Mae’r cwrs undydd hwn, dyfarniad lefel 3 achrededig EAL sy’n cwmpasu’r gofynion ar gyfer gosod mannau gwefru cerbydau trydan (EAL 603/3929/9). Mae’n dilyn Cod Ymarfer yr IET ar gyfer Gosod Mannau Gwefru Cerbydau Trydan a BS 7671.
Mae’r cwrs yn cwmpasu gofynion BS7671 mewn perthynas â'r adran newydd ar fannau gwefru cerbydau trydan, yn trafod sut y gellir cyflenwi'r cyflenwad trydan o gyflenwadau preifat a chyhoeddus. Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall sut i osod y mannau hyn yn unol â BS7671.
Yn ogystal ag ennill achrediad EAL, byddwch hefyd yn dod yn gyfarwydd â chyfarpar Rolec, prif wneuthurwr mannau gwefru cerbydau trydan Prydain, ac yn cael tystysgrif Rolec.
Cipolwg
1 Diwrnod
Gelli Aur, Llandeilo / Caerdydd, Cymru
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Rhaid i bob ymgeisydd fod wedi pasio Gofynion 18fed Argraffiad ar gyfer Gosodiadau Trydan (Rheoliadau). RHAID darparu copïau o dystysgrifau.
Yn ymarferol, rhaid i ymgeiswyr allu gosod a therfynu cebl SWA a chyflawni Gwiriad Cychwynnol ar osodiad trydanol a chwblhau'r holl waith papur cysylltiedig.
Gofynion Mynediad
Rhaid i bob ymgeisydd fod wedi pasio Gofynion 18fed Argraffiad ar gyfer Gosodiadau Trydan (Rheoliadau). RHAID darparu copïau o dystysgrifau.
Dilyniant
Bydd y tystysgrifau EAL a Rolec yn galluogi ymgeiswyr i osod mannau gwefru cerbydau trydan a gwneud cais am gyllid OLEV, sy’n sicrhau grant o £350 am bob gosodiad.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.