Gwregys Du Lean Six Sigma
Cost y cwrs: £3,995
Mae'n bosibl y bydd cyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a/neu React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.
Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae Lean Six Sigma yn cynnig y gorau o fethodolegau Lean a Six Sigma, gan helpu i safoni gwaith, dileu gwastraff a diffygion, gwella boddhad cwsmeriaid, a helpu'r busnes i ddod yn fwy proffidiol. Mae deilydd Gwregys Du Lean Six Sigma ardystiedig yn weithiwr proffesiynol sydd wedi’i hyfforddi ym methodolegau ac offer uwch Lean Six Sigma ac mae’n gyfrifol am arwain prosiectau gwelliant cymhleth ym mhob adran o fewn sefydliad, yn ogystal â hyfforddi a mentora Gwregysau Melyn a Gwyrdd.
Mae’r pynciau a gynhwysir yn y cwrs hwn yn cynnwys hanfodion Six Sigma, cyflwyniad i lif a galw, cyflwyniad i ystadegau Six Sigma, dadansoddi kano, gallu prosesau, dyluniad arbrofion. Rôl Gwregys Du, rheoli newid, profi rhagdybiaethau data annormal, dadansoddiad atchweliad uwch ac arbrofion ffactoraidd ffracsiynol i enwi ond ychydig.
Gydag arholiad ar ddiwedd y cwrs bydd dysgwyr yn gallu defnyddio amrywiaeth o offer dadansoddol a graffigol sy’n gysylltiedig â Six Sigma ar lefel Gwregys Du. Dewis, defnyddio a dehongli'n gywir y canlyniadau o sawl offeryn dadansoddol craidd a dangos gwybodaeth gadarn o'r defnydd cywir o ddata gwrthrychol mewn prosiectau gwella.

Cipolwg
10 Diwrnod
Dysgu Ar-lein
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sydd ar hyn o bryd yn meddu ar dystysgrif Gwregys Gwyrdd ac sydd am ddatblygu eu gwybodaeth a’u profiad i’r lefel nesaf. Fodd bynnag, mae’r cwrs hwn hefyd yn addas ar gyfer dysgwyr sydd ag ychydig neu ddim profiad. Ar lefel Gwregys Du bydd dysgwyr yn mentora, yn cynghori ac yn cefnogi Gwregysau Melyn a Gwyrdd, ac yn ymgymryd â chyfrifoldebau prosiectau uwch.
Gofynion Mynediad
Does dim gofynion mynediad ar gyfer y cwrs Gwregys Du Lean Six Sigma hwn. Mae’n agored i unigolion sydd ag ychydig neu ddim profiad, sy’n ceisio symud i rôl rheoli prosiectau fel gweithiwr Lean Six Sigma proffesiynol.
Dilyniant
Unwaith y bydd dysgwyr wedi ennill tystysgrif gwblhau ar y cwrs hwn, bydd amrywiaeth o swyddi uwch a swyddi rheoli ar gael gan gynnwys rheolwr gwella prosesau, rheolwr gwelliant parhaus, rheolwr ansawdd. Rheolwr Gwregys Du Six Sigma, cyfarwyddwr sicrhau ansawdd (QA) a chyfarwyddwr gweithrediadau.
Cost
£3,995
Mae'n bosibl y bydd cyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a/neu React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.
