Skip to main content

Dyfarniad Lefel 1 IMI mewn Ymwybyddiaeth o Gerbydau Trydan/Hybrid

Cost y cwrs: £150

Disgrifiad o’r Rhaglen

Bydd gan unigolion sy’n cwblhau’r cwrs hwn ddiddordeb mewn ennill y wybodaeth i weithio’n ddiogel yn y diwydiant adwerthu cerbydau modur wrth iddo barhau i weld cynnydd yn y cerbydau Trydan/Hybrid sy’n mynd i mewn i’r gweithle. Mae’r cwrs undydd wedi’i gynllunio i roi cyflwyniad i unigolion i wybodaeth am arferion gwaith diogel, y peryglon o gwmpas pan yn agos i gerbydau Trydan/Hybrid a’r rhagofalon sy’n ofynnol i osgoi anaf posibl.

Yn ystod y cwrs byddwch yn cwmpasu:
● Y mathau o gerbydau Trydan/Hybrid sydd ar gael.
● Peryglon sy'n gysylltiedig â systemau trydanol ynni uchel cerbydau modur.
● Gweithio'n ddiogel o gwmpas cerbydau Trydan/Hybrid gan gynnwys gwefru.

O ganlyniad, bydd y rheiny sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn ennill gwybodaeth greiddiol sylweddol am weithio’n ddiogel o gwmpas cerbydau Trydan/Hybrid, ond nid eu cynnal a’u cadw.

Cipolwg

  Hanner Dydd

  Pibwrlwyd, Caerfyrddin

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae'r cymhwyster maint Dyfarniad hwn yn cynnig cyflwyniad i'r sector diwydiant arbenigol hwn a fydd, yn ogystal ag ategu eu cymwysterau a'u profiad presennol yn y diwydiant, yn galluogi unigolion i barhau i weithio'n ddiogel yn eu rôl.

Fel cyflogwr, mae gennych gyfrifoldeb am unrhyw un sy'n trin trydan fel rhan o'r rôl.

Gofynion Mynediad

Does dim gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn ac ni ddisgwylir i ddysgwyr feddu ar unrhyw wybodaeth neu brofiad blaenorol, fodd bynnag, fe'ch cynghorir i fod â diddordeb yn y maes pwnc.

Dilyniant

Dyfarniad Lefel 2 IMI mewn Atgyweirio ac Ailosod System Cerbyd Trydan/Hybrid
Calibro Systemau Cynorthwyo Gyrrwr Awtomataidd

Cyflwynir gwaharddiad ar werthu ceir a faniaupetrol a diesel yn unig newydd yn 2030. Mae hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar yr angen brys i fecanyddion ceir presennol uwchsgilio er mwyn sicrhau cynaladwyedd a chyflogaeth hir dymor.

Cost

£150

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.