Cynlluniwyd cynnwys y cymhwyster hwn i roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i’r dysgwyr i weithio’n ddiogel ar gerbydau Trydan/Hybrid tra’n cyflawni gweithgareddau cynnal a chadw ac atgyweirio arferol (nid cydrannau neu systemau foltedd). Gall hyn gynnwys cerbydau y gall fod difrod neu roedd difrod i’w system ynni uchel/trydanol.
Yn ystod y cwrs byddwch yn cwmpasu: ● Cydrannau a gweithrediad system cerbyd trydan/hybrid ● Peryglon yn gysylltiedig â cherbydau trydan/hybrid ● Sut i leihau’r risgiau i chi’ch hun ac eraill wrth weithio ar gerbydau trydan/hybrid ● Paratoi’r cerbyd yn ddiogel wrth wneud gwaith cynnal a chadw arferol (NID cydrannau neu system foltedd uchel)
Cipolwg
2 Ddiwrnod
Pibwrlwyd, Caerfyrddin / SA1, Abertawe
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cwrs hyfforddi deuddydd hwn yn addas ar gyfer technegwyr Cerbydau Modur cymwys Lefel 2 sy’n gweithio ar Gerbydau Hybrid/Trydan. Fel cyflogwr, mae gennych gyfrifoldeb am unrhyw un sy'n trin trydan fel rhan o'r rôl.
Gofynion Mynediad
Mae’r cwrs hyfforddi deuddydd hwn yn addas ar gyfer technegwyr Cerbydau Modur cymwys Lefel 2 sy’n gweithio ar Gerbydau Hybrid/Trydan. Fel cyflogwr, mae gennych gyfrifoldeb am unrhyw un sy'n trin trydan fel rhan o'r rôl.
Dilyniant
Dyfarniad Lefel 3 IMI mewn Atgyweirio ac Ailosod System Cerbyd Trydan/Hybrid
Cyflwynir gwaharddiad ar werthu ceir a faniau newydd petrol a diesel yn unig yn 2030. Mae hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar yr angen brys i fecanyddion ceir presennol uwchsgilio er mwyn sicrhau cynaladwyedd a chyflogaeth hir dymor.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.