallech hefyd wynebu costau os bydd yr adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.