Sylfaen ac Ymarferydd AXELOS PRINCE2
Mae'n bosibl y bydd cyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a/neu React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.
Disgrifiad o'r Rhaglen
Fel y dull a ddefnyddir fwyaf yn y byd ar gyfer Rheoli Prosiectau, mae gan PRINCE2® dros filiwn o weithwyr proffesiynol ardystiedig ar draws 150 o wledydd ledled y byd. Mae’r cwrs hwn yn cynnig methodoleg ymarferol, hyblyg ac ymestynadwy i helpu rheoli prosiectau o bob maint a math. Mae’r cwrs hyfforddi PRINCE2 (6ed argraffiad) yn dysgu methodoleg PRINCE2 i’r dysgwyr, sy'n cynnwys y saith Egwyddor, Themâu a Phrosesau. Mae'r Egwyddorion yn cynrychioli'r 'pam', mae'r Themâu yn cynrychioli'r 'beth' ac mae'r Prosesau'n cynrychioli’r 'sut' o ran rheoli prosiect. Gyda'i gilydd maent yn darparu llwybr y gellir ei lywio tuag at lwyddiant wrth reoli prosiect.
Cynlluniwyd y cwrs hwn i roi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i ddysgwyr ddeall cysyniadau allweddol sy’n ymwneud â phrosiectau a PRINCE2, sut mae egwyddorion PRINCE2 yn sail i ddull PRINCE, themâu PRINCE2 a sut maen nhw’n cael eu cymhwyso trwy gydol y prosiect a phrosesau PRINCE2 a sut maen nhw’n cael eu cyflawni drwy gydol y prosiect. Yn ogystal, gallu cymhwyso egwyddorion PRINCE2 mewn cyd-destun a chymhwyso a theilwra agweddau perthnasol ar themâu a phrosesau PRINCE2 mewn cyd-destun.
Cynyddu dealltwriaeth y dysgwr o fethodoleg PRINCE2 i lefel ymarferydd a dysgu sut i gymhwyso saith egwyddor PRINCE2 o fewn unrhyw brosiect. Yn ogystal, gall dysgwyr roi eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth ar brawf gyda'r arholiad a ddarperir ar ddiwedd y cwrs.

Cipolwg
5 Diwrnod
Ystafell Ddosbarth Rithwir
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Cynlluniwyd y cwrs hwn i roi'r derminoleg a'r egwyddorion sydd eu hangen ar ddysgwyr i ddod yn aelod gwybodus o dîm rheoli prosiect. Argymhellir y cymhwyster hwn i unigolion sydd am gael hyfforddiant rheoli prosiectau o’r radd flaenaf, gan ennill y sgiliau sydd eu hangen i wella rhagolygon cyflogadwyedd a datblygu gyrfa fel rheolwr prosiect.
Gofynion Mynediad
I fod yn gymwys ar gyfer y cwrs PRINCE2 ar gyfer y cymhwyster Ymarferydd, bydd angen bod dysgwyr wedi llwyddo ar un o’r cyrsiau canlynol.
- Ardystiad PRINCE2 Sylfaen (5ed Argraffiad neu 6ef Argraffiad)
- Gweithiwr Proffesiynol Rheoli Prosiectau (PMP)
- Cyswllt Ardystiedig mewn Rheoli Prosiectau (CAPM)
- IPMA Lefel A, B, C, neu D
Dilyniant
Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gall dysgwyr ymchwilio i swyddi uwch fel dadansoddwr busnes iau, rheolwr prosiectau, uwch ddadansoddwr prosiectau a rheolwr prosiectau.
Cost
Mae'n bosibl y bydd cyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a/neu React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.
